Comisiynydd Plant Cymru’n honni bod unedau cyfeirio disgyblion yn cael eu gweld fel ôl-ystyriaeth
Mae adroddiad yn edrych ar unedau cyfeirio disgyblion, lle caiff rhai o ddysgwyr mwyaf agored i niwed Cymru eu haddysgu, wedi dod i’r casgliad bod yr ymarfer yn anghyson a’u bod yn rhy aml yn ôl-ystyriaeth ymhlith blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
Bu’r adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru yn edrych ar y ddarpariaeth addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) ac yn canolbwyntio ar farn y dysgwyr, eu llesiant a’u hawl i dderbyn addysg. Dyma rai o’r canfyddiadau:
- Mae’r ymarfer mewn UCDau yn dal yn anghyson: dyma ‘wasanaeth addysg Sinderela’.
- Mae angen newid yr agwedd gyffredinol at UCDau: ‘yn rhy aml mae pobl ifanc yn cael eu labelu’n enghreifftiau gwaethaf y system addysg’.
- Mae gormod o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol yn cyrraedd yr UCD ar adeg lle mae eu problemau wedi bod heb gefnogaeth ac wedi esgaladu i bwynt lle mae ymgysylltu ag addysg yn arbennig o anodd.
- Mae ymateb i ystod a dyfnder anghenion ychwanegol dysgwyr mewn UCDau yn heriol, yng nghyd-destun capasiti’r staff a gallu cyrchu hyfforddiant priodol.
Meddai Keith Towler, y Comisiynydd Plant:
“Mae’n galonogol bod 53% o’r dysgwyr yn barnu bod y cymorth maen nhw wedi’i gael yn yr UCD yn rhagorol, ond mae staff yn y sefydliadau hyn wedi dweud wrthyf fi eu bod nhw’n teimlo’n ynysig iawn o ran mentrau newydd ac arfer da, a’u bod yn cael eu gweld fel rhywle i ollwng dysgwyr sydd o dan anfantais. Maen nhw’n awgrymu bod y lledaenu ar wybodaeth am ddatblygu’r cwricwlwm yn wael, bod anawsterau i recriwtio staff addysgu, anawsterau i sicrhau darpariaeth amgen a galwedigaethol o ansawdd er mwyn cyflwyno’r Llwybr 14 – 19, a bod dros 8 mlynedd wedi mynd heibio ers cyflwyno’r canllawiau cenedlaethol diwethaf ar unedau cyfeirio disgyblion.
“Yn sgîl cynnal ymweliadau safle, rwyf wedi gweld drosof fy hun bod yr UCDau sydd â ffocws cryf ar lesiant disgyblion, gyda chefnogaeth gwaith partneriaeth ar y cyd ag asiantaethau eraill ac ymrwymiad staff, wedi golygu bod y disgyblion sydd yno’n elwa o becynnau dysgu unigol sy’n rhoi cyfleoedd iddynt gyflawni. Os ydym ni i weld arfer da ar waith yn gyson mewn UCDau, mae angen codi’r statws o’r hyn a ddisgrifiwyd fel ‘gwasanaeth Sinderela’ i un sy’n cydnabod ei gyfraniad at sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cyflawni hyd eithaf eu potensial ym myd addysg”.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys naw argymhelliad i Lywodraeth Cymru ac i’r consortia addysg rhanbarthol yng Nghymru, gan gynnwys y canlynol:
- Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno canllawiau newydd ar ddarpariaeth a diben UCDau fel rhan o’i fframwaith ar gyfer gwella ysgolion a model cenedlaethol ar gyfer gweithio rhanbarthol.
- Rhaid i Lywodraeth Cymru roi sylw dyledus i’r mesurau y bydd angen eu rhoi ar waith i gefnogi cyflwyno’r cwricwlwm newydd o fis Medi 2015 mewn UCDau.
- Dylai consortia addysg rhanbarthol sicrhau bod y mesurau a gyflawnir i gefnogi gwella ysgolion yn cynnwys ac yn rhoi sylw dyledus i anghenion UCDau fel lleoliadau addysg sydd â statws cydradd â’r lleoliadau addysg eraill megis ysgolion prif ffrwd.
Astudiaeth Achos Arfer Da gan y Comisiynydd Plant:
“Yn ystod fy ymweliad â Cheredigion, creodd awyrgylch digynnwrf, meithringar yr UCD gryn argraff arna i. Mae’r Athro â Gofal a Phennaeth yr ysgol y mae’r UCD yn gysylltiedig â hi wedi ymrwymo’n gadarn i gefnogi llesiant y disgyblion, ac roedd yn amlwg i mi eu bod yn gwybod ac yn deall beth yw anghenion pob plentyn a pherson ifanc unigol.
Ymateb Ceredigion i sefyllfa lle nad oedd eu darpariaeth UCD yn addas at y diben oedd sicrhau llechen lân a dull newydd o ymdrin â chynnwys disgyblion a’u llesiant. Mae canlyniadau’r dull hwn yn siarad drostynt eu hunain. Mae’r disgyblion y bues i’n siarad â nhw yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel, ac yn gwybod bod eu haddysg o bwys. Rwy’n credu ei bod hi’n hanfodol i’r gwersi a ddysgwyd yng Ngheredigion gefnogi newid a gwelliant ar draws y ddarpariaeth UCDau yng Nghymru.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- Caiff UCDau eu cynnal gan awdurdodau addysg lleol, ac fe’u trefnir i ddarparu addysg y tu allan i leoliad ysgol ar gyfer disgyblion na fyddent o bosib yn derbyn addysg fel arall
- Ym mis Ionawr 2013, roedd 41 UCD yng Nghymru
- Roedd 574 o ddisgyblion wedi’u cofrestru mewn UCDau yng Nghymru yn 2012/13