Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar wahardd fêps untro, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru Rocio Cifuentes MBE:
“Mae plant yn dod i’r ysgol uwchradd o ysgolion cynradd yn gaeth i fêpio”’ – dyma un o lawer o bethau pryderus iawn rydw i wedi’u clywed dros y flwyddyn ddiwethaf mewn sgyrsiau gyda phlant ac oedolion am fêpio. Rwy’n falch heddiw o weld cadarnhad y bydd fêps untro yn cael eu gwahardd yng Nghymru, yn dechrau ym mis Mehefin 2025. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio yr holl bwerau sydd ar gael iddynt i weithredu newidiadau pwysig eraill a argymhellwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gynharach eleni. Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth i bobl ifanc sy’n ddibynnol ar nicotin oherwydd fêpio, cyfyngu ar flasau ac enwau blasau, a gorfodi rheolau pecynnu plaen.’