Hoffech chi wybod sut y gall eich disgyblion ddysgu mwy am eu pleidlais? Ar y dudalen hon fe welwch ein holl adnoddau Prosiect Pleidlais 2020-2021. Cyhoeddwyd yr adnoddau hyn i gyd-fynd ag etholiad Senedd 2021.
Gwersi
Wyneb-yn-wyneb: Gwers 1
- 55 munud
Amcanion dysgu
- Bydd dysgwyr yn gwybod bod eu hysgol yn cymryd rhan yn y Prosiect Pleidlais
- Bydd dysgwyr yn gallu cysylltu elfennau o’u bywydau eu hunain â gwleidyddiaeth
- Bydd dysgwyr yn gwybod bod Cymru’n creu ei chyfreithiau ei hun mewn rhai meysydd, a bod hynny ar wahân i wledydd eraill y DU
- Mae dysgwyr yn deall mwy am bleidleisio a pham ei fod yn bwysig
Pecyn Dysgu Adref – Gwers 1
Mae’r pecyn yma yn fersiwn mwy syml o wers wyneb-yn-wyneb 1.
Amcanion dysgu
- Bydd dysgwyr yn gwybod bod eu hysgol yn cymryd rhan yn y Prosiect Pleidlais
- Bydd dysgwyr yn gallu cysylltu elfennau o’u bywydau eu hunain â gwleidyddiaeth
- Bydd dysgwyr yn gwybod bod Cymru’n creu ei chyfreithiau ei hun mewn rhai meysydd, a bod hynny ar wahân i wledydd eraill y DU
Powerpoint gyda throslais – Cymraeg
PowerPoint gyda sain – Saesneg
Wyneb-yn-Wyneb: Gwers 2
- 50 munud
Amcanion dysgu
- Bydd dysgwyr yn dysgu mwy am etholiadau a’r Senedd
- Bydd dysgwyr yn gwybod beth yw eu hetholaeth, beth yw eu rhanbarth, a phwy yw eu cynrychiolwyr presennol a beth maen nhw’n ei wneud
- Bydd dysgwyr yn deall yr hyn y mae aelod o’r Senedd yn ei wneud, pam y byddent yn cysylltu âg AS, a sut i wneud hyn
- Bydd dysgwyr yn deall beth yw plaid a beth maen nhw’n ei wneud
Pecyn Dysgu Adref – Gwers 2
Mae’r pecyn yma yn fersiwn mwy syml o wers wyneb-yn-wyneb 2.
Amcanion dysgu
- Mae dysgwyr yn dysgu mwy am y Senedd a’i haelodau
- Bydd dysgwyr yn dysgu mwy am etholaethau a rhanbarthau
Powerpoint gyda throslais – Cymraeg
PowerPoint gyda sain – Saesneg
Wyneb-yn-Wyneb: Gwers 3
- 50 munud
Amcanion dysgu
Bydd y wers hon yn helpu dysgwyr i benderfynu i bwy i bleidleisio amdanyn nhw yn yr etholiad paralel trwy ddarllen maniffestos pleidiau gwleidyddol.
Rydyn ni wedi ysgrifennu at bob plaid wleidyddol sydd ag ymgeisydd ym mhob etholaeth i ofyn iddyn nhw ysgrifennu fersiynau pobl ifanc o’u maniffestos, yn benodol ar gyfer Prosiect Pleidlais.
Cynlluniau gwers hygyrch
Mae’r gwersi yma’n cynnig fersiwn mwy syml a hygyrch o’r cynlluniau gwers uchod. Gallech chi eu defnyddio mewn lleoliad lle mae angen help ychwanegol ar bobl ifanc, e.e. mewn ysgol arbennig.
Maen nhw’n cynnwys sgaffaldwaith i gefnogi dysgu a dealltwriaeth disgyblion.
Amcanion dysgu
- Bydd dysgwyr yn gwybod bod eu hysgol yn cymryd rhan yn Prosiect Pleidlais 2021
- Bydd dysgwyr yn gallu cysylltu elfennau o’u bywydau eu hunain â gwleidyddiaeth
- Bydd dysgwyr yn dysgu mwy am etholiadau a’r Senedd
- Mae dysgwyr yn deall mwy am bleidleisio a pham ei fod yn bwysig
Cynlluniau gwers athro – Cymraeg
Gwrthrychau cyfeiriadol – Cymraeg
Cynllun gwers maniffestos – Cymraeg
Cynlluniau gwers athro – Saesneg
Gwrthrychau cyfeiriadol – Saesneg
Cynllun gwers maniffestos – Saesneg
Pecyn cymunedol
Mae’r pecyn yma’n cynnwys gweithgareddau gwahanol i’w defnyddio mewn lleoliadau gwahanol, cyn cynnwys clybiau ieuenctid, ac yn y cartref.
Canllaw hystingau ar gyfer ysgolion
Cyfarfod yw hystingau lle bydd ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad i ddod yn aelodau o’r Senedd yn cael eu holi gan gynulleidfa.
Os ydych chi fel ysgol eisiau trefnu cyfarfod hystingau, rydyn ni wedi ysgrifennu canllaw i’ch helpu chi.