Llawrlwythwch Y Ffordd Gywir: Dull Seiliedig ar Hawliau Plant o daclo tlodi
Mae byw mewn tlodi yn dal i gael effaith ddifrodol, ddinistriol a pharhaol ar fywydau plant, ac mae’n effeithio’n sylfaenol ar eu hawliau dynol hefyd.
Ym mis Tachwedd 2023, buon ni’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gyfreithiol Plant Cymru, Arsyllfa Prifysgol Abertawe ar Hawliau Dynol Plant, a Plant yng Nghymru, i gynnal uwch-gynhadledd lle buon ni’n archwilio achosion o dorri hawliau plant oedd yn deillio o dlodi plant, a sut gallai dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant ymdrin â rhai o’r heriau a nodwyd.
Er bod hawliau dynol plant yn berthnasol i bob cyfraith a chanllaw, yn yr uwch-gynhadledd honno buon ni’n archwilio’r amrywiol ddyletswyddau statudol penodol sydd gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru, sydd â’r swyddogaeth o amddiffyn plant rhag effaith tlodi, ac a ddylai helpu i godi plant allan o dlodi. Mae rhwymedigaethau ychwanegol ar Wenidogion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hawliau plant, a gallwch ddarllen mwy am yr holl ddyletswyddau yma mhapur briffio Arsyllfa ar Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol Prifysgol Abertawe a Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru isod.
Rydym wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau Y Ffordd Gywir, sy’n darparu fframweithiau ymarferol ar gyfer gweithio gyda phlant, wedi’u seilio ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, i helpu cyrff cyhoeddus i integreiddio hawliau plant ym mhob agwedd ar wneud penderfyniadau, polisi ac ymarfer, ac yn allweddol, i gynorthwyo cyrff cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau. Mae’r ychwanegiad diweddaraf hwn yn rhoi arweiniad ar ddull seiliedig ar hawliau plant (CRA) o ymdrin â thlodi plant – mae’n amlinellu fframwaith ymarferol sy’n cefnogi cyflawni hawliau plant. Mae’n cynnig ffordd i gyrff cyhoeddus weithio’n gyfannol gan gefnogi gweithrediad ymarferol ac egwyddorol holl hawliau plant, gan gynnwys yr hawliau sy’n cael effaith ar dlodi plant.
Rydyn ni hefyd wedi creu rai adnoddau dwyieithog sydd ar gael am ddim fydd yn cefnogi cyrff cyhoeddus:
Asesiad Effaith ar Hawliau Plant (CRIA)
Dull Seiliedig ar Hawliau Plant o ymdrin ag Addysg
Dull Seiliedig ar Hawliau Plant o ymdrin â Gofal Cymdeithasol yng Nghymru
Dull Seiliedig ar Hawliau Plant o ymdrin ag Anghenion Dysgu Ychwanegol