Ymateb y Comisiynydd i’r penderfyniad i ohirio datblygiad cymhwyster TGAU Gwneud-i-Gymru mewn Iaith Arwyddion Prydain

“Mae’n amlwg bod hwn yn benderfyniad siomedig iawn i bobl ifanc Fyddar yng Nghymru. Byddaf yn ysgrifennu ar frys at Gymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru i fynegi fy mhryder ac i ofyn pa asesiad sydd wedi’i wneud o hawliau ac anghenion plant Byddar wrth wneud y penderfyniad, ac i bwyso am ffordd glir ymlaen fel bod atebolrwydd a chefnogaeth i blant Byddar a’u teuluoedd. “