13 Hydref 2014
Rhybudd moel y Comisiynydd Plant, wrth iddo gyhoeddi ei adroddiad blynyddol, yw bod gwasanaethau hanfodol sy’n ceisio amddiffyn plant a phobl ifanc agored i niwed mewn perygl o gael eu colli oherwydd diffyg gweledigaeth ac arweiniad Llywodraeth Cymru.
Yn ei adroddiad blynyddol olaf fel Comisiynydd Plant, mae Keith Towler yn mynegi pryderon bod Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn rhy gyfforddus gyda’i statws fel arweinydd rhyngwladol ym maes hawliau plant, er ei bod heb weledigaeth glir ar gyfer plant a phobl ifanc ac yn methu cyflawni o ran sicrhau hawliau plant.
Mae’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon yn cwmpasu prif feysydd gwaith eraill swyddfa’r Comisiynydd yn ystod y 12 mis diwethaf, er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc ledled Cymru a bod yn bencampwr iddynt. Mae hefyd yn cynnwys manylion ei wasanaeth cyngor a chymorth annibynnol, a fu’n delio gyda mwy na 500 o achosion eleni, 33% ohonyn nhw’n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol, a 28% yn ymwneud ag addysg.