Hoffech chi wybod sut y gall eich disgyblion ddysgu mwy am eu pleidlais? Ar y dudalen hon fe welwch ein holl adnoddau Prosiect Pleidlais 2021-2022. Cyhoeddwyd yr adnoddau hyn i gyd-fynd ag Etholiad Cyngor Lleol 2022.
Cynlluniau Gwersi 1-3
Mae’r gwersi yma’n helpu disgyblion i:
- ddysgu mwy am yr etholiadau lleol
- deall cyfrifoldebau’r cyngor
- dysgu mwy am gynghorwyr a’u rôl
Rydyn ni hefyd wedi cynnwys:
- Canllaw i athrawon
- Powerpoints ar gyfer pob wers
Cynlluniau Gwersi
Canllawiau
Powerpoints
Cynllun Gwers 4
Bydd Gwers 4 yn helpu disgyblion i ymchwilio ymgeiswyr, ac i baratoi i bleidleisio yn yr etholiad paralel
Defnyddiwch y fersiwn Cyn y Pasg os rydych chi’n dysgu’r wers am y tro cyntaf cyn gwyliau’r Pasg
Defnyddiwch y fersiwn ar ôl y Pasg os rydych chi’n dysgu’r wers am y tro cyntaf ar ôl gwyliau’r Pasg.
Pecynnau Dysgu Adre
Fersiynau o’r gwersi uchod yw’r pecynnau dysgu adre.
Ond mae’r cynnwys tipyn yn fyrrach.
Mae yna PowerPoint gyda sain, a llyfryn Word er mwyn i ddisgyblion ysgrifennu eu hatebion.
Cynlluniau Gwersi Hygyrch
Mae’r gwersi yma’n cynnig fersiwn mwy syml a hygyrch o’r cynlluniau gwers uchod. Gallech chi eu defnyddio mewn lleoliad lle mae angen help ychwanegol ar bobl ifanc, e.e. mewn ysgol arbennig.
Maen nhw’n cynnwys sgaffaldwaith i gefnogi dysgu a dealltwriaeth disgyblion.
Cynlluniau Gwersi CA2
Mae’r gwersi yma’n cynnig dysgu mwy syml a hygyrch. Gallech chi eu defnyddio i ddysgu plant CA2.
Maen nhw’n cynnwys sgaffaldwaith i gefnogi dysgu a dealltwriaeth disgyblion.