Heddiw (18 Mawrth 2009) bydd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, yn cyhoeddi canfyddiadau astudiaeth ar fasnachu plant yng Nghymru.
Bu’r astudiaeth hon – Ffiniau Pryder – a gynhaliwyd gan ECPAT UK ar ran y Comisiynydd Plant, yn canolbwyntio ar ganfod sylfaen o dystiolaeth ynghylch masnachu plant yng Nghymru. Bu hefyd yn edrych ar y lefelau ymwybyddiaeth o faterion masnachu plant ymhlith y gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau dethol yn y sector gwirfoddol, yn archwilio sut bu’r gwasanaethau cymdeithasol yn ymdrin ag achosion o fasnachu plant a nodwyd, ac i ba raddau mae awdurdodau lleol yn hybu cydweithrediad rhwng asiantaethau statudol ac eraill.
Cafwyd tystiolaeth bod y gwasanaethau cymdeithasol, y sector gwirfoddol a’r heddlu wedi dod ar draws achosion a gadarnhawyd a rhai lle roedd amheuon bod plant yn cael eu masnachu. Disgrifiodd ymarferwyr 32 o achosion a oedd yn destun pryder; mae’r achosion hyn yn ymwneud â phlant tair a hanner a throsodd, sy’n dod o amrywiaeth o wledydd yn wreiddiol. Roedd hi’n drawiadol bod mwy o fechgyn na merched wedi’u nodi yn ystod yr astudiaeth.
Mae’r adroddiad yn cloi gyda chwe argymhelliad gan Gomisiynydd Plant Cymru, yn amrywio o’r angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru gynnal archwiliad o’r hyfforddiant perthnasol sydd ar gael i ymarferwyr ar hyn o bryd, i alw ar y Llywodraeth i gynnull grŵp Cymru gyfan ar fasnachu pobl, y bydd ei gylch gwaith yn cynnwys casglu a lledaenu data a gwybodaeth berthnasol a monitro tueddiadau. Mae’n mynd ymlaen i argymell y dylai’r holl Fyrddau Diogelu Plant Lleol roi Arweiniad 2008 ar Ddiogelu Plant a Allai fod wedi cael eu Masnachu ar waith o fewn blwyddyn i gyhoeddi’r adroddiad.
Eglurodd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, ei resymau dros gomisiynu’r ymchwil:
“Er mwyn mynd i’r afael yn effeithiol â masnachu plant, mae’n rhaid derbyn yn gyntaf ei fod yn bodoli.
“Mae’r sampl sydd gennym yma yn fach, ond yn bendant mae llawer mwy i’w ddarganfod. Rwy’n gobeithio bydd yr ymchwil yma yn helpu i newid y diwylliant o anghrediniaeth ac y bydd ymarferwyr yn dechrau cydweithio i sicrhau bod holl blant a phobl ifanc Cymru – o ble bynnag maen nhw’n dod yn wreiddiol – yn mwynhau’r un hawliau, yn cynnwys yr hawl i gael eu diogelu.”
Ychwanegodd Christine Beddoe, o ECPAT UK, a fu’n arwain yr astudiaeth:
“Cafwyd hyd i blant a oedd wedi cael eu masnachu ar draws Cymru, ond roedd tystiolaeth bod nifer o rwystrau i adnabod y plant hynny a’u cadw’n ddiogel. O’r rhain, yr hyn oedd yn achosi’r pryder mwyaf oedd bod gweithwyr proffesiynol yn methu credu y gallai ddigwydd. Roedd hyn yn gadael plant yn agored i niwed. Mae rhaid i asiantaethau’r Llywodraeth fynd ati’n fwriadol i dynnu sylw at fasnachu plant fel mater sy’n gallu ac yn digwydd yn eu hardal leol.”
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
ECPAT UK (End Child Prostitution, Child Pornography and Trafficking of Children for Sexual Purposes) yw un o brif sefydliadau hawliau plant y DU.
Mae ECPAT UK yn gweithio ar lefelau uchaf y llywodraeth, ond mae hefyd yn estyn allan at ymarferwyr ac eraill sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant trwy ymchwilio, hyfforddi a meithrin gallu.