Mae’r adnoddau hygyrch hyn yn cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i ddysgu am eu hawliau ac am y Comisiynydd.
Anghenion Dysgu Ychwanegol – 10 cynllun gwers
Rydyn ni wedi creu 10 cynllun gwers unigol, yn ogystal â’r holl adnoddau byddwch chi angen i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, i helpu plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol i ddysgu am eu hawliau.
Pecyn symbolau CCUHP
- Mae’r adnodd hwn yn cynnwys pecyn o gardiau a phoster gyda symbolau ‘widget’.
- Canllawiau ar gyfer y pecyn symbolau
- Gêmau a gweithgareddau er mwyn i chi ddefnyddio’ch pecyn symbolau i ddysgu am hawliau.
Pecyn lluniau Hawliau Plant
Lluniau hyfryd, wedi’u harlunio gan arlunydd proffesiynol i helpu addysgu plant am eu hawliau. Mae’r pecyn wedi’i drefnu dan bedair thema y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn: Datblygiad; Goroesiad; Diogelwch; Cyfranogiad.
Fideos
- Fideo BSL gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd St Cyres gyda chyngor ar drafod hawliau yn eich ysgol
- Fideo BSL yn esbonio hawliau plant
- Animeiddiad yn esbonio ein Gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor
Posteri
Poster sy’n esbonio ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor
Poster yn esbonio yr hawl sydd gan blentyn i fod yn Hapus, Iach a Diogel
Rydyn ni wrthi’n gyson yn datblygu adnoddau hygyrch newydd. Os hoffai athrawon neu ddisgyblion ein helpu i ddatblygu adnodd, neu os oes adnodd y byddech chi’n hoffi ei weld ar y dudalen yma, cysylltwch â ni.