LLAWRLWYTHWCH DULL GWEITHREDU SEILIEDIG AR HAWLIAU DYNOL PLANT I ADDYSG YNG NGHYMRU
Mae dull gweithredu seiliedig ar hawliau dynol plant yn fframwaith egwyddorol ac ymarferol ar gyfer lleoliadau addysg, er mwyn galluogi addysg hawliau dynol o dan ddyletswyddau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Bydd y fframwaith hwn yn cefnogi arweinwyr lleoliadau addysg i ddatblygu dull gweithredu seiliedig ar hawliau dynol plant yn eu lleoliad. Gall pob lleoliad addysg yng Nghymru fabwysiadu’r dull gweithredu hwn, gan gynnwys: ysgolion; lleoliadau blynyddoedd cynnar; Addysg Bellach; lleoliadau EOTAS; lleoliadau addysg a gwaith ieuenctid anffurfiol a lleoliadau addysgu gartref. Hefyd gall adrannau addysg awdurdodau lleol ddefnyddio’r fframwaith hwn i gefnogi dulliau gweithredu seiliedig ar hawliau plant ar draws eu darpariaeth. Gall Sefydliadau Addysg Uwch ddefnyddio’r fframwaith hwn i gefnogi Addysg Gychwynnol Athrawon.
Rydym wedi datblygu canllaw mapio o’r cwricwlwm i’ch helpu i gysylltu hawliau â’r cwricwlwm newydd:
Rydym hefyd wedi datblygu dogfen hunanasesu i’ch helpu i fapio ac adlewyrchu eich cynnydd wrth sefydlu ymagwedd hawliau dynol plant:
Mae gennym ni gynlluniau dwyieithog rhad ac am ddim gall gefnogi plant i ddysgu am eu hawliau. Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau yma, cliciwch ar y linc isod:
Adnoddau sy’n gysylltiedig â’r Dull Gweithredu:
Fel y gallwch weld o’r tabiau isod rydym yn croesawu unrhyw astudiaethau achos newydd i’n gwefan a’u rhannu fel ymarferion da. Os oes gennych chi astudiaeth achos yr hoffech ei rhannu gyda ni, anfonwch nhw at post@complantcymru.or.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y canllaw, neu os hoffech ei dderbyn mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
-
-
Egwyddorion Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant yw:
1.Gwreiddio hawliau plant
2. Cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu
3. Grymuso plant
4. Cyfranogiad
5. Atebolrwydd
Mae’r canllaw hwn yn ffocysu ar bob egwyddor yn unigol ac yn rhoi cyngor defnyddiol ar sut i’w weithredu.
-
Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt: ymgorffori dull hawliau plant
Ysgol cyfrwng Saesneg 11-16 yn Abertawe yw Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, ac mae’r ysgol yn falch o fod yn Ysgol Aur Parchu Hawliau UNICEF. Mae’r ysgol hefyd wedi ymgorffori hawliau plant drwy ddefnyddio “Sicrhau Hawliau Plant: Cynllun i helpu Cyngor Abertawe i roi hawliau plant wrth wraidd ei benderfyniadau” Cyngor Abertawe. Mae hwn wedi’i seilio ar ddull Hawliau Plant Comisiynydd Plant Cymru. Mae disgyblion yr ysgol yn ymwybodol o’u hawliau a disgrifiodd uwch arweinyddiaeth yr ysgol fod y ddealltwriaeth hon yn hanfodol i gyflawni gweledigaeth yr ysgol i fod yn ‘gymuned ddysgu ragorol sydd wedi’i seilio ar gyd-barch’.
Mae pob un o bum egwyddor gysylltiedig â’r Dull Hawliau Plant wedi’u dwyn ymlaen yn yr ysgol, fel yr amlinellir isod.
Gwreiddio: Mae CCUHP wedi’i gynnwys yn y cynllun datblygu ysgol ac mae disgyblion wedi dewis erthyglau sy’n gysylltiedig â pholisïau’r ysgol. Mae’r hawliau’n amlwg mewn cyflwyniadau staff ar gyfer cyfweliadau mewnol, mewn llyfrynnau Wythnos Sgiliau, ac mewn cyflwyniadau diwrnodau iechyd a lles. Gwneir cysylltiadau uniongyrchol â’r CCUHP ar draws pynciau’r cwricwlwm.
Peidio â chamwahaniaethu: Mae gan Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt ddull ysgol gyfan ar gyfer cynhwysiant. Mae llais y disgybl wedi sbarduno Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn, a arweiniodd at ychwanegu Boccia, Pêl-fasged Cadair Olwyn a Chyfeiriadu Cwrt Caled at Ŵyl Chwaraeon Blwyddyn 9. Mae llais y disgybl wedi cymell meithrin perthynas werthfawr ag ysgol arbennig i ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed sydd ag anawsterau dysgu difrifol a lluosog.
Grymuso: Trwy adeiladu ar brofiadau yn yr ysgol gynradd, mae staff yn grymuso disgyblion i ddeall eu hawliau drwy Ddiwrnodau Her a Diwrnodau Iechyd a Lles. Mae’r ysgol yn arwain Cymuned Ddysgu Proffesiynol yr awdurdod lleol ar gyfer llais y disgybl. Gydag ysgolion uwchradd eraill, mae disgyblion yn datblygu maniffesto unedig Llais y Disgybl Abertawe wedi’i seilio ar ‘Yr hyn sydd o bwys’ i bobl ifanc. Mae disgyblion yn cyfrannu at y cynllun datblygu ysgol drwy nodi ac arwain gwelliannau ysgol gyfan. Hefyd, mae disgyblion yn monitro cynnydd gan ddefnyddio awgrymiadau’r Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol.
Cyfranogiad: Mae dulliau llais y disgybl yn cynnwys swyddogion, y cyngor ysgol, cynghorau blwyddyn, cynrychiolwyr dosbarthiadau ac arolygon ysgol gyfan llais y disgybl ‘dan arweiniad disgyblion’. Caiff disgyblion eu hannog i ystyried a rhannu eu syniadau i ddatblygu’r cwricwlwm ac maent wedi arwain y gwaith o ddatblygu adnoddau ar gyfer Mae Bywydau Du o Bwys, Aflonyddu Rhywiol Cyhoeddus, Hunaniaeth Rywiol a Rhywedd ac Wythnos Empathi.
Atebolrwydd: Mae’r Tîm Uwch Swyddogion yn cyfarfod â’r pennaeth yn wythnosol ac mae’r Disgybl-Lywodraethwyr Cysylltiol yn mynychu ac yn rhoi cyflwyniadau yng nghyfarfodydd y corff llywodraethol. Mae’r Cyngor Ysgol yn cynnig dull cyfathrebu dwyffordd ar gyfer syniadau posibl ac adborth i’w cyfoedion. Mae’r cyfathrebu dwyffordd hwn yn hanfodol o ran cyfathrebu grym llais y disgybl a’r effaith mae’n ei chael o ran cefnogi gwelliant.
-
Grŵp Colegau CNPT: hyfforddiant ynghylch hawliau plant i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth
Sefydliad addysg bellach ôl-16 yw Grŵp Colegau CNPT sy’n cynnig addysg yn bennaf yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phowys. Caiff cynrychiolwyr y myfyrwyr a swyddogion undeb y myfyrwyr eu galluogi a’u grymuso i fynegi eu hunain trwy gymryd rhan mewn hyfforddiant seiliedig ar hawliau plant fel rhan o’u rhaglen sefydlu.
Darperir hyfforddiant yn flynyddol gan Uned Hawliau Plant Castell-nedd Port Talbot a’r Swyddog Cyfraniad Myfyrwyr ac Amrywiaeth. Mae’n cynnwys:
- Hawliau plant a phobl ifanc
- Egwyddorion llywodraethu da a throsolwg o strwythur llywodraethu’r coleg a’r strwythur adroddiadau
- Y sgiliau sydd eu hangen i fod yn arweinwyr myfyrwyr effeithiol
Mae cynrychiolwyr myfyrwyr a swyddogion undeb yn rhan o fframwaith cyfranogiad myfyrwyr ehangach sydd ar waith ar draws y Coleg. Mae hyn yn cynnwys grwpiau sy’n gwneud penderfyniadau, er enghraifft Grŵp Strategaeth Iechyd a Llesiant y Coleg a Grŵp Rheoli Amrywiaeth y Coleg. Yn ogystal, mae’n cynnwys ymgyngoriadau helaeth â’r corff myfyrwyr trwy arolygon a grwpiau ffocws.
Un o’r ffactorau allweddol sydd wedi cyfrannu at lais myfyrwyr sy’n uchel, yn gryf ac yn seiliedig ar wybodaeth, yw dull gweithredu’r coleg cyfan o ymdrin â chyfranogiad ac Erthygl 12 o CCUHP, a hyrwyddir gan y tîm uwch-reolwyr a’r Bwrdd Corfforaeth.
Bydd y camau nesaf yn cynnwys darparu hyfforddiant Cyflwyniad i Hawliau Plant ar gyfer gweithwyr proffesiynol gan ganolbwyntio i ddechrau ar staff addysgu a staff cynorthwyol.
-
Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul: Lleisiau Plant yn Herio Hiliaeth
Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul yn Grangetown, Caerdydd. O ran y dysgu, mae’r ysgol yn defnyddio dull gweithredu seiliedig ar ymholiadau i alluogi plant i lywio eu dysgu eu hunain trwy ofyn cwestiynau ac ymchwilio i’r syniadau mae ganddyn nhw’r diddordeb mwyaf ynddynt. Yn ystod un tymor yn 2021, bu Blwyddyn 6 yn canolbwyntio ar y cwestiwn ymholiad, ‘Beth yw ystyr perthyn?’
Dewisodd y plant feysydd ffocws o fewn yr ymholiad eang hwn, a oedd yn cynnwys:
- dysgu am hanes yr Ymerodraeth Brydeinig;
- archwilio profiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches trwy gyfrwng llyfrau a’r newyddion;
- archwilio beth sy’n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn perthyn;
- dathlu Mis Hanes Pobl Dduon trwy ganolbwyntio ar yr arwres leol Betty Campbell;
- archwilio eu gweledigaeth eu hunain ar gyfer y Gymanwlad;
- ysgrifennu llythyr at y Frenhines, a chael ateb ganddi.
Yn rhan o’u hymholiad, lluniodd y plant eu fideo eu hunain i esbonio sut maen nhw’n herio hiliaeth pan fyddan nhw’n ei gweld neu’n ei chlywed. Trwy’r fideo hwn, bu’r plant yn archwilio egwyddor cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu. Dysgodd y plant fod gan bob person dynol fynediad cyfartal at hawliau dynol a bod yr hawl i gydraddoldeb yn perthyn i bawb. Rhan allweddol o’r ymholiad hwn oedd bod y plant yn archwilio eu rôl eu hunain fel dinasyddion gweithredol sydd â’r hawl i fynegi eu barn a chael gwrandawiad.
Ar ddiwedd yr ymholiad, cymerodd y plant ran mewn perfformiad dealltwriaeth, lle cyflwynon nhw eu syniadau eu hunain ynghylch gweledigaeth newydd ar gyfer y Gymanwlad. Ymhlith eu syniadau roedd addysg i bawb, cyflawni targedau amgylcheddol byd-eang a choleddu pob cred grefyddol. Roedd cysyniad eu hawl eu hunain i fynegi barn yn rhan hanfodol o ddod i ddeall democratiaeth. Cafodd y plant eu cymryd o ddifrif gan oedolion dylanwadol: anfonodd y Frenhines ateb i’w llythyr, a buon nhw’n trafod eu barn gyda Chomisiynydd Plant Cymru. Gwelson nhw fod eu lleisiau’n cael gwrandawiad a’u bod nhw’n bwysig.
Ysgol Plasmawr: Balch
Balch yw grŵp gwrth-hiliaeth yr ysgol, sy’n cael ei redeg gan ddisgyblion. Maen nhw’n cwrdd unwaith yr wythnos lle maen nhw’n cael trafodaethau strwythuredig ar gydraddoldeb a hefyd yn trafod unrhyw ddigwyddiadau/achosion o hiliaeth sy’n digwydd yn yr ysgol. Maen nhw hefyd yn trafod a delio ag unrhyw bryderon sydd gan ddisgyblion.
Mae gan y grŵp rôl mewn addysgu staff yr ysgol yn ogystal â’r disgyblion. Mae staff yn gallu gofyn y grŵp am eu barn a gwirio os yw pethau’n addas. Mae cynlluniau hefyd i Falch hyfforddi staff trwy wneud gweithdy yn ystod eu sesiwn HMS. Maen nhw’n bwriadu tynnu sylw at faterion o bwys a thaclo ‘rhagfarn ddiarwybod’.
Teimlai’r grŵp taw diffyg addysg yn aml yw’r rheswm am yr achosion o hiliaeth yn yr ysgol. Maen nhw’n ceisio cysylltu â blynyddoedd 7-9 yn benodol er mwyn darganfod beth sy’n eu poeni nhw a beth gall y grŵp ei wneud i wella profiadau disgyblion yr ysgol. Maen nhw hefyd yn gobeithio defnyddio gwasanaethau ac amser cofrestru i wneud mwy i godi ymwybyddiaeth, er enghraifft trwy hybu dealltwriaeth o ddiwylliannau gwahanol.
Mae’r grŵp wedi sylweddoli dyw iaith a ‘jôcs’ hiliol ddim yn digwydd mor aml yn y blynyddoedd iau ers iddyn nhw ddechrau eu hymyriadau. Achosodd Covid a’r cyfnodau clo problemau yn cyrraedd disgyblion, felly gwelwyd cynnydd yn yr ymddygiad wrth i ddisgyblion dychwelyd nôl i’r ysgol yn Haf 2020, ond mae hyn wedi lleihau eto wrth i Falch cadw at eu gwaith.
Mae gan yr ysgol grwpiau cydraddoldeb gwahanol yn yr ysgol hefyd e.e. Digon (grŵp hawliau LHDTC+). Mae hyn yn lleihau pwysau ar ddisgyblion penodol yn yr ysgol yn gorfod delio â phob achos o anghydraddoldeb ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion taclo anghydraddoldebau tuag at grwpiau gwahanol ar sawl ffrynt yn lle.
-
Ysgol Breswyl Therapiwtig Amberleigh: creu mannau diogel i archwilio safbwyntiau a phrofiadau gwahanol
Ysgol arbennig annibynnol ym Mhowys yw Ysgol Breswyl Therapiwtig Amberleigh, ac mae’n rhan o gymuned therapiwtig achrededig. Mae’r achrediad hwn yn seiliedig ar set o 10 o Werthoedd Craidd o gymharu â chasgliad o safonau seiliedig ar dystiolaeth a gynhelir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
Nod sylfaenol yr ysgol yw bod gan bob person ifanc yr hawl i lais cyfartal a’u bod yn gallu cyfranogi mewn penderfyniadau yn y gymuned. Mae grymuso â’i wreiddiau mewn perthnasoedd sy’n hwyluso cyfranogiad yn seiliedig ar gael llais, parch a rhyng-ddibyniaeth. Cynllunnir cymunedau therapiwtig i hwyluso’r mathau hyn o berthnasoedd.
Wrth wraidd y diwylliant hwn mae cyfarfodydd a gynhelir ddwywaith y dydd, yn union cyn ac ar ôl ysgol, yn ogystal â chyfarfodydd estynedig sy’n cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos. Pwrpas y cyfarfodydd hyn yw galluogi’r bobl ifanc i ddeall, trafod a mynegi eu profiadau a’r hyn sydd ar eu meddwl mewn modd agored, gonest a diogel.
Mae’r cyfarfodydd hyn hefyd yn creu lle diogel i bobl ifanc fynegi pryderon a chodi materion sy’n effeithio arnyn nhw o flaen eu cyfoedion a’r staff hefyd. Mae dull gweithredu’r gymuned therapiwtig yn golygu bod addysg, gofal a therapi wedi’u hintegreiddio ac mae’r cyfarfodydd dyddiol yn gyfle i’r bobl ifanc ofyn cwestiynau ynghylch pob rhan o’r gymuned. Hefyd, mae’n galluogi’r bobl ifanc i leisio cwynion a chyfrannu at wneud newidiadau. Yn ogystal, mae’r cyfarfodydd yn gyfle i’r bobl ifanc herio pobl eraill mewn modd priodol a chael cymorth i drafod unrhyw faterion sydd wedi codi gydag aelodau eraill o’r gymuned.
Cefnogir hyn ymhellach yn yr ysgol gan wasanaethau wythnosol ar gyfer cymuned yr ysgol, a thrafodaethau grŵp cyfan, grŵp bach ac unigol, sy’n aml yn rhoi sylw i hawliau dynol a chydraddoldeb.
Mae’r Pennaeth yn disgrifio’r bobl ifanc yn yr ysgol fel rhai sydd, ‘wedi’u grymuso a’u galluogi i gwestiynu ei gilydd mewn modd cadarnhaol ac anfeirniadol … Yn reddfol, mae’r bobl ifanc yn dysgu defnyddio’r sgiliau hyn i fynegi eu hunain ac yn gallu cyfrannu at drafodaethau a dadleuon mewn modd iach. Un canlyniad uniongyrchol yw eu bod nhw’n datblygu’r sgiliau i dderbyn gwahaniaeth a mynegi barn neu safbwyntiau.’
Astudiaeth achos: dysgu am hawliau a’u profi trwy addysg yn y cartref
Bu Madeleine Hobbs yn aelod o Banel Ymgynghorol Pobl Ifanc y Comisiynydd Plant rhwng 2018 a 2021. Cafodd Madeleine ei haddysgu yn y cartref ac fe wnaeth dysgu trwy brofiad ei grymuso i ddeall ei hawliau a chael mynediad iddyn nhw.
Fel plentyn ifanc, datblygodd Madeleine ddealltwriaeth gynnar o’i hawliau cyfranogi trwy brofiad a thrwy chwarae. Byddai Madeleine yn ymuno ag aelodau o’r teulu pan oedden nhw’n bwrw pleidlais, ac fe luniodd Madeleine flwch pleidleisio a charden bleidleisio gartref er mwyn cynnal etholiad teuluol. Cafodd ei harwain gan y diddordeb hwn i archwilio gwleidyddiaeth, dinasyddiaeth a hawliau dynol. Bu’r archwiliadau hyn yn cynnwys gwaith ymchwil i’r swffragetiaid, ymweld â Dau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig a gweithredu ar faterion sy’n bwysig iddi, gan gynnwys ymgyrchu yn erbyn y ddeddfwriaeth a gynigiwyd ar addysg yn y cartref. Mae hyn wedi galluogi Madeleine i gael profiad uniongyrchol o’i hawl i ryddid i ymgysylltu trwy ymgynnull yn heddychlon gyda’i chymuned.
Fe bleidleisiodd Madeleine am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd yn 2021. Mae hi’n disgrifio’r profiad fel un ‘cyffrous dros ben. Ces i’r teimlad fy mod i’n gwneud rhywbeth, yn y byd go iawn, roeddwn i wedi edrych ymlaen ato am amser hir.’
Fe wnaeth gwaith ymchwil Madeleine i wleidyddiaeth a hanes ei hysgogi hefyd i ddod yn aelod o Banel Cynghori’r Comisiynydd, ‘Ces i fy ysbrydoli gan y swffragetiaid, yr ymdrech a’r amser a gyfrannon nhw i ymladd dros hawliau menywod a’r peryglon roedden nhw’n eu hwynebu. Roeddwn i am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac i hawliau plant. Roedd fy mhrofiadau addysg i yn golygu fy mod i eisoes yn teimlo’n hyderus i fynegi barn ond roedd y panel yn cynnig cyd-destun newydd i mi. Wrth gwrs, doedden ni ddim i gyd yn cytuno ar bopeth, ac roedd hynny’n bwysig. Cawson ni drafodaethau gwerthfawr iawn, gan rannu ein profiadau a’n safbwyntiau gwahanol, ac fe gawson ni gyfleoedd i rannu’r rhain mewn amgylcheddau gwleidyddol. Roedd e’n gyfle i mi godi fy llais a disgwyl cael yr un parch ag oedolyn.’
-
Ysgol Alun
Ysgol uwchradd yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yw Ysgol Alun, a fu’n rhan o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) er 2015.
Mae’r cyngor ysgol yn adolygu’r adroddiad sy’n cael ei greu gan SHRN ac yn craffu ar bob cwestiwn, gan amlygu’r prif benawdau a’r meysydd i ganolbwyntio arnynt. Bydd grwpiau tiwtor Blwyddyn 7-11 a chyngor y Chweched Dosbarth hefyd yn edrych ar is-feysydd yr adroddiad, yn edrych ar yr uchafbwyntiau ac yn canolbwyntio ar ychydig o ganlyniadau’r adroddiad. Mae hyn yn galluogi’r holl ddisgyblion i weithio ar y cyd a chael cyfle i rannu eu myfyrdodau ar ganfyddiadau iechyd a lles Ysgol Alun ac awgrymu camau gweithredu posibl i wella’r dull ymhellach.
Mae llais y disgybl yn hanfodol drwy gydol y cylch SHRN. Caiff yr holl ddisgyblion eu hannog i rannu eu myfyrdodau a chynnal trafodaethau rhwng disgyblion, rhwng disgyblion a staff, trafodaethau staff a thrafodaethau rhwng disgyblion ac oedolion yn y gymuned am y data yn yr adroddiadau.
Mae’r cyngor ysgol yn arwain y gwaith o ddadansoddi adroddiad SHRN, lle mae’n trafod rhesymau posibl am y canfyddiadau ac yn darganfod meysydd i’w dathlu neu i ganolbwyntio arnynt. Mae’r cyngor ysgol hefyd yn arwain ar lunio cynllun gweithredu SHRN yr ysgol, y mae staff yr ysgol ac oedolion yn y gymuned yn cyfrannu ato hefyd. Mae’r cynllun gweithredu yn bwydo’r Cynllun Datblygu Ysgol.
Mae’n ddull ysgol gyfan sy’n defnyddio egwyddorion Dull Hawliau Plant. Mae’r holl staff, disgyblion a rhieni/gofalwyr yn ymwybodol o SHRN a’r rolau y mae’n eu chwarae o ran Erthyglau 12 a 24. Mae defnyddio Dull Hawliau Plant wedi annog disgyblion i gymryd rhan a dweud eu dweud ar iechyd a lles ac ABCh yn yr ysgol.
Mae rhannu adroddiad SHRN wedi iddo gael ei gynhyrchu yn hanfodol i’r cylch SHRN yn Ysgol Alun. Mae’n cynnig cyfleoedd pellach i drafod â phobl ifanc a chyfleoedd i bobl ifanc rannu eu barn a’u safbwyntiau ar y data a gafwyd. Mae’n holl staff yn rhan o broses ddadansoddi SHRN, gan gynnwys yn eu rolau bugeiliol fel tiwtoriaid grŵp i gefnogi trafodaethau gan bobl ifanc ar ganfyddiadau’r adroddiad SHRN.
Cyhoeddwyd adroddiad diwethaf yr ysgol yn 2020 yn ystod y cyfnod clo. Addasodd y cyngor ysgol ei dull drwy gyfarfod ar-lein ac adolygu’r adroddiad gan ddefnyddio dogfennau ar y cyd i roi sylwadau ac awgrymu camau gweithredu yn y dyfodol.
Mae defnyddio’r dull hwn yn golygu bod gan bobl ifanc ddiddordeb mewn iechyd a lles yn eu lleoliad, ar lefel leol ac yn genedlaethol, gan chwilio am unrhyw batrymau neu wahaniaethu o ran meysydd y maent yn eu dathlu a’r meysydd maent yn canolbwyntio arnynt. Mae pobl ifanc yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt ac yn ymwybodol o’u hawliau.
Mae llais y disgybl wedi effeithio ar eu cwricwlwm a’r dull ysgol gyfan ar gyfer pynciau a themâu yng nghymuned yr ysgol. Mae wedi helpu ennyn sgyrsiau am hawliau ar draws y gymuned a chodi ymwybyddiaeth o iechyd a lles. Mae’r cwricwlwm wedi’i deilwra’n unol â’r adroddiad SHRN ac ymgynghoriadau llais y disgybl. Erbyn hyn, gall disgyblion, staff a’r gymuned siarad yn rhwyddach am bynciau a oedd yn sensitif i’w trafod yn y gorffennol. Mae mwy o ddisgyblion yn rhoi adborth ac yn cyfrannu at yr holiaduron mae’r ysgol yn eu creu yn rheolaidd.
Ysgol Hafod Lon
Creuwyd y fideo yma gan ddisgyblion yn Ysgol Hafod Lon, ysgol i blant 3-19 oed gydag amrywiaeth o anghenion dysgu ychwanegol.
Yn y fideo mae disgyblion yn dangos y llefydd yn yr ysgol sy’n helpu nhw i deimlo’n hapus, yn iach, ac yn ddiogel, ac yr hawliau plant sydd yn bwysig iddynt:
Ysgol Gynradd Bryn Deva
Mae’r cyngor ysgol wedi ennill ei blwyf yma ac yn cael ei werthfawrogi. Cynrychiolir plant o’r derbyn i flwyddyn chwech, felly mae pob plentyn yn deall ac yn arddel eu hawliau dynol a’u hawliau democrataidd.
Mae cyfranogiad yn fater difrifol a chynhelir cyfarfodydd bob pythefnos yn ystod amser gwersi. Cymerir cofnodion ym mhob cyfarfod a’u harddangos ar hysbysfwrdd y Cyngor Ysgol ac mewn Ffolderi sy’n cael eu cadw ym mhob ystafell ddosbarth.
Mae’r Cyngor Ysgol yn cefnogi’r gwaith o addysgu a dysgu am ddemocratiaeth ac mae’n annog y plant i ymgysylltu â materion cyfoes sy’n ymwneud â Senedd y Deyrnas Unedig a Senedd Cymru. Maen nhw’n ymgysylltu â’u Haelod Seneddol lleol a chynllun Llysgenhadon Gwych y Comisiynydd Plant.
Mae’r cyngor ysgol wedi gweithio ar nifer o faterion, gan gynnwys: teithio llesol; cyfweld â staff; penderfyniadau ynghylch y gyllideb; cyflwyno gwasanaethau ar fwyta’n iach; gweithio ar bolisïau ysgol.
Mae bod yn rhan o’r Cyngor Ysgol yn cael effaith fawr. Mae’n cynnig siawns i’r plant ddatblygu nifer o sgiliau, yn gwella eu hyder ac yn rhoi cynifer o gyfleoedd newydd iddyn nhw. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi: cyfarfod â’r Gweinidogion Addysg; cyfarfod â chynghorwyr, Aelodau o’r Cynulliad/Senedd ac Aelodau Seneddol lleol; a chynrychioli’r ysgol yng Ngwasanaeth y Gymanwlad yn Abaty Westminster lle’r oedd Ei Mawrhydi y Frenhines, aelodau hŷn eraill o’r teulu brenhinol a Boris Johnson yn bresennol.
-
Ysgol Gynradd Lodge Hill Caerllion
Mae Ysgol Gynradd Lodge Hill Caerllion wedi’i lleoli yng Nghaerllion, Casnewydd. Cyflwynodd ei gwaith ar ailwampio ei strategaeth gwrthfwlio i Grŵp Llywio Cynghrair Gwrthfwlio Cymru yn 2022.
Dechreuodd drwy ymgorffori ei gwaith ar wrthfwlio yn y Cynllun Datblygu Ysgol a rhoi newidiadau ar waith i brotocolau ac arfer dyddiol. Y prif newid amlwg i arfer yr ysgol oedd yr eirfa a ddefnyddiwyd wrth gyfeirio at wrthfwlio; er enghraifft, mae ‘targed’ a ‘chyflawnwr’ wedi disodli ‘dioddefwr’ a ‘bwli’. Enillodd ei ffocws fomentwm ar ôl cael ei chyflwyno i elusen gwrthfwlio Kidscape, lle y manteisiodd yr ysgol ar hyfforddiant ac adnoddau.
Ail-luniodd Ysgol Lodge Hill Caerllion ei pholisi gwrthfwlio a’i hailenwi’n Bolisi Hawliau, Parch, Cydraddoldeb. Ynddo, rhoddodd bwyslais ar atal achosion o fwlio drwy ddeall y rhesymau y tu ôl i fathau penodol o ymddygiad a chofleidio’r angen i roi cefnogaeth i bawb sy’n gysylltiedig â digwyddiadau. Defnyddiwyd camau gweithredu deg pwynt Kidscape i hwyluso’r gwaith o ail-lunio’r polisi, a chafodd y polisi fewnbwn gan staff yr ysgol a’r Tîm Arweinyddiaeth Disgyblion. Mae ei chynllun gweithredu ar y polisi yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru bob tymor.
Penodwyd aelod staff arweiniol a llywodraethwr arweiniol ar gyfer Hawliau, Parch, Cydraddoldeb i gydlynu, arwain a hyrwyddo’r weledigaeth a oedd yn dod i’r amlwg, a gwahoddwyd yr holl lywodraethwyr i fynychu hyfforddiant HPC cyn diwedd blwyddyn academaidd 2021-22.
Mae’r Tîm Arweinyddiaeth Disgyblion yn cyfarfod â’r pennaeth a staff HPC yn wythnosol i rannu syniadau a gwneud awgrymiadau i fynd i’r afael â phryderon sy’n cael eu codi gan ddisgyblion eraill. Hefyd, mae’r tîm yn llunio cwestiynau i’w defnyddio mewn arolwg HPC chwe-misol i holl ddisgyblion yr ysgol, a chaiff y canlyniadau eu defnyddio i gynllunio a ffocysu ar gyfer y tymor sydd i ddod.
Ar ôl achosion o fwlio, mae’r ysgol yn mabwysiadu strategaethau amrywiol i helpu ailadeiladu hyder, hunan-barch a pherthnasoedd. Er enghraifft:
- Caiff sesiynau cyfiawnder adferol eu cynnal rhwng disgyblion sy’n rhan o ddigwyddiad
- Caiff sesiynau ELSA eu trefnu i’r disgyblion dan sylw i roi amser iddynt siarad â rhywun am eu teimladau
- Caiff sesiynau agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu (SEAL) eu defnyddio i helpu i feithrin cyfeillgarwch a sgiliau cymdeithasol.
Mentora cymheiriaid
Mae staff addysgu’r ysgol hefyd yn mynd ati i sefydlu Rhaglen Mentora Cymheiriaid ar ôl cael hyfforddiant gan Kidscape.
Bydd disgyblion Blwyddyn 4 a 5 yn ymgyfeillio â disgyblion iau sydd angen cymorth â sgiliau cymdeithasol a meithrin cyfeillgarwch, ac yn modelu ymddygiad disgwyliedig.
Bydd grŵp llywio o aelodau staff yn hyrwyddo’r rhaglen a chrëwyd cynllun gweithredu hefyd i asesu, adolygu a gwella wrth iddynt symud drwy’r broses.
Kidscape www.kidscape.org.uk
Cynghrair Gwrthfwlio www.anti-bullyingalliance.org.uk