17 Mehefin 2015
Yn ymateb i adroddiad blynyddol yr NSPCC ar stâd y genedl, fe wnaeth Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, ddweud:
“O’r ffigurau yma mae’n edrych yn debyg fod plant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi goroesi cam-drin mewn plentyndod, yn ymddiried mwy yn y system gyfiawnder ac yn teimlo y bydd pobl yn gwrando ac yn eu cymryd o ddifri pan fyddan nhw’n siarad allan.
“Er hynny, mae’r cynnydd mewn niferoedd yn golygu bod rhaid gweld cynnydd mewn gwasanaethau ac mae’n rhaid i ni ddysgu gwersi o ymholiadau eraill megis rheiny yng ngogledd Cymru a Rotherham. Mae’n rhaid i ni sicrhau fod plant sy’n ddioddefwyr o gam-drin rhywiol yn teimlo’n ddiogel i adrodd eu profiadau a sicrhau y byddan nhw’n cael derbyn gwybodaeth, eiriolaeth a chefnogaeth therapiwtig.”