Canlyniadau o’r arolwg ciplun newydd ar ddiogelwch ar-lein

Dim ond 28% o blant a atebodd yr arolwg ar ddiogelwch ar-lein a ddywedodd eu bod yn siarad llawer gyda’u teulu am yr hyn y maent yn gwneud ar-lein. 

Atebwyd yr arolwg, a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru yn ystod mis Mehefin 2024 i lywio ei hymateb i ymgynghoriad Ofcom ar ei bwerau ehangu mewn perthynas â’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein (2023), gan 1284 o blant a phobl ifanc rhwng 7 a 18 oed, o 16 awdurdod lleol. 

Dywedodd 29% o blant fod apiau fel Roblox, YouTube (17%) a Snapchat (12%) yn gwneud iddynt deimlo’n anniogel neu’n anhapus. 

Ar Roblox, roedd plant mor ifanc ag 8 oed yn rhannu pryderon am ddefnyddwyr ‘gwenwynig ac anghwrtais’, ‘ymddygiad ymosodol’, y gallu i gael sgyrsiau gyda dieithriaid, cael eu ‘sgamio’ a phrofiadau o anffafriaeth hiliol. 

Pan oedd plant wedi mynegi’i pryderon yn uniongyrchol gyda platfform ar-lein, dim ond 32% ohonynt oedd yn teimlo bod eu pryderon wedi cael eu cymryd o ddifrif. 

Wrth i ni gyhoeddi’r canlyniadau yma cyn gwyliau haf yr ysgol, mae’r Comisiynydd Plant Cymru yn annog rhieni i edrych yn fanwl ar wybodaeth am reolaethau rhieni, cynnwys yr apiau, a gofynion oedran. 

Dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“Gall apiau ar-lein roi cyfleoedd gwych i blant fod yn greadigol, mynegi eu hunain, a chysylltu â’u ffrindiau. Ond hefyd mae yna beryglon, a dwi’n gwybod y gall hyn deimlo’n frawychus i rieni a gofalwyr i gadw i fyny â phopeth y mae pobl ifanc yn ei wneud ar-lein. Cyn gwyliau’r haf, mae’n debygol fydd plant yn treulio mwy o amser ar sgriniau, felly mae’n arbennig o bwysig bod gan rieni y gwybodaeth sydd ei hangen arnynt. 

“Mae yna wybodaeth gynhwysfawr a chlir ar gael gan bobl fel yr NSPCC, a Llywodraeth Cymru, ac yn annog pob rhiant i’w darllen. Trwy wybod mwy am reolaethau rhieni, sut i fynd ati i gael sgyrsiau am ddefnydd, gofynion oedran, a chynnwys yr ap, gall hyn gadw eich plentyn yn ddiogel ac yn hapus pan fyddant ar-lein. 

“Mae cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wedi diystyru diogelwch plant a phobl ifanc am gyfnod hir. Mae gan Ofcom nawr rôl hanfodol i wneud yn siŵr bod y llwyfannau hynny yn cymryd eu dyletswydd gofal i bobl ifanc o ddifrif, ac rwy’n falch fy mod wedi gallu adlewyrchu rhai o’r pryderon sydd gan blant i Ofcom drwy eu hymgynghoriad. 

Dywedodd Uwch Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus NSPCC Cymru, Ruth Mullineux: 

“Mae profiadau uniongyrchol a safbwyntiau pobl ifanc a gasglwyd yn yr adroddiad hwn a thrwy fentrau fel Llais Ieuenctid Ar-lein newydd yr NSPCC yn dangos bod y cwmnïau technoleg yma wedi dylunio gwasanaethau sy‘n esgeuluso diogelwch a lles plant am gyfnod hir. 

“Ni ddylai plant cael eu gadael i gadw eu hunain yn ddiogel rhag unrhyw niwedd ar-lein. Yn yr NSPCC rydym yn parhau i alw am weithrediad uchelgeisiol o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein gan Ofcom i sicrhau bod cwmnïau technoleg yn cyflwyno mesurau cadarn sy’n blaenoriaethu diogelwch plant. 

“Yng Nghymru, mae’n hollbwysig i ni gadw ymrwymiad a ffocws ar ddiogelwch plant ar-lein gan ddefnyddio camau gweithredu effeithiol sydd ag adnoddau da ac wedi’u targedu mewn cynllun gweithredu pwrpasol, gan gynnwys yr ymrwymiad i sicrhau bod pobl ifanc yn cael dweud eu dweud am y dull gweithredu. 

“Mae angen i reoleddwyr a gwneuthurwyr polisïau i ystyried barn pobl ifanc , er mwyn deall gwirioneddau’r materion y maent yn eu hwynebu ar-lein a darparu ymatebion effeithiol.

Dywedodd Elinor Williams, Pennaeth, Materion Rheoleiddiol, Ofcom Cymru:

“Rydym yn diolch i Gomisiynydd Plant Cymru am rannu eu dealltwriaeth gyda ni. 

Dylai bod plant yn gallu mwynhau bywyd ar-lein. Rydym wedi gosod dros ddeugain o fesurau ymarferol sy’n gosod y cyfrifoldeb am gadw plant yn fwy diogel ar gwmnïau technoleg. Mae hynny’n cynnwys tafodi algorithmau ymosodol sy’n gwthio cynnwys niweidiol i blant yn eu ffrydiau personol, a gwneud yn siŵr bod plant yn gallu mynegi’r cynnwys yn hawdd a gwneud cwynion. 

“Rydym yn gweithio’n gyflym i ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd i ni ac yn anelu erbyn gwanwyn nesaf i gwblhau ein Codau Ymarfer er mwyn amddiffyn plant o gynnwys niweidiol a pheryglus difrifol. Unwaith y byddant mewn grym, ni fyddwn yn oedi cyn defnyddio ein hystod lawn o bwerau gorfodi i ddwyn platfformau i gyfrif.” 

Hefyd canfyddodd yr arolwg y canlynol: 

  • Dywedodd 76% o blant eu bod yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel ar-lein 
  • Pe byddent yn gweld rhywbeth ar-lein oedd yn eu gwneud yn bryderus neu’n gynhyrfus, roedd rhanfwyaf o blant a phobl ifanc wedi gweud y byddent yn dweud wrth eu rhieni, yn reportio i’r platfform, neu’n dweud wrth aelod arall o’r teulu 
  • Mynegodd athrawon eu pryderon ar sut mae amser sgrin yn effeithio addysg y plant, gyda rhai yn gweld effaith blinder ymhlith disgyblion oherwydd eu bod yn chwarae gemau hwyr yn y nos.