Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru

Mae Dull Gweithredu yng Nghymru yn fframwaith ymarferol ar gyfer gweithio gyda phlant, wedi’i wreiddio yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Mae e yna i helpu cyrff cyhoeddus i integreiddio hawliau plant i bob agwedd ar lunio penderfyniadau, polisi ac ymarfer.

Mae’r canllaw, sydd wedi’i greu gyda chyngor arbenigol gan Arsyllfa Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc Cymru (ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor), yn annog gwasanaethau cyhoeddus ar draws y wlad i ymrwymo i CCUHP a gwella sut maen nhw’n cynllunio ac yn darparu eu gwasanaethau.

Mae Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant yn golygu:

  • Bydd sefydliadau’n rhoi blaenoriaeth i hawliau plant yn eu gwaith gyda phlant a theuluoedd i wella bywydau plant
  • Bod pob plentyn yn cael cyfleoedd i wneud yn fawr o’u doniau a’u potensial.
  • Bod plant yn cael mynediad i wybodaeth ac adnoddau i’w galluogi i fanteisio’n llawn ar eu hawliau.
  • Bod plant yn cael cyfleoedd ystyrlon i ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch eu
    bywydau
  • Bod awdurdodau ac unigolion yn atebol i blant am eu penderfyniadau, ac am ganlyniadau sy’n effeithio ar fywydau plant

Os hoffech ddarllen mwy am ein Dull Gweithredu ar Hawliau Plant gallwch lawrlwytho ein canllaw:

Dadlwythwch Ein Canllaw

Hefyd mae gennym adnoddau Hunan-asesu a CRIA, gallwch weld yr adnoddau hyn yn ein tab Adnoddau isod.

Egwyddorion Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant yw:

1. Gwreiddio hawliau plant – Dylai hawliau plant fod yn ganolog i gynllunio
a darparu gwasanaethau.

2. Cydraddoldeb a Dim Camwahaniaethu – Mae cydraddoldeb yn golygu sicrhau bod pobplentyn yn cael cyfle cyfartal i gyrraedd eu potensial llawn

3. Grymuso plant – Gwella gallu plant fel unigolion, fel eu bod yn medru manteisio’n well ar hawliau, ac ymgysylltu â’r unigolion a’r sefydliadau hynny sy’n effeithio ar eu bywydau, dylanwadu arnynt a’u galw i gyfrif.

4. Cyfranogiad – gwrando ar blant a rhoi sylw ystyrlon i’w barn

5. Atebolrwydd – Dylai awdurdodau fod yn atebol i blant am benderfyniadau a chamau gweithredu sy’n effeithio ar eu bywydau

Mae buddsoddi mewn hawliau dynol plant yn creu manteision gwirioneddol i sefydliadau:

  • Bydd yn helpu cyrff sector cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau statudol.
  • Mae’n cyfrannu at alluogi mwy o blant a phobl ifanc i ymwneud yn well â gwasanaethau cyhoeddus.
  • Mae’n sicrhau bod ffocws gwirioneddol ar anghenion penodol plant y gall eu lleisiau gael eu collineu eu distewi
  • Mae’n creu amgylchedd lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn atebol i’w holl ddefnyddwyr.

Mae sefydliadau yng Nghymru yn gwella eu gwasanaethau i blant a phobl ifanc trwy wrando ar eu syniadau, siapio eu gwaith yn ôl eu hadborth, a thrwy gydnabod a hyrwyddo eu hawliau dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Dyma crynodeb o ddarnau arbennig o waith sy’n digwydd ledled Cymru.

Os ydych chi eisiau cyngor neu cymorth ar waith eich sefydliad chi gyda phlant a phobl ifanc, cysylltwch gyda ni.

Aneurin Bevan

Ym mis Ebrill 2019, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan oedd y bwrdd iechyd cyntaf i ymuno â Siarter Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc, a gwobrwyd hwy yn ddiweddar gan y Prif Weinidog gyda Nod Cutan Cyfranogiad Cenedlaethol Plant.

Mae nhw’n archwilio cyfleoedd i gyd-weithio â fforymau ieuenctid lleol sy’n bodoli ar hyn o bryd ar draws dalgylch y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys grŵp ieuenctid sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Serennu Casnewydd, a Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol.

Mae Aneurin Bevan wedi sefydlu Fforwm Hawliau a Chyfranogaeth Plant, ac wedi trefnu bod y staff yn derbyn hyfforddiant ar gyfer hawliau plant.

Yn ogystal â hyn, mae Aneurin Bevan wedi bod yn gweithio i ddarparu cynnig dadleuwriaeth mwy cyffredinol i blant a phobl ifanc o fewn lleoliadau iechyd.

Darllenwch Astudiaeth Achos BAYouth

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Panel Ymgynghorol Ieuenctid Bae Abertawe yw BAYouth. Sefydlwyd y Panel, sef ABMYouth gynt, yn 2017 ac mae’n cynnwys rhyw 20 o bobl ifanc. Maen nhw’n cyfarfod yn fisol ac mae ganddyn nhw lawer o lwyddiannau i’w rhannu, gan gynnwys eu gwaith ar yr ‘her 15 cam’, lle buon nhw’n ymweld â lleoliadau iechyd gwahanol o gwmpas ardal y bwrdd iechyd i weld pa argraff mae pobl ifanc yn ei chael yn eu 15 cam cyntaf i mewn i’r lleoliadau hynny. Mae aelodau o’r Panel yn rhan o baneli cyfweld sy’n recriwtio gweithwyr iechyd proffesiynol.

Darllenwch Astudiaeth Achos BAYouth

Siarter Hawliau Plant

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg gynt) oedd y Bwrdd Iechyd cyntaf i ddatblygu Siarter Hawliau Plant, yn 2017. Bellach, maen nhw’n datblygu fersiwn ddarluniadol o’r siarter ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, gan weithio gydag ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig yn ardal y Bwrdd Iechyd.

Mae gwaith Ieuenctid y Bae (Bay Youth) yn cynnwys y canlynol:

  • Adroddiad ar wasanaethau pediatrig yn Ysbyty Treforys
  • Bod yn rhan o’r panel cyfweld a chael llais cyfartal ynghylch penodi aelodau newydd o staff
  • Galw am linell gymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed ac arwain at sefydlu’r llinell honno.
  • Gwaith yng nghyswllt poster gofal pediatregol
  • Adolygu’r Siarter Hawliau Plant

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Cyhoeddodd y bwrdd iechyd Siarter Hawliau Plant ar ddiwrnod Byd Eang y Plant 2018.

Mae’n nodi yr addewidion mae’r bwrdd yn gwneud i bob plentyn a pherson ifanc sy’n defnyddio ei wasanaethau, ac yn eu cysylltu gyda hawliau plant dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae ganddyn nhw Bwrdd Ieuenctid actif, gyda 30 person ifanc gydag amrywiaeth eang o brofiadau a chefndiroedd.

Mae eu gwaith yn cynnwys dylanwadu ar ddulliau ymgynghori â chleifion, cyfweld â staff, a chyfrannu at welliannau i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

DARLLENWCH ASTUDIAETH ACHOS CAERDYDD A’R FRO

Betsi Cadwaladr

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhannu un ffordd y maent yn cefnogi hawliau plant a phobl ifanc i leisio’u barn (Erthygl 12) o fewn ysbyty Glan Clwyd.

Mae’r fideo’n dangos sut mae nhw’n defnyddio ‘Pump Uchel Pump Isel’ i roi’r cyfle i blant lleisio eu barn tra’n aros yn yr ysbyty. Mae’n ddull adborth a ddefnyddiwyd gan y Bwrdd Iechyd i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc gyfle i ddweud beth sydd ar eu meddyliau mewn ffordd hawdd a gafaelgar. Wrth ddefnyddio’r dull ‘Pump Uchel, Pump Isel’ mae’r staff yn ymwybodol pa bethau sydd angen eu gwella ar y ward.

Iechyd Cyhoeddus Cymru

The national public health agency has produced Young People’s Annual Quality Statements, held its first ever Public Health Youth Summit, and created a new Young Ambassadors programme.

Mae’r asiantaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol wedi creu Datganiad Ansawdd Blynyddol i Bobl Ifanc, cynnal ei Uwchgynhadledd gyntaf i Ieuenctid

DARLLENWCH ASTUDIAETH ACHOS IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn edrych ar eu polisïau ynglyn â galwadau brys a phan fydd parafeddygon yn trin cleifion.

Cynhaliwyd ymarferiad ymgysylltu enfawr gan yr Ymddiriedolaeth o fewn gwahanol fannau ledled Cymru, yn nodi’r meysydd o ran teimladau pobl ifanc sut y gallai’r Ymddiriedolaeth wella’i ymadwaith â phobl ifanc.

Un o’r materion a godwyd oedd bod geiriad y sgriptiau a ddefnyddir wrth ateb galwadau brys neu drin cleifion yn gallu bod yn anodd i blant a phobl ifanc i’w deall.

Cynhaliwyd ymgynghoriad gan y gwasanaeth er mwyn cynnig geiriau eraill wrth ryngweithio â phlant a phobl ifanc.

Ymrwymodd y gwasanaeth i gyfres o addewidion (wedi’u cydgynhyrchu â phlant) sy’n ceisio ymateb yn well i anghenion plant a phobl ifanc. Hefyd, mae’r gwaith yn parhau i sicrhau fersiynau hawdd i’w darllen o ran dogfennau, a’r defnydd o gymeriadau darluniadol i’w gwneud yn haws i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu penodol eu deall.

Dyma boster yn dangos cyfres o’r addewidion:

WAST – ADDEWIDION I BLANT

WAST – Astudiaeth Achos

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Yn haf 2018, cynhaliodd Powys weithdai ar y cyd â’r awdurdod lleol er mwyn ymgynghori ar is-grŵp plant a phobl ifanc y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, sef Dechrau Da, a Fforwm Ieuenctid Powys.

Arweiniodd y gweithdai hyn at fersiwn ddrafft o ‘Adduned Plant a Phobl Ifanc’. Penderfynodd y bobl ifanc eu hunain fod yn well ganddynt ddefnyddio’r gair adduned yn hytrach na siarter.

Maen nhw’n gobeithio cyhoeddi’r Adduned yn fuan.

Siarter Plant

Datblygwyd y Siarter Plant yn 2021 ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed-Powys, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gan gynnwys dros 200 o blant a phobl ifanc.

Siarter Hawliau Plant

Siarter Hawliau Plant – Arabeg 

Siarter Hawliau Plant – Pwyleg

Mae sefydliadau yng Nghymru yn gwella eu gwasanaethau i blant a phobl ifanc trwy wrando ar eu syniadau, siapio eu gwaith yn ôl eu hadborth, a thrwy gydnabod a hyrwyddo eu hawliau dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Dyma crynodeb o ddarnau arbennig o waith sy’n digwydd ledled Cymru.

Os ydych chi eisiau cyngor neu cymorth ar waith eich sefydliad chi gyda phlant a phobl ifanc, cysylltwch gyda ni.

Carchar Y Parc

Mae pob person ifanc ac aelod o staff yng ngharchar y Parc yn gwybod am hawliau plant dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae pobl ifanc yn dysgu am eu hawliau yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar y materion sy’n eu heffeithio nhw. Mae disgwyl i staff gyfeirio at hawliau plant pan bod gennyn nhw gyfle addas.

Staff at Parc feel that a rights-based approach has benefited both the young people and themselves.

Mae staff y Parc yn teimlo bod dull hawliau plant wedi eu helpu nhw, yn ogystal â’r pobl ifanc.

DARLLENWCH ASTUDIAETH ACHOS Y PARC’

Hillside

Mae Hillside yn Gartref Diogel i Blant sydd wedi’i leoli yn nhref Castell-nedd Port Talbot, yng Nghymru. Darllenwch yr astudiaeth achos isod i ddysgu sut mae pobl ifanc yn cael dweud eu dweud o fewn y lleoliad diogel hwn:

Astudiaeth Achos Cartref Plant Diogel Hillside

Heddlu De Cymru

Cyflwynwyd sesiwn hyfforddi gennym gyda Rheolaeth Aur Heddlu De Cymru: sef uwch arweinyddion yr heddlu .

Maen nhw wedi ymrwymo i osod Dull Gweithredu yn seiliedig ar Hawliau Plant yn eu gwaith, gyda’r bwriad i ddatblygu siarter hawliau plant, gyda chefnogaeth pobl ifanc o Ysgol Bentrehafod ac Uned Ddiogel Hillside. Mae’r siarter yn dangos sut byddant yn cynnal ac yn hybu eu hawliau dynol.

Rydym ni hefyd yn gweithio gyda’r Heddlu i ddatblygu eu strategaeth cyfranogiad.

Dyma boster o siarter hawliau plant –

SIARTER HAWLIAU PLANT

Yn ogystal a hyn crewyd fideo gan Heddlu De Cymru sy’n dangos 7 hawl sydd gan bobl ifanc pan fyddent mewn cysylltiad â’r heddlu, mae hyn yn cynnwys os ydynt yn ddioddefwr o drosedd neu wedi cael eu cyhuddo o torri’r gyfraith.

Mae’n ddisgwyliedig ar swyddogion, staff a chyfrannwyr i gadw at addewidion y siarter wrth iddyn nhw ddod mewn cysylltiad â phobl ifanc.

Dyma linc i fideo Siarter Hawliau Plant –

FIDEO SIARTER HAWLIAU PLANT

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn wedi bod yn ymgorffori hawliau plant a phobl ifanc ym mhob agwedd o’u gwaith. Cliciwch ar y linc isod i wybod sut mae nhw wedi ymgorffori’r egwyddorion yn eu gwaith:

Astudiaeth Achos Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn

Awdurdod Lleol Wrecsam

Tra’n gweithio ar ei Strategaeth Ymgysylltu Gofal Cymdeithasol Plant, cydnabyddodd yr awdurdod fod dim fersiwn addas-i-blant o’r broses gwyno ganddynt ar gyfer plant a phobl ifanc.

Aethant ati i weithio gyda’r Cyngor Gofal Pobl Ifanc a Senedd Yr Ifanc i ddrafftio a dylunio ffurflen newydd, sydd nawr wedi ei gyhoeddi, a wedi cael ei hyrwyddo yn ysgolion y sir.

Darllenwch astudiaeth achos Wrecsam.

Chwaraeon Cymru

Mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn ymgorffori hawliau plant a phobl ifanc ym mhob agwedd o’u gwaith. Cliciwch ar y linc isod i wybod sut mae nhw wedi ymgorffori’r 5 egwyddor yn eu gwaith:

Darllenwch astudiaeth achos Chwaraeon Cymru

Strategaeth Cyfranogiad Gwasanaethau Plant Sir Fynwy ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

Mae’r Strategaeth Cyfranogiad yma gan Wasanaethau Plant Sir Fynwy yn enghraifft ardderchog o sut mae gwasanaethau’n gwreiddio egwyddor cyfranogiad yn eu ffyrdd o weithio. Rydyn ni wedi dewis rhannu’r esiampl hon o arfer gorau oherwydd;

  1. Mae’n cynnwys ymrwymiad beiddgar i hawliau;
  2. Mae’n cynllunio i wreiddio barn plant yn strategol ym mhob elfen o’r gwasanaethau plant  – cynllunio, polisïau, comisiynu, adolygu;
  3. Mae’n ceisio bod yn gydweithredol, a sicrhau bod plant yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu ac yn rheoli’r sefyllfa;
  4. Mae’n myfyrio ar y gwahanol raddau o gyfranogiad a’r ffyrdd niferus posibl o gynnwys plant a gofyn am eu barn – nid ‘dull gweithredu un maint i bawb’;
  5. Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd hysbysu plant.

Rydym yn bwriadu cadw mewn cysylltiad â Sir Fynwy, i ddysgu sut mae’r strategaeth hon wedi’i rhoi ar waith. Byddwn yn awyddus i ddarganfod pa wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i brofiadau plant a phobl ifanc o wasanaethau.

Strategaeth Cyfranogiad Gwasanaethau Plant Sir Fynwy ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

Mae sefydliadau yng Nghymru yn gwella eu gwasanaethau i blant a phobl ifanc trwy cynnwys nhw yn eu gwaith, ystyried eu syniadau, a chynnal a hyrwyddo eu hawliau o dan y CCUHP.

Dyma flas o’r gwaith rhagorol sy’n digwydd ledled y wlad.

Os oes angen help neu gyngor arnoch chi ar waith eich sefydliad gyda phlant a phobl ifanc, cysylltwch â ni.

Gallwch chi lawrlwytho a gweld yr adnoddau isod i’ch helpu chi i ymgorffori dull hawliau plant:

Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (CRIA)

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant i dystio sut maen nhw wedi ystyried hawliau plant wrth wneud penderfyniadau. Er nad oes rhaid i bob sefydliad cyhoeddus cwblhau CRIA, maent yn adnodd defnyddiol wrth ystyried effaith penderfyniadau a sut gallent newid hwy i sicrhau’r effaith fwyaf bositif ar blant a phobl ifanc. Mae rhai awdurdodau lleol wedi gofyn i ni am ddogfen templed CRIA fedran nhw ddefnyddio, ac rydym wedi ymateb i’r galw wrth greu’r ddogfen hon sydd ar gael i unrhyw un mewn unrhyw sefydliad.

Mae’r ddogfen wedi’i strwythuro er mwyn i chi ystyried y pum egwyddor o’n Dull Hawliau Plant ac rydyn ni wedi gadael lle i chi nodi eich sylwadau ond does dim angen ei chwblhau yn llawn.

LAWRLWYTHWCH EIN HADNODD CRIA

Adnodd Hunan-Asesu Syml

Mae’r adnodd hunan-asesu hwn yn helpu gweithwyr proffesiynol a sefydliadau i wellau’r modd maent yn gweithio dros blant a phobl ifanc, gan gynnwys:

  • cysylltu eich cynllun strategol i hawliau plant
  • darparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc mewn iaith hygyrch
  • rhoi’r cyfle i blant dylanwadu ar benderfyniadau eich sefydliad
  • bod yn atebol i blant a phobl ifanc

DEFNYDDIWCH EIN HADNODD HUNAN-ASESU (PDF)

DEFNYDDIWCH EIN HADNODD HUNAN-ASESU (Word Document)

Myfyrwyr / Hyfforddiant Proffesiynol

Rydyn ni wedi creu 3 darlith/cynllun gwers i Brifysgolion a Cholegau sy’n cyflwyno hawliau plant a gwaith ein swyddfa.

Maen nhw hefyd yn dangos sut gall myfyrwyr defnyddio hawliau plant fel fframwaith yn eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn y dyfodol.

Os hoffech chi weld y darlithoedd / gwersi hyn, ymwelwch â’n tudalen Myfyrwyr / Hyfforddiant Proffesiynol:

Myfyrwyr/Hyfforddiant Proffesiynnol