12 Awst 2020
Yn ymateb i gyhoeddiad y Gweinidog Addysg ynglŷn â chanlyniadau Lefel A, dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:
“Dwi’n croesawu’r camau mae’r Llywodraeth wedi cymryd cyn yfory. Wrth ddarllen datganiad y Gweinidog, dwi’n meddwl ei fod yn benderfyniad synhwyrol a fydd yn helpu cadw cysondeb ar draws Cymru, ac yn helpu gyda’r ansicrwydd hynny sydd gan bobl ifanc ynglŷn â’r canlyniadau.
Ar gyfer y disgyblion hynny sydd ddim yn hapus gyda’u marciau, dwi’n hapus iawn bydd y broses o apelio am ddim, a bydd newidiadau i’r proses gwreiddiol. Edrychaf ymlaen at weld manylion y newidiadau yma.
Mae’n bwysig nawr bod Prifysgolion ar draws y DU yn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n deg gyda’r proses mynediadau, ac yn ystyried y ffyrdd gwahanol mae pob gwlad wedi ei chymryd wrth gyrraedd marc terfynol, fel bod disgyblion Cymreig yn gallu bod yn hyderus bod dim mantais annheg gan eu cyfoedion ar draws y DU.”