Yn ymateb i adroddiadau newyddion diweddar ar ddiogelu plant, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
‘Mae gan bob plentyn yr hawl i fod yn ddiogel ac i fyw plentyndod heb gael ei gam-drin. Mae’r ffaith bod rhai plant yn cael eu gwrthod yn yr hawl hon yn fater polisi allweddol sy’n gofyn am ffocws cyson a phenderfynol gan lywodraethau. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ddiweddariad ar sut maent yn datblygu gyda’r argymhellion gan IICSA, a oedd yn nodi’n gynhwysfawr y camau y mae angen i lywodraethau eu cymryd i gryfhau mesurau diogelu cyfredol. Hefyd byddaf yn cadw mewn cysylltiad agos â’m cyfatebwyr o bob rhan o’r DU ac yn trafod cyfleoedd i gydweithio ar y mater cenedlaethol hwn.’