15 Tachwedd 2017
Comisiynwyr plant y DU yn galw ar y Canghellor i wyrdroi newidiadau i’r system budd-daliadau a chredydau treth cyn ei ddatganiad Cyllideb hydref
Mae pedwar comisiynydd plant annibynnol y Deyrnas Unedig wedi galw’n uniongyrchol ar y Canghellor, cyn ei ddatganiad Cyllideb hydref, i gymryd camau i wyrdroi newidiadau i’r system budd-daliadau a chredydau treth, er mwyn osgoi’r cynnydd a ragwelir mewn tlodi plant.
Mae’r llythyr yn cynnwys tair galwad benodol ynghylch y fframwaith budd-daliadau cyfredol a’r cynlluniau gweithredu y rhagfynegir yn ddibynadwy y byddant yn cael mwy o effaith negyddol ar blant nag ar unrhyw grŵp arall. Dyma nhw:
- Adolygu’r broses o rewi budd-daliadau, a hynny ar frys, gyda ffocws arbennig ar yr effaith ar deuluoedd sydd â phlant.
Mae adroddiad y mis hwn gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn rhagfynegi cynnydd o 4 pwynt canran mewn tlodi absoliwt ymhlith plant (ar ôl didynnu costau tai o incwm) erbyn 2021-22. Achosir tri chwarter o’r cynnydd hwn gan newidiadau budd-dal, sy’n effeithio ar 400,000 o blant. Rhagfynegir y bydd cyfraddau tlodi cymharol plant yn codi saith pwynt canran erbyn 2021-22. Bydd y cynnydd yn nhlodi plant yn taro mwy o aelwydydd sy’n gweithio na rhai sydd ddim yn gweithio, a bydd pob un o wledydd y Deyrnas Unedig yn ei deimlo.
- Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ailystyried y penderfyniad i gyfyngu’r hawl i dderbyn Credyd Cynhwysol i ddau blentyn yn unig mewn teulu.
Ffactor arwyddocaol o ran y cynnydd a ragwelir mewn tlodi plant yw cyfyngu budd-daliadau i ddau o blant yn unig. Barn y comisiynwyr yw bod y mesur hwn yn achos o dorri hawliau plant i gael safon bywyd sy’n weddus o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig. Byddai rhoi i bob plentyn, beth bynnag yw eu hamgylchiadau teuluol, yr un hawl i dderbyn cymorth gan y wladwriaeth yn gam pwysig tuag at ddiogelu ein plant mwyaf bregus a lleihau’r effaith a ragwelir o ran tlodi plant.
- Oedi’r broses o estyn Credyd Cynhwysol i deuluoedd sydd â phlant, a hynny ar unwaith, gan ddisgwyl adolygiad o effaith y bwlch 6-wythnos mewn incwm wrth bontio i Gredyd Cynhwysol.
Mae peilota Credyd Cynhwysol mewn rhai ardaloedd wedi rhoi cyfle i asesu effaith bosibl ei weithredu ar fywydau unigolion. Mae wedi dod yn eglur bod absenoldeb incwm am sawl wythnos tra bod taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu hawdurdodi a’u rhoi ar waith yn cyflwyno her sydd bron yn amhosib ei goresgyn i allu teuluoedd i ddarparu hanfodion fel bwyd a gwres iddynt eu hunain a’u plant. Rhaid rhoi mesurau lliniaru ar waith cyn estyn Credyd Cynhwysol ymhellach.
Mae’r comisiynwyr yn mynd ymlaen â’r sylw hwn:
“Rydym ni’n credu bod y camau hyn yn hanfodol i atal cannoedd o filoedd o blant eraill rhag profi tlodi ac effaith hynny ar eu cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol. Byddem hefyd yn croesawu pob buddsoddiad arall yn y gyllideb a fyddai’n gwneud gwahaniaeth profedig i blant a phobl ifanc, gan gynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar, gyda chyllid yn dilyn o ganlyniad ar gyfer y gwledydd datganoledig.
“Rydym yn eich annog i ddefnyddio’r gyllideb hon yn gyfle i ddarparu dyfodol mwy disglair i’n plant.”
DIWEDD