Adnoddau Cyfnod Sylfaen

I ddathlu penblwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn 30eg oed, rydyn ni wedi cyhoeddi cynlluniau gwers newydd er mwyn helpu plant ifanc ddysgu am eu hawliau.

Rydyn ni hefyd wedi creu cân newydd i ysgolion.

Mae hyn gyd yn rhan o’n brosiect Bitw Bach. Fel rhan o’r prosiect rydyn ni wedi gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i ddatblygu adnoddau newydd i’n ddysgwyr ieuengaf.

Buom yn gweithio gyda 13 o leoliadau ar draws Cymru i lunio’r cynlluniau gwersi a’r adnoddau. Hoffem ddiolch i athrawon a disgyblion yn: Ty Isaf Ifants School, Ysgol Gymraeg Coed y Gof, Ysgol Gymraeg Gwenllian, Llantarnam Community Primary School, Ysgol Penrhyn New Broughton Primary, Rachel’s Playhouse a Welshpool Church in Wales.

Bitw Bach

Mae’r pecyn yn cynnwys wyth cynllun gwers. Trwy gydol y gwersi, bydd plant yn archwilio’r pethau sydd eu hangen arnynt i dyfu i fyny yn hapus, yn iach ac yn ddiogel (hawliau eu plant).

Lawrlwythwch y pecyn gwersi

Darllenwch ein hawgrymiadau i ysgolion

Ewch i’n adnoddau hygyrch

Ein Poster Hapus, Iach a Diogel

Pecyn Dysgu Gartref

Mae’r pecyn dysgu cartref hwn yn ategu’r pecyn Bitw Bach

Pecyn Gwaith Dysgu Gartref

Fi yw Fi

Mae’r cynlluniau gwersi hyn wedi’u creu fel rhan o brosiect “Fi yw Fi” Comisiynydd Plant Cymru sy’n dathlu hunaniaeth. Yn y gwersi hyn bydd y ffocws yn benodol ar hawliau plant. Bydd y gwersi yn canolbwyntio ar:

  • Erthygl 2: Me gan bawb yr hawliau hyn waeth beth
  • Erthygl 8: Mae gen i hawl i hunaniaeth

Cynlluniau Gwersi Fi yw Fi

Prosiect Pleidlais

Er bod plant o dan 16 yn methu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, mae gan holl blant Cymru hawl i gael eu gwrando a’u cymryd o ddifri (Erthygl 12).

Efallai bydd plant yn teimlo nad ydyn nhw’n derbyn rhai o’u hawliau ar hyn o bryd, neu efallai byddan nhw’n teimlo’n angerddol am fater arbennig, ac eisiau creu newid.

Rydym wedi paratoi dwy wers ar etholiadau’r Senedd a democratiaeth i chi wneud yn yr ystafell dosbarth.

Cynllun Gwers Cyfnod Sylfaen

Gweithgaredd 1: Caerdydd – Cyfnod Sylfaen

Gweithgaredd 2: Y Senedd – Cyfnod Sylfaen

Dechreuir pob gwers â’r gân “Mae Gennym Hawliau”. Mae’r gân hon yn archwilio hawliau plant ac yn trafod y pethau sydd eu hangen ar blant er mwyn tyfu i fyny’n hapus, iach a diogel.

Ysgrifennwyd a chyfansoddwyd y gân gan Sara Lewis, Dyfan Jones a Blwyddyn 3 am Ysgol Gynradd Creigiau.

Mae’r gân yn ffordd wych o agor pob gwers ac yn rhywbeth y bydd y disgyblion yn ei adnabod. Awgrymwn fod eich dosbarth yn canu’r gân mewn cylch, gyda chi yn arwain ar symudiadau (efallai y byddwch am ddefnyddio Arwyddion Makaton).

Darllenwch y geiriau

‘Mae gennym hawliau’ gan Comisiynydd Plant Cymru | Gwrandawiad am ddim ar ICLOUD

‘Mae gennym hawliau’ gan Comisiynydd Plant Cymru | FERSIWN MP3

CERDDORIAETH BRINTIEDIG AR GYFER ‘MAE GENNYM HAWLIAU’

Crëwyd y lluniau hyfryd hyn gan 4 arlunydd sy’n gweithio yng Nghymru, er mwyn dysgu plant am eu hawliau, gan eu trefnu o dan bedair thema Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP): Datblygu, Goroesi, Diogelu, Cyfranogi. Rydyn ni wedi llunio rhai awgrymiadau ar sut i ddefnyddio’r pecyn lluniau.

Dyma’r lluniau

Dyma pecyn cymorth i gefnogi lles a hawliau plant yn y cyfnod Sylfaen:

Pecyn Cymorth Cyfnod Sylfaen