Yn croesawu arsylwadau casglu Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant, sy’n gwneud argymhellion i Lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
“Mae’n hollbwysig bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ymateb i holl argymhellion y pwyllgor, ond heddiw hoffwn i danlinellu yr argymhellion ar dlodi plant. Fel rydw i, ac eraill wedi gwneud, mae’r pwyllgor yn galw ar lywodraethau i gael ‘targedau clir, dangosyddion mesuradwy, a mecanweithiau atebolwydd’ i fynd i’r afael â thlodi plant.
“Mae’r pwyllgor hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y terfyn dau- blentyn creulon a’r cap budd-daliadau.
“Bydda i’n cwestiynu Llywodraeth Cymru ar sut bydden nhw’n ymateb yn llawn i argymhellion y Pwyllgor sy’n effeithio ar Gymru.”
Fis Tachwedd 2022 ymunodd Comisiynydd Plant Cymru gyda chomisiynwyr plant Yr Alban a Gogledd Iwerddon i greu adroddiad ar y cyd i’r Cenhedloedd Unedig ar gyflwr hawliau plant yn y cenhedloedd datganoledig.
Gallwch ddarllen mwy am y proses o adrodd i’r Pwyllgor ar y dudalen yma.