9 Gorffennaf 2021
Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 9 Gorffennaf, dywedodd Yr Athro Sally Holland:
“Fel nes i nodi wythnos diwethaf, er ymdrechion arwrol ysgolion ar draws y wlad i gefnogi ac addysgu disgyblion, mae plant a phobl ifanc wedi colli dau dymor llawn o ddysgu wyneb-yn-wyneb a hyn cyn unrhyw gyfnod hunanynysu. Mae’r balans rhwng risg a niwed o ganlyniad i’r feirws a’r effaith ar addysg wedi bod yn fater cymhleth dros y 16 mis diwethaf.
“Mi fydden ni’n disgwyl o ganlyniad i’r datganiad heddiw y bydd llai o amhariad i bawb y tymor nesaf. Mae’n ystyried barn a phrofiad plant a phobl ifanc ac yn cynnig gwybodaeth o’r hyn sydd i ddisgwyl mis Medi a sut y byddant yn cael eu cadw’n ddiogel.”