9 Mehefin 2021
Yn ymateb i ymchwiliad BBC Cymru mewn i honiadau o gamdrin mewn cartref gofal yng Nghymru, dywedodd yr athro Sally Holland:
“Os rydych chi’n rhiant, yn ofalwr, neu yn berson ifanc ac mae gennych chi bryderon hoffech chi ei drafod ar ôl darllen y stori yma, plis cysylltwch gyda fy swyddfa.
“Ac mae gen i neges bwysig i unrhyw un sy’n darllen hyn sy’n gweithio gyda phlant: Os oes gennych chi unrhyw bryder am ddiogelwch plant, neu’n teimlo bod rhywbeth o’i le, plis rhannwch y pryderon hynny, hyd yn oed os ydych chi’n meddwl mai mater bach yw hi.
“Os ydy staff mewn unrhyw leoliad yn teimlo nad yw eu pryderon wedi cael eu cymryd o ddifrif, gallan nhw gysylltu gyda fy swyddfa lle gallan nhw dderbyn amddiffyniad cyfreithiol fel chwythwyr chwiban.
“Trwy wneud hyn, byddwch chi’n galluogi’r asiantaethau cywir i ymchwilio honiadau ac i gadw plant yn ddiogel.”