Yn ymateb i’r adroddiad ar 14 Mawrth, dywedodd y Comisiynydd Plant Rocio Cifuentes:
“Mae adroddiad heddiw yn glir bod Kaylea wedi cael ei gadael i lawr a bod modd osgoi ei dioeddefaint erchyll. Nid oedd unrhyw oruchwyliaeth effeithiol o anghenion gofal a chymorth Kaylea. Roedd diffygion sylweddol mewn cydgysylltu rhwng asiantaethau, a roedd gwahaniaethau ar draws gwasanaethau iechyd o ran ymateb i apwyntiadau a gollwyd. Byddaf yn trafod y pwyntiau hyn a materion eraill a godwyd yn yr adroddiad gyda’r awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd. Byddaf hefyd yn pwyso ar Lywodraeth Cymru am sut y byddant yn gwneud yn siŵr y bydd yr hyn a ddysgir o’r adolygiad hwn yn gwella arfer ledled Cymru.”