1 Hydref 2018
Mae plant sydd wedi cael eu treisio neu sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn wynebu amserau aros annerbyniol cyn cael help a chymorth, yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf Comisiynydd Plant Cymru.
Mae prif bryderon y Comisiynydd yn ymwneud â dau faes:
- Nad yw plant sydd wedi cael eu treisio neu sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn cael archwiliad meddygol fforensig yn ddigon cyflym ar ôl y trawma oherwydd prinder staff meddygol cymwysedig a phrofiadol, ac hefyd yn aml yn gorfod teithio’n bell; a
- Nad yw mynediad i gwnsela a chymorth arbenigol ar gael yn brydlon er mwyn i’r plant hynny gychwyn ar y llwybr at adferiad.
Y sefyllfa bresennol
Cwnsela: Yn ôl New Pathways, yr elusen sy’n gyfrifol am 8 canolfan yng Nghymru, gan gynnwys chwe Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC), mae mwy o blant nac erioed o’r blaen yn dod ymlaen am gymorth arbenigol ar ôl dioddef camdriniaeth rywiol, ond mae rhestrau aros hir mewn rhai ardaloedd. Dywedon nhw:
- mae 150 o sesiynau cwnsela’n cael eu cynnal bob wythnos ar gyfer plant a phobl ifanc
- mae 553 o blant a phobl ifanc yn aros i gael apwyntiad cwnsela
- mae’r amser aros rhwng 3 mis a 3 mlynedd ar draws Cymru
Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol:
Mae SARC yn rhoi sylw meddygol ar unwaith, drwy law pediatregwyr sydd wedi’u hyfforddi’n briodol, ac archwilwyr meddygol fforensig, i blant sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol, yn ogystal â darparu cwnsela tymor hir. Ar hyn o bryd dim ond canolfannau Caerdydd a Bae Colwyn sy’n gallu darparu archwiliadau meddygol i blant, oherwydd prinder staff arbenigol a staff meddygol profiadol.
O ganlyniad i hyn, mae plant yn aml yn gorfod aros neu teithio’n bell i dderbyn archwiliadau arbenigol a triniaeth yn syth wedi camdriniaeth oherwydd y diffyg adnoddau yn eu hardaloedd.
Mae cyllid yr 8 SARC yn amrywio ar draws Cymru, gyda peth cyllid yn cael ei ddarparu gan y GIG a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddau. Mae’r rhan fwyaf – 6 canolfan SARC – yng ngofal y darparwr trydydd parti, New Pathways.
Mae’r Athro Sally Holland, y Comisiynydd Plant, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod byrddau iechyd yn rhoi mynediad 24/7 i blant i rota o bediatregwyr ac archwilwyr meddygol fforensig sydd wedi’u hyfforddi’n addas, fel nad oes rhaid i unrhyw plentyn aros am oriau neu dyddiau ar gyfer archwiliad, a bod digon o wasanaethau cwnsela ar gael yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Holland:
“Dyw hi ddim yn iawn ein bod ni’n dal mewn sefyllfa lle does dim digon o weithwyr meddygol proffesiynol arbenigol i ddarparu’r gofal cywir ar unwaith i blant ledled Cymru, ac mae’r pellteroedd a’r amserau aros mae plant yn eu hwynebu ar gyfer cymorth tymor hir yn annerbyniol.
“Rwy’n clywed am sefyllfaoedd erchyll lle mae plant wedi gorfod aros am ddyddiau i gael eu harchwilio, ac yn gorfod teithio’n hwyr y nos i weld rhywun ar ôl profiad arswydus. All hynny ddim bod yn iawn.
“Mewn un achos arweiniodd hyn at blentyn 4 blwydd oed o ganolbarth Cymru yn gorfod teithio i Gaerdydd yn hwyr yn y nos, ac wedyn yn gorfod aros oriau am Arholwr Meddygol Fforensig i gyrraedd. Erbyn iddynt gyrraedd roedd y plentyn yn llwglyd, blinedig ac yn llai parod i gael ei archwilio, gan wneud yr holl broses yn anoddach i’r plentyn a phawb arall oedd yng nghlwm â hyn.
“Rwyf am i bob bwrdd iechyd ddarparu mynediad 24/7 i bediatregwyr ac archwilwyr meddygol fforensig sydd wedi cael hyfforddiant addas, fel nad oes rhaid i unrhyw blentyn aros am oriau lawer, neu ddyddiau hyd yn oed, i gael archwiliad, a bod digon o wasanaethau cwnsela ac ymadfer i ddioddefwyr ar gael ledled Cymru.”
Ychwanegodd Jackie Stamp, Prif Weithredwr New Pathways:
“Pan fydd pobl yn dioddef digwyddiad trawmatig, mae’n eithriadol o bwysig eu bod yn cael cymorth arbenigol cyn gynted â phosib. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos plant a phobl ifanc, i’w hatal rhag mabwysiadu strategaethau ymdopi negyddol, sy’n gallu cael effaith niweidiol iawn ar eu llesiant a’u rhagolygon i’r dyfodol.
“Bob blwyddyn mae New Pathways yn darparu cwnsela ar gyfer rhyw 600 o blant a phobl ifanc yng Nghymru, y mae llawer ohonynt wedi cael profiadau trawmatig iawn. Gwaetha’r modd, mae’r cynnydd parhaus yn y galw a’r adnoddau cyfyngedig yn golygu bod rhestrau aros hir iawn mewn rhai ardaloedd i gael mynediad i’n gwasanaethau. I liniaru’r broblem hon, mae angen buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau iechyd meddwl priodol ar gyfer plant a phobl ifanc, a gwell mynediad i wasanaethau ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, ble bynnag maen nhw’n byw.”