19 Mehefin 2023
Yn ymateb i Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Llywodraeth Cymru, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
“Tlodi yw’r mater mwyaf sy’n effeithio plant yng Nghymru, a thasg mwyaf Llywodraeth Cymru yw mynd i’r afael â thlodi’n effeithiol.
“Mae’n hynod o bwysig bod Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â dogfen strategaeth tlodi plant lefel uchel, yn cyhoeddi cynllun cyflawni penodol a mesuradwy. Mae hyn angen cynnwys targedau clir sy’n dangos sut a phryd bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ymyriadau penodol sy’n cyflawni amcanion eang eu strategaeth. Heb yr ymrwymiadau penodol hyn, bydd dal Llywodraeth Cymru i gyfrif ar y pwnc hollbwysig hwn yn cael eu rhwystro. Gobeithiaf fydd y fframwaith monitro mae’r Llywodraeth yn gyfeirio ato fe yn cyflawni hyn, ond yn y cyfamser mae angen ymrwymiad cadarn ar hyn gan Lywodraeth Cymru. Byddaf yn parhau i alw am gynllun penodol i gael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r strategaeth, a byddaf yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid ar draws Cymru i wthio am fesuriadau atebolrwydd cryf yng nghynlluniau terfynol Llywodraeth Cymru. Pan rydw i’n cwrdd â phlant a’u teuluoedd, maent eisiau gwybod bod Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth gallant i helpu, ond heb gynllun cyflawni mesuradwy, ni allaf fod yn sicr o hyn.
“Ynghylch â drafft y strategaeth hon, rwyf wir yn croesawu’r ffaith bod bron i 1,500 o blant wedi gallu cyfrannu iddo, a dwi’n annog pawb i ddweud eu dweud yn ystod y cyfnod ymgynghori.”