Mae adolygiad Llywodraeth Cymru o’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn gwbl annigonol, gan fethu â nodi unrhyw newid ystyrlon i’r canllawiau neu’r ddeddfwriaeth gyfredol, a newidiadau ystyrlon i brofiadau plant. Mae’n siomedig iawn i blant, eu teuluoedd, a’r rheini ohonom sydd wedi bod yn dweud wrth Lywodraeth Cymru ers blynyddoedd am yr ystod eang o broblemau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu ar hyn o bryd gyda chludiant o’r cartref i’r ysgol. Maent yn cynnwys:
- bwlch difrifol yn nyletswydd awdurdodau lleol i asesu risg llwybrau. Mae asesiadau risg yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer llwybrau teithio llesol y mae plant yn eu defnyddio i gerdded yn uniongyrchol i’r ysgol, ond nid ar gyfer teithiau y mae’n rhaid i blant eu gwneud o’u cartref i fan codi i ddal bws ysgol. Fel enghraifft, mae fy nhîm Cyngor wedi clywed gan deulu yr oedd disgwyl i’w plentyn deithio’r 1.4 milltir o’u cartref i fan codi ar lwybr nad oedd yn destun asesiad risg. Mae hynny bron i 3 milltir y dydd ar lwybr nad yw’r cyngor yn gwybod ei fod yn ddiogel.
- mae’r trothwyon milltiredd presennol ar gyfer cludiant ysgol yn rhy uchel. Mae’r canllawiau cenedlaethol yn golygu y gallai disgybl ysgol uwchradd gerdded hyd at chwe milltir y dydd i gael mynediad at ei hawl i addysg. I rai, mae disgwyl iddynt wneud hyn ar ben taith bws i ac o’r ysgol bob dydd. Amlygodd adroddiad diweddar Estyn ar bresenoldeb mewn ysgolion uwchradd hyn fel rhwystr posibl i bresenoldeb, fel y gwnaeth adolygiad interim y Llywodraeth ei hun a gyhoeddwyd yn 2021.
- dim dyletswydd gyfreithiol i ddarparu cludiant i bobl ifanc nad ydynt o oedran ysgol gorfodol. Gallai person ifanc sy’n dewis astudio yn chweched dosbarth ei ysgol fynd o gael cludiant am ddim hyd at arholiadau TGAU i orfod talu’n sydyn am gludiant cyhoeddus i barhau â’i addysg. Mae traean o bobl ifanc yn byw mewn tlodi yng Nghymru, a’r bobl ifanc hynny fydd yn teimlo effaith hyn fwyaf.
- dim dyletswydd gyfreithiol i ddarparu cludiant i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, er eu bod yn aml yn agored i niwed penodol a allai ei gwneud yn anodd neu’n ofidus i gerdded i’r ysgol neu i gael bws cyhoeddus.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad interim yn 2021, yn cydnabod rhai o’r materion hyn ac yn cyfeirio at ddarpariaeth anghyson ledled Cymru a phrofiadau anghyson i blant. Fe wnaethom nodi ar y pryd fod gweinidogion wedi ymrwymo i adolygu teithio gan ddysgwyr, gan nodi “nad yw’r opsiwn o ‘wneud dim’ yn cael ei ystyried yn briodol” a daeth i’r casgliad bod y gwaith interim yn “cyfiawnhau adolygiad cynhwysfawr o’r Mesur”, i atal “anghyfartaledd pellach, anghysondeb o ran darpariaeth a chodau a chanllawiau hen ffasiwn pellach”.
Yn fy marn i, mae Llywodraeth Cymru wedi siomi plant gydag adolygiad terfynol sydd, yn syml, wedi methu â chyflawni iaith addawol yr adolygiad interim, ac wedi methu â mynd i’r afael â’r materion yr oedd eisoes wedi’u cydnabod yn y canllawiau presennol.
Ers adolygiad 2021, mae fy swyddfa wedi parhau i gael achosion rheolaidd o bob rhan o Gymru mewn perthynas â’r mater hwn, gan gynnwys achosion y mae Aelodau’r Senedd o wahanol bleidiau gwleidyddol wedi dod â hwy atom. Mae’n amlwg bod plant ledled Cymru yn wynebu rhwystrau dim ond i gael mynediad at eu haddysg, hawl sylfaenol i bawb. Ar ben argyfwng costau byw a phryderon ynghylch presenoldeb yn yr ysgol yn gostwng, mae’n annerbyniol nad yw’r Llywodraeth wedi cymryd y camau a addawyd gan yr adolygiad interim i fynd i’r afael yn gadarn â’r heriau parhaus y mae plant yn eu hwynebu wrth gyrraedd yr ysgol yn ddiogel.
Mi fyddaf yn rhannu fy mhryderon ar frys gyda gweinidogion, ac yn ystyried defnyddio fy mhwerau cyfreithiol i archwilio’r penderfyniadau sydd wedi arwain at yr adolygiad cwbl annigonol hwn.