30 Mehefin 2021
Dywedodd Yr Athro Sally Holland:
“Mae’r cyfyngiadau mae plant a phobl ifanc mewn ysgolion a cholegau yn eu hwynebu nawr ddim yn cydweddu o gwbl gyda’r rhyddid cymharol sy’n cael ei gynnig i oedolion. Fel un enghraifft, mae oedolion yng Nghymru nawr yn medru eistedd mewn tafarn gyda ffrindiau o chwech aelwyd gwahanol, heb orfod gwisgo gorchudd wyneb, tra bod y mwyafrif o ddisgyblion uwchradd yn gorfod gwisgo gorchudd wyneb dwy’r dydd, bob dydd, pan yn eistedd, er y wybodaeth sydd gennym am yr effaith ar eu haddysg.
“Ry’n ni’n parhau i weld effaith gofynion hunanynysu torfol ar bobl ifanc mewn nifer o ysgolion ar draws Cymru. Er ymdrechion arwrol ysgolion a cholegau ar draws y wlad i gefnogi ac addysgu eu myfyrwyr, mae pob plentyn a pherson ifanc wedi colli dau dymor llawn o ddysgu wyneb-yn-wyneb a hyn cyn unrhyw gyfnodau o hunanynysu. Mae’r profiadau ynysu yma yn dwysau’r anfantais yma ac mae angen dull newydd ar frys.
“Pan mae’n dod i orchudd wyneb, mae rhain yn parhau i effeithio ar ddysgu a phrofiad addysgol pobl ifanc. Mae’r rheolau ddim yn cydweddu gyda’r canllawiau i grwpiau o oedolion mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, ac yn credu pryder i rai disgyblion blwyddyn 6 wrth iddyn nhw ddychmygu bywyd ysgol mis Medi mewn ysgol uwchradd. Mae hyn er y dystiolaeth gyfyng sydd ar gael o effeithiolrwydd y mesur rheoli yma a’r dystiolaeth sydd i weld yn dangos nad yw ysgolion yn rym neu’n gatalydd dros drosgwlyddiad yn y gymuned.
“Mae angen rhyddid ar ysgolion i wneud beth mae’n nhw’n wneud orau: dysgu a chefnogi eu dysgwyr a’u lles, ac helpu plant a phobl ifanc ddatblyu sgiliau ehangach bywyd. Dwi’n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau am ddull newydd ar gyfer mis Medi, a dwi’n croesawi hyn, ond dwi wedi gofyn i’r Gweinidog rannu manylion am hyn cyn gwyliau’r haf i daweli meddwl a rhoi eglurhad i blant, pobl ifanc a staff mewn ysgolion a cholegau.
“Rwyf wedi gofyn i Lywodraeth Cymru:
- Ddileu’r argymhelliad i ddisgyblion wisgo gorchudd wyneb mewn ystafelloedd dosbarth o ddiwrnod cyntaf y tymor nesaf fan bellaf, ond yn ddelfrydol ar un waith;
- Ddileu’r gofynion ynysu torfol a’u hailosod gyda dull mwy targedol sydd ddim yn rhoi baich sylweddol ar arweinwyr ysgol a cholegau, fel sy’n cael ei dreialu’n Lloegr; a
- Sichrau fod y canllawiau diwygiedig, a ddylid gael eu cyhoeddi y tymor yma, adael i ysgolion a cholegau i ddychwelyd i’r hyn maent yn wneud orau: dysgu a chefnogi dysgwyr”DIWEDD