21 Mawrth 2016
Mae’r Fonesig Ustus Macur wedi cyhoeddi ei hadolygiad o Ymchwiliad Waterhouse 2000, ac nid yw wedi cael hyd i unrhyw dystiolaeth i danseilio casgliadau Syr Ronald Waterhouse.
Mewn ymateb i ganfyddiadau ‘Adolygiad Macur’, mae Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, wedi pwysleisio y dylai lleisiau a phrofiadau’r dioddefwyr fod yn allweddol wrth lywio ymatebion llywodraethau a gwasanaethau statudol yn y maes hwn. Dywedodd y Comisiynydd:
“Rwy’n eithriadol ymwybodol o’r effaith bosib ar ddioddefwyr bob tro y ceir cyhoeddiadau newydd ynghylch achosion hanesyddol o gam-drin. Gall dioddefwyr deimlo eu bod yn byw drwy’r boen unwaith eto. Mae’n bwysig, felly, bod dioddefwyr a goroeswyr yn gallu derbyn gwybodaeth glir am gynnydd a’r dyddiadau cyhoeddi sydd mewn golwg ar gyfer ymchwiliadau.”
Mae’r Comisiynydd yn galw am sicrhau lefel uwch o dryloywder i’r dioddefwyr. Mewn llythyr agored at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno datganiad yn egluro’r fethodoleg a ddefnyddiwyd wrth ailolygu Adroddiad Adolygiad Macur, oedd ar gael i’r cyhoedd, gan roi’r rhesymeg lawn am y newidiadau a wnaed. Mae’r Comisiynydd o’r farn:
“Os na fydd dealltwriaeth o’r dull a ddefnyddiwyd gan gyfreithwyr y Llywodraeth, bydd llawer yn parhau i gwestiynu a yw unigolion wedi cael eu hamddiffyn oherwydd eu safle yn y gymuned, yn hytrach nag oherwydd bod ymchwiliadau troseddol yn parhau, neu nad oes tystiolaeth yn eu herbyn.”
Mae Sally Holland hefyd yn cadarnhau yn y llythyr ei bod o’r farn y dylai unrhyw Ymchwiliad neu Adolygiad sy’n ymdrin ag achosion hanesyddol, trefnedig neu sefydliadol o gam-drin plant droi o gwmpas y dioddefwyr. Mae hynny’n golygu y dylai dioddefwyr a goroeswyr gael cyfle i roi cyngor ar ddulliau a chylch gorchwyl yr ymchwiliad, y dylent dderbyn gwybodaeth fanwl am ei gynnydd, ac y dylid rhoi cefnogaeth ddigonol iddynt. Mae Ymchwiliad Goddard wedi dangos, yn y camau cynnar, sut gellir gwneud hynny. Yn yr un modd, mae Ymgyrch Pallial wedi dangos bod modd cefnogi dioddefwyr ochr yn ochr â cheisio cyfiawnder trwy’r llysoedd troseddol.
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn bendant o’r farn bod:
“Dyled arnom i ddioddefwyr achosion hanesyddol o gam-drin i ddysgu gwersi fel cymdeithas. Hyderaf y bydd yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym gan y llywodraeth.”
“Rwy’n nodi bod llawer o oroeswyr wedi mynegi chwithdod ynghylch yr adroddiad. Rwyf am annog unrhyw un sy’n dal i deimlo bod ganddyn nhw dystiolaeth yn erbyn camdrinwyr sydd heb wynebu cyfiawnder i roi gwybod i Ymgyrch Pallial, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny. Mae hefyd amrywiaeth o gyfleoedd i gyflwyno tystiolaeth a phrofiadau mewn mannau diogel, cyfrinachol, yn Ymchwiliad Goddard.”