Rydyn ni wedi cyhoeddi adnodd gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol; bwriad yr adnodd yw helpu cyrff cyhoeddus i adolygu a gwella’r gwasanaethau mae nhw’n eu cynnig i blant a phobl ifanc.
I bwy mae’r adnodd?
- Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
- Asiantaethau unigol sy’n rhan o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
- Cyrff â dyletswyddau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Unrhyw sefydliad sydd eisiau dysgu mwy am fuddion cynnig gwasaneth sy’n parchu hawliau plant
Beth yn union yw’r adnodd?
Mae dau ddarn i’r adnodd:
Adroddiad gyda gwybodaeth defnyddiol i helpu cyrff cyhoeddus feddwl am hawliau plant fel rhan o’r saith nod llesiant a’r Pum Ffordd o Weithio, sy’n rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mwy o wybodaeth
Cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Ein gwaith gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Rydyn ni wedi cynnal sesiynau gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam, a Bro Morgannwg i’w helpu i feddwl am sut gallen nhw wella eu gwaith hawliau plant.
Wnaethon ni fideo o’r sesiwn yn Wrecsam: