Lawrlwythwch y dull gweithredu ar sail hawliau dynol plant tuag at Anghenion Dysgu Ychwanegol
Fframwaith egwyddorol ac ymarferol yw’r dull hawliau dynol plant. Mae’r canllawiau hyn yn cyflwyno sut gall awdurdodau lleol a byrddau iechyd gyflawni eu dyletswydd dyladwy tuag at hawliau dynol plant o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018.
Ar gyfer pwy mae’r fframwaith hwn?
Bydd y fframwaith hwn yn cefnogi awdurdodau lleol a chyrff iechyd (Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG) i ddatblygu dull gweithredu ar sail hawliau dynol plant tuag at eu dyletswyddau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018.
Yn ogystal, gall pob gweithiwr proffesiynol sy’n darparu gwasanaethau i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol fabwysiadu’r dull hwn. Bydd hyn yn sicrhau bod hawliau dynol plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu cefnogi drwy’r gwasanaethau maen nhw’n eu cael.
Gwneud Penderfyniadau Gyda’n Gilydd: pecyn cymorth hygyrch ar gyfranogiad
Rydyn ni wedi datblygu pecyn cymorth cam wrth gam hygyrch ar gyfranogiad i oedolion. Mae hyn yn cyflwyno sut i gefnogi grŵp o blant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn penderfyniadau am sut i wella gwasanaeth. Mae hwn yn becyn cymorth hygyrch, wedi’i ddylunio i’w ddefnyddio gyda phob plentyn, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.
Teclyn Asesu Effaith Hawliau Plant
Teclyn i gefnogi penderfynwyr i ystyried effaith hawliau dynol gwahanol opsiynau yw’r asesiad effaith hawliau plant, ac mae’n helpu i sicrhau bod hawliau plant yn llywio penderfyniadau.
Canllaw Cyfranogiad Hawliau Plant i Weithwyr Proffesiynol
Mae’r canllaw hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol i ddeall gwahanol fodelau cyfranogiad, a’r ddamcaniaeth y tu ôl i gyfranogiad da.
Astudiaethau Achos
Rydyn ni’n croesawu unrhyw astudiaethau achos newydd sy’n dangos sut rydych chi wedi defnyddio’r canllaw hwn neu adnoddau i sicrhau hawliau dynol plant yn eich darpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.
Astudiaeth Achos: Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg Awdurdod Lleol Caerdydd
Astudiaeth achos: Thîm Cyfranogiad a Phartneriaeth Abertawe ac Ysgol Pen y Bryn