14 Gorffennaf 2014
Mae plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed ac sydd yn y system gofal yng Nghymru yn dal i gael eu hamddifadu o’r hawl i gael ‘llais’ proffesiynol annibynnol, a elwir yn eiriolwr, bedair blynedd ar ddeg ar ôl i ymchwiliad uchel ei broffil (Tribiwnlys Waterhouse) i gam-drin plant mewn cartrefi gofal argymell y dylai’r gwasanaeth fod ar gel i bob plentyn sydd â chwyn.
Caiff yr adroddiad, ‘Lleisiau Coll: yr Hawl i gael eu Clywed’, ei gyhoeddi heddiw (10 Gorffennaf 2014) gan Gomisiynydd Plant Cymru, ac mae’n amlygu pryderon a rhwystredigaeth gynyddol Keith Towler. Er yn canmol ymrwymiad amlwg Gweinidogion i eiriolaeth, fel a welir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae’r Comisiynydd yn tynnu sylw at yr hyn sy’n ymddangos fel diffyg dyhead a phenderfyniad o fewn Llywodraeth Cymru i wthio newid ar lefel briodol, fyddai’n gwneud gwahaniaeth i blant a phobl ifanc heddiw.
Ar hyn o bryd, dan Ddeddf Plant 1989 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002, mae ymrwymiad statudol ar bob awdurdod lleol i ddarparu ‘llais’ proffesiynol annibynnol, a elwir yn eiriolwr, i bob plentyn a pherson ifanc sy’n derbyn gofal, sy’n gadael gofal neu sydd mewn angen ac sy’n dymuno cymryd rhan neu wneud sylwadau am y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud am eu bywydau. Dylid darparu eiriolwr hefyd os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn dymuno gwneud cwyn.
Dywedodd Keith Towler, y Comisiynydd Plant:
“Ni allaf wadu bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, ond bu’n anghyson ac yn araf. Cafwyd gormod o esgusodion ynglÅ·n â pham nad yw newid wedi digwydd yn fwy cyflym ac yn y cyfamser mae sefyllfa plant a phobl ifanc wedi aros yr un fath ar y cyfan.
Ychwanegodd:
“Mae eiriolaeth yn wasanaeth diogelu sylfaenol ac ni allwn dderbyn y sefyllfa gyfredol, lle mae gallu ein plant a phobl ifanc mwyaf bregus i fanteisio ar eiriolaeth, ynghyd ag ansawdd y gwasanaeth hwnnw, yn loteri cod post.
“Mae amlygrwydd sgandalau cam-drin hanesyddol ar hyn o bryd yn dangos pa mor bwysig yw hi i ni sicrhau ar unwaith bod y gwasanaeth eiriolaeth i blant a phobl ifanc yn gweithio’n iawn heddiw. Mae eiriolaeth yn ein galluogi i greu diwylliant lle’r ydym ni’n gwrando ar blant a phobl ifanc, diwylliant lle gallwn ni ddiogelu ein plant yn well. Yn gryno, mae eiriolaeth yn diogelu plant a phobl ifanc.”
Ddwy flynedd ers i’r Comisiynydd gyhoeddi “Lleisiau Coll”, ei adolygiad o eiriolaeth broffesiynol annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, rhai sy’n gadael gofal a phlant mewn angen yng Nghymru, canfu ei adroddiad diweddaraf ar gynnydd y gwaith nad oedd 63% o’r 384 o blant mewn gofal a holwyd yn gwybod pwy oedd eu darparwr eiriolaeth. Ychydig o dystiolaeth a gafwyd hefyd bod awdurdodau lleol yn mynd ati’n weithredol i edrych ar faint o’r bobl ifanc sy’n ymgymryd â gwasanaethau eiriolaeth mewn perthynas â’r nifer sydd mewn gofal.
Mae’r adroddiad yn cynnwys pum argymhelliad pellach, gan gynnwys galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu model cenedlaethol o gomisiynu gwasanaethau eiriolaeth broffesiynol annibynnol ac argymhelliad y dylai awdurdodau lleol wneud cynnig gweithredol o eiriolaeth i bob plentyn a pherson ifanc sy’n mynd i’r system gofal.
Dyma esboniad Tasha Woods, person ifanc o ogledd Cymru, o bwysigrwydd eiriolaeth:
“Rwyf i’n berson ifanc yng ngogledd Cymru sydd wedi bod dan ofal yr awdurdod lleol. Pan oeddwn i’n derbyn gofal chefais i ddim cynnig gwasanaeth eiriolaeth erioed, na gwybodaeth am y gwasanaethau chwaith. Allwn i ddim fod dweud wrthych chi beth oedd eiriolwr na’r hyn maen nhw’n gallu ei wneud ar ran plant a phobl ifanc. Ond erbyn hyn rwyf i wedi deall pwysigrwydd sylfaenol eiriolaeth i blant a phobl ifanc a’r effaith cadarnhaol mae eiriolwr yn gallu ei gael ar berson ifanc mewn gofal. Mae’n grymuso plant i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu parchu a bod eu barn yn cael ei chlywed.
“Rwyf i nawr yn gweithio gyda phobl ifanc eraill i wella’r gwasanaeth eiriolaeth yng Nghymru, yn enwedig i’r rhai mwyaf bregus ac sydd mewn angen. Yn bersonol rwyf i’n credu bod angen i’r gwasanaethau eiriolaeth fod yn annibynnol oddi wrth yr Awdurdodau Lleol gydag un model Cenedlaethol clir er mwyn dod â’r anghydraddoldeb rhwng gwasanaethau eiriolaeth yng ngogledd a de Cymru i ben.”
DIWEDD