Dyma crynodeb byr o’n Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant.
Mae’r dull gweithredu/y fframwaith wedi ei seilio ar 5 prif egwyddor:
- Gwreiddio hawliau
- Cydraddoldeb a dim gwahaniaethu
- Grymuso plant a phobl ifanc
- Cyfranogiad
- Atebolrwydd
Gwreiddio Hawliau
Mae hyn yn golygu sicrhau bod Hawliau Plant (CCUHP) yn ganolog wrth gynllunio a chyflwyno gwasanaethau i blant a phobl ifanc
Bydd sefydliadau yn:
- Creu cysylltiadau â Hawliau Plant (CCUHP) yn eu cynlluniau.
- Cytuno ar strwythur ar gyfer sut maen nhw’n sicrhau bod hawliau plant yn cael eu cymryd i ystyriaeth ar bob lefel wrth wneud penderfyniadau.
- Sicrhau bod gan arweinwyr a staff wybodaeth dda am hawliau plant (CCUHP), a’u helpu nhw i ddeall sut gall hynny fod o fudd i’w gwaith.
Cydraddoldeb a dim gwahaniaethu
Mae hyn yn golygu sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i fod y gorau gallan nhw fod ac nad oes rhaid i unrhyw blentyn oddef cyfleoedd gwael mewn bywyd oherwydd camwahaniaethu.
Bydd sefydliadau yn:
- Gofalu bod gan staff yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddeddf Cydraddoldeb ac yn derbyn hyfforddiant i gynyddu eu hymwybyddiaeth o anghenion gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc.
- Rhoi gwybodaeth i blant mewn iaith neu fformat sy’n briodol ar gyfer eu hoed, eu diwylliant neu eu gallu.
- Dadansoddi data ac ystyried pa grwpiau o blant sydd ddim yn cael mynediad i’ch gwasanaethau, a pham – gallu defnyddio ein hasesiad ni o effaith ar hawliau plant.
Grymuso Plant a phobl ifanc
Mae hyn yn golygu rhoi gwybodaeth a hyder i blant i ddefnyddio’u hawliau a galw i gyfri sefydliadau ac unigolion sy’n effeithio ar eu bywydau.
Bydd sefydliadau yn:
- Rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i blant iddyn nhw fedru dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw (e.e. adroddiadau mewn iaith syml).
- Cynnwys plant a phobl ifanc trwy roi’r cyfleoedd/hyfforddiant/wybodaeth angenrheidiol iddyn nhw i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
- Datblygu perthynas gyda grwpiau o bobl ifanc, i roi cyfle iddyn nhw gyflwyno syniadau ac adborth yn rheolaidd, e.e. grwpiau/fforymau ieuenctid.
Cyfranogiad
Mae hyn yn golygu gwrando ar blant a chymryd eu barn o ddifri (fel mae Erthygl 12 – CCUHP yn gwarantu).
Bydd sefydliadau yn:
- Datblygu targedau clir ar gyfer gwrando ar blant a phobl ifanc o grwpiau ar y cyrion.
- Cynnwys plant yn uniongyrchol wrth ddylunio, monitro a gwerthuso’r gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn (gall hyn gynnwys bod plant yn ymwneud â recriwtio staff).
- Mabwysiadu Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, i sicrhau bod profiad plant o gyfranogi yn un safonol.
Atebolrwydd
Mae hyn yn golygu dylai sefydliadau ac unigolion fod yn atebol i blant am y penderfyniadau a’r camau gweithredu sy’n effeithio ar eu bywydau
Bydd sefydliadau yn:
- Cyhoeddi diweddariad blynyddol hygyrch yn dangos sut maen nhw wedi gweithio tuag at wireddu hawliau plant.
- Rhoi adborth rheolaidd i blant mewn fformat addas.
- Rhoi gwybodaeth hygyrch i blant ynghylch sut mae rhoi adborth am wasanaethau neu gyflwyno cwyn a galw staff i gyfrif.