Mae Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert AC, y bydd rôl a chylch gorchwyl Comisiynydd Plant Cymru yn destun adolygiad annibynnol llawn yn y dyfodol agos.
Bydd yr adolygiad yn edrych ar gylch gorchwyl deddfwriaethol a threfniadau craffu a llywodraethu’r Comisiynydd, a bydd yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru.
Meddai Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru:
“Rwy’n edrych ymlaen at ddod i gysylltiad â’r Gweinidog a’i swyddogion i ddatblygu manylion yr adolygiad pwysig hwn. Rwyf wedi datgan yr angen am adolygiad annibynnol yn gyhoeddus yn y gorffennol, ac rwy’n falch bod y Gweinidog yn teimlo ei bod hi bellach yn bryd cynnal yr adolygiad hwnnw.
“Mae diogelu plant a phobl ifanc yng Nghymru a hybu eu hawliau yn hanfodol bwysig. Rydym ni’n byw mewn gwlad sy’n cydnabod plant fel deiliaid hawliau, a ni yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddod â chyfraith i rym ar hawliau plant, felly byddwn i’n disgwyl i Lywodraeth Cymru barhau i ddatblygu eu hymrwymiad i weithredu a chynnal hawliau plant a phobl ifanc yn effeithiol yng Nghymru”.