Dyma ein materion misol.
![](https://www.complantcymru.org.uk/wp-content/uploads/2023/12/Screenshot-2023-12-22-at-14.49.50.png)
Gorffennaf/Awst 2024 – Gwyliau Haf
Beth ydych chi'n hoffi gwneud yn ystod y gwyliau haf? Ydych chi'n meddwl bod digon i wneud yn eich ardal? Oes yna unrhywbeth sy'n eich stopio chi rhag gwneud y pethau rydych chi'n mwynhau gwneud?
Mehefin 2024 - Diogelwch Ar-lein
Pa apiau ydych chi'n eu defnyddio ar-lein? Ydych chi'n teimlo'n ddiogel wrth ddefnyddio'r apiau hyn? Ydych chi'n gwybod sut i reportio rhywbeth ar-lein?
Mai 2024 - Amser Chwarae/Egwyl
Ydych chi'n mwynhau amser chwarae/egwyl? Pam? Ydy e'n bwysig? Ydych chi byth yn colli amser chwarae/egwyl? Beth fyddai'n gwneud eich amser chwarae/egwyl chi’n well?
Ebrill 2024 - Teithio i'r ysgol
Sut mae eich taith i'r ysgol? Ydych chi'n ei fwynhau? Oes yna unrhywbeth sy'n ei wneud yn anodd?
Mawrth 2024 - Cinio Ysgol: Beth yw eich barn am ginio ysgol?
Beth ydych chi'n hoffi am ginio ysgol? Beth fyddech chi'n newid i wneud nhw’n well? Mae ein Mater y Mis ar gyfer mis Mawrth yn ymwneud â Chinio Ysgol.
Chwefror 2024 - Beth fyset ti’n ei wneud taset ti’n arwain ar Gymru?
Mae ein Mater y Mis ar gyfer mis Chwefror yn ymwneud â Chymru’n cael Prif Weinidog newydd a beth fyset ti'n ei wneud taset ti'n arwain ar Gymru.
Ionawr 2024 - Calendr Ysgol
Mater y mis ar gyfer Ionawr yw'r calendr ysgol, ac awgrymiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer newid maint tymhorau ysgol.