Datganiad y Comisiynydd Plant ar Neil Foden

Wrth wneud sylwadau ar alwadau am ymholiadau pellach yn ymwneud â Neil Foden, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru:

“Ers i’r datblygiadau sylweddol ddod i’r amlwg yr wythnos hon, rydw i wedi bod yn ystyried fy opsiynau, o ystyried cyfyngiadau’r amserlen yr aeth yr Adolygiad Ymarfer Plant ati i ddechrau ei chwmpas. Fel Comisiynydd Plant Cymru, mae gen i bwerau i archwilio achosion unigol neu adolygu gweithredoedd rhai cyrff cyhoeddus, ond dim ond pan nad yw asiantaeth neu broses adolygu arall yn edrych ar hyn. Felly er mwyn i mi sefydlu a oes sail gyfreithiol i mi ymgymryd â’m gwaith fy hun ar hyn, rwyf am gael trafodaethau brys gyda’r Panel Adolygu i gael eglurhad ynghylch a yw cylch gorchwyl yr adolygiad, gan gynnwys yr amserlen, yn mynd i newid yn sgil datblygiad yr wythnos hon, ac a fyddant yn archwilio set ehangach o amgylchiadau neu bryderon. Rwyf hefyd yn ceisio am eglurhad gan Heddlu Gogledd Cymru ynghylch a oes unrhyw achosion troseddol pellach yn cael eu hystyried yn sgil datblygiadau diweddar.”