Comisiynydd Plant Cymru yn cyflwyno neges ddigysur i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn

1 Gorffennaf 2015

Mae gormod o blant yn Nghymru yn methu cael plentyndod teilwng oherwydd effeithiau beichus tlodi plant – dyma’r neges ddigysur sy’n cael ei chyflwyno i’r CU heddiw (1 Gorffennaf 2015) gan Sally Holland, comisiynydd plant newydd Cymru.

Daeth rhybudd y Comisiynydd wrth i’r pedwar Comisiynydd Plant yn y Deyrnas Unedig gyhoeddi adroddiad ar y cyd sy’n craffu ar hanes llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig o ran hawliau plant yn ystod y saith mlynedd diwethaf. Mae’n nodi meysydd sy’n destun pryder cyffredinol ar draws y pedair gwlad; ymhlith y rheiny mae cyflwr gwasanaethau iechyd meddwl, cam-drin plant yn rhywiol, plant yn y system gyfiawnder, gweithredu Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol. Mae hefyd yn cynnwys 70 o argymhellion, sydd i gyd yn hanfodol i gynorthwyo llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig i wireddu hawliau plant yn llawn ar draws y wlad.

Dywedodd Sally Holland, a benodwyd ym mis Ebrill eleni i weithredu fel pencampwr annibynnol dros blant a phobl ifanc yng Nghymru:

“Rwy’n hynod siomedig bod rhaid i mi gyflwyno adrodd wrth y CU sy’n dangos mai ni yng Nghymru sydd â’r gyfradd uchaf o dlodi plant yn y Deyrnas Unedig. Er bod gan Lywodraeth Cymru strategaeth gwrthdlodi glir, a rhai rhaglenni addawol i blant, gan gynnwys Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, hyd yma mae’r rhain wedi methu â chael llawer o effaith ar gyfraddau cyffredinol tlodi. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â’r problemau nad ydynt yn cyrraedd digon o blant, a hefyd eu bwriad i ddarparu manteision hir dymor yn hytrach nag ar unwaith.

“Er bod mesurau caledi Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi atal gostyngiad yn y nifer o blant sy’n byw mewn tlodi a bod 200,000 o blant yng Nghymru dal yn byw mewn tlodi, rwy’n dal yn argyhoeddedig bod gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol y gallu i newid y sefyllfa yma yng Nghymru. Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais canolog ar sicrhau cyflogaeth fel llwybr allan o dlodi, ond mae’n rhaid delio ar frys gyda’r mater o dlodi mewn gwaith. Mae llawer o deuluoedd yn methu delio gyda’r cyfuniad o gyflogau isel a chostau gwarchod plant, tai a gwresogi uchel. Bellach mae gennym ni fwy o deuluoedd sy’n gweithio am incwm isel na theuluoedd di-waith yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddwysau ei ymdrechio i ddelio â thlodi plant ar unwaith.”

Ychwanegodd y Comisiynydd:

“Rwy’n cydnabod bod peth cynnydd wedi’i wneud ar hawliau plant yng Nghymru, gan gynnwys y ffaith mai hi oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig lle mabwysiadodd y llywodraeth CCUHP yn egwyddor tywys ar gyfer datblygu polisi i blant a phobl ifanc. Ac eto, mae’n rhwystredig ein bod ni’n gorfod adrodd, unwaith eto, nad oes cefnogaeth ddigonol ar gael ar gyfer rhai o’n plant mwyaf agored i niwed. Enghraifft o hynny yw gwasanaethau iechyd meddwl i blant ac oedolion; oes, mae arian ychwanegol wedi’i ddarparu, ond rydym ni’n dal i glywed am blant agored i niwed yn derbyn gwasanaeth anghyfartal; mae diffyg mynediad mewn argyfwng, maen nhw’n wynebu cyfnodau hir o aros, ac mae rhai plant yn cael eu trin ar wardiau seiciatrig oedolion.”

Ers i’r Deyrnas Unedig gadarnhau CCUHP yn 1991, bu rhwymedigaeth ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno adroddiadau cynnydd i Bwyllgor y CU bob pum mlynedd, yn amlinellu sut mae’n cyflawni ei hymrwymiad i blant a phobl ifanc. Bydd Pwyllgor y CU yn llunio’i adroddiad ar berfformiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig y flwyddyn nesaf.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Adroddiad Comisiynwyr Plant y Deyrnas Unedig ar gyfer y Gweithgor Cyn-sesiynol yw’r adolygiad cyfnod llawn cyntaf o hanes y Deyrnas Unedig o ran cynnal Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ers 2008.

Mae pob maes a archwiliwyd wedi derbyn cyfres o argymhellion gan y Comisiynwyr Plant, y mae dyletswydd statudol arnynt i hybu ac amddiffyn hawliau plant.

Mae Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn yn bwyllgor annibynnol o 18 arbenigwr sy’n monitro gweithrediad y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn a’i Brotocolau Dewisol gan Bartïon Gwladol. Mae’r Pwyllgor yn cynnal Adolygiadau Cyfnodol o weithrediad y Confensiwn gan Bartïon Gwladol, ac mae’n cyflwyno Sylwadau Terfynol (gan gynnwys camau gweithredu a argymhellir) i Wladwriaethau. Cynhaliwyd Adolygiad Cyfnodol diwethaf y Deyrnas Unedig yn 2007-2008. Fel rhan o broses yr Adolygiad Cyfnodol mae’r Parti Gwladol yn cyflwyno adroddiad ar statws Hawliau’r Confensiwn. Cyflwynwyd adroddiad Parti Gwladol y Deyrnas Unedig ym mis Mai 2014, ac mae ar gael yn http://tbinternet.ohchr.org/_layouts/treatybodyexternal/Download.aspx?symbolno=CRC%2fC%2fGBR%2f5&Lang=en

Wedyn gall Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol a mudiadau cymdeithas sifil gyflwyno adroddiadau ‘amgen’ ar weithrediad y Confensiwn gan y Deyrnas Unedig, erbyn 1 Gorffennaf 2015. Bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu hystyried gan weithgor y Pwyllgor ym mis Hydref 2015, a chynhyrchir rhestr o gwestiynau ar gyfer y Parti Gwladol (y ‘rhestr o faterion’). Wedyn bydd y Parti Gwladol yn ymateb i’r rhestr o faterion cyn cael ei archwilio gan y Pwyllgor yng Ngenefa ym Mai-Mehefin 2016.

Argymhellion

  • Tlodi plant a chaledi

Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig wneud tlodi plant yn ffocws allweddol, a hynny ar frys, gan gydymffurfio’n llawn â Deddf Tlodi Plant 2010. Rhaid darparu adnoddau digonol i fynd i’r afael â thlodi plant mewn modd ystyrlon ac atal y cynnydd a ragwelir erbyn 2020. Rhaid asesu effaith pob polisi newydd ar deuluoedd sydd ar incwm isel, a rhoi mesurau ar waith i’w hatal rhag cael effaith niweidiol.

Dylai hawliau plant i dderbyn nawdd cymdeithasol a chael safon byw ddigonol gael eu cyflawni gan y system les: dylid amddiffyn plant a’u teuluoedd rhag toriadau lles; ac ni ddylai mesurau gamwahaniaethu yn erbyn plant o grwpiau penodol, er enghraifft, plant unig rieni, plant ag anableddau neu blant o deuluoedd mawr.

Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymdrin ar frys â’r angen am gartrefi digonol i deuluoedd incwm is a dod â’r defnydd o lety gwely a brecwast amhriodol i ben ar gyfer teuluoedd â phlant.

Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig roi arweiniad i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr ynghylch diwallu anghenion pobl ifanc 16 ac 17 oed, y mae ganddynt hawl statudol i dderbyn cefnogaeth.

Dylai sicrhau y telir am gostau ychwanegol anabledd trwy ddarpariaeth les i blant ag anableddau.

  • Diogelu

Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig sicrhau bod plant sy’n profi unrhyw fath o gamdriniaeth rywiol yn derbyn cwnsela a therapi priodol fel blaenoriaeth.

Dylid clywed a rhoi sylw i farn a phrofiadau plant wrth ddatblygu pob mesur i wrthweithio cam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys ecsbloetio plant yn rhywiol.

Rhaid i bob asiantaeth swyddogol sefydlu arferion gwaith a rhannu gwybodaeth digonol rhwng asiantaethau, er mwyn amddiffyn plant rhag camdriniaeth rywiol, gan gynnwys ecsbloetio plant yn rhywiol.

Dylai’r Parti Gwladol a’r llywodraethau datganoledig wahardd pob cosb gorfforol ar unwaith yn y teulu ac ym mhob sefydliad arall a mathau o ofal amgen.

  • Plant yn y system gyfiawnder

Dylai plant a theuluoedd sydd heb fodd digonol fedru sicrhau cyngor cyfreithiol, cymorth a lle bo ymgyfreitha’n cael ei ystyried, cynrychiolaeth gyfreithiol ddi-dâl mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â lles pennaf plentyn.

Dylai cyfleusterau’r ddalfa fod yn briodol ar gyfer oedran ac anghenion y plant a gedwir yno. Ni ddylai cyfleusterau tebyg i garcharau oedolion megis Sefydliadau Troseddwyr Ifanc gael eu defnyddio ar gyfer plant.

  • Rhoi CCUHP ar waith

Rhaid peidio â gwanhau’r amddiffyniad i hawliau plant a geir yng nghyfraith y Deyrnas Unedig. Dylai unrhyw Fil Hawliau newydd adeiladu ar amddiffyniad hawliau sylfaenol pob plentyn yn yr awdurdodaeth, yn hytrach na’u lleihau, a hynny heb gamwahaniaethu, yn ogystal â darparu rhwymedïau barnwrol effeithiol, gan gynnwys trwy Lys Hawliau Dynol Ewrop, a dylid datblygu hyn drwy broses ymgynghorol, ddemocrataidd, sy’n rhoi cyfle i blant leisio barn ar yr hawliau hyn sy’n effeithio arnyn nhw.

  • Iechyd meddwl

Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig fuddsoddi’r lefel angenrheidiol o gyllid mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc er mwyn diwallu anghenion plant y mae angen cefnogaeth o’r fath arnynt. Dylid rhoi sylw arbennig i’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf, gan gynnwys plant anabl, plant a amddifadwyd o ofal rhieni, plant y mae gwrthdaro, trawma, camdriniaeth ac esgeuluso wedi effeithio arnynt, y rhai sy’n byw mewn tlodi a’r rhai sydd mewn gwrthdrawiad â’r gyfraith.