Ymateb y Comisiynydd i adroddiad diweddaraf AGIC ar Ysbyty Hillview

Yn ymateb i adroddiad diweddaraf AGIC ar Ysbyty Hillview, dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:

“Mae adroddiad arolygu diweddaraf Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar Hillview yn dangos bod yna problemau sylweddol sy’n effeithio’r gofal mae pobl ifanc yn derbyn yna. Ac rydw i’n pryderu am y ffaith bod yr adroddiad diweddaraf yn adlewyrchu’r un materion sydd wedi eu codi mewn adroddiadau blaenorol, yn cynnwys diffygion yn y ffordd mae arferion cyfyngol yn cael eu recordio a’u monitro, pryderon am reolaeth meddygaeth, ansawdd a rheolaeth cynlluniau gofal unigol, a’r angen am welliannau i brosesau llywodraethu ac archwiliad.

“Rydw i wedi bod mewn cyswllt agos gyda’r asiantaethau perthnasol, a bydda i’n parhau i wthio am fanylion i ffeindio mas sut gallwn ni fynd i’r afael â hyn.

“Dwi’n meddwl bod angen i ni edrych yn onest iawn ar y ffaith bod y pryderon sydd wedi eu codi dros y blynyddoedd diwethaf heb arwain at welliannau sylweddol i bobl ifanc, a dyw hynny ddim yn dderbyniol.

“Dyma rhai o’r bobl ifanc mwyaf bregus yn ein cymdeithas ac mae angen bod gennym ni hyder llawn yn y llefydd sydd yna i ofalu amdanynt.”