Pwy yw Comisiynydd Plant Cymru
Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru; mae hi wedi llenwi’r rôl yma ers Ebrill 2022.
Pwrpas ei swydd yw dweud wrth eraill am bwysigrwydd hawliau plant, ac i edrych ar sut mae penderfyniadau cyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, yn effeithio ar hawliau plant.
Mae ganddi hi dîm sy’n gweithio gyda hi er mwyn cyflawni hyn.
Dysgwch mwy am Rocio a’i gwaith.
Gwyliwch fersiwn BSL o’n tudalen ‘Amdanom Ni’ yma.
Beth yw rôl y Comisiynydd Plant?
- Cefnogi plant a phobl ifanc i ddysgu am hawliau plant. Mae nhw’n cael eu hamlinellu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (yr UNCRC)
- Gwrando ar blant a phobl ifanc i ddarganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw
- Cynghori plant, pobl ifanc a’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw os rydyn nhw’n meddwl bod nhw wedi cael eu trin yn annheg. Rydyn ni’n gwneud hyn trwy ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor.
- Dylanwadu ar y llywodraeth a chyrff eraill sy’n dweud eu bod nhw’n mynd i wneud gwahaniaeth i fywydau plant, gan wneud yn siwr eu bod nhw’n gwneud newidiadau positif
- Codi llais dros blant a phobl ifanc yn genedlaethol ar faterion pwysig
Mae’r Comisiynydd Plant yn gweithio dros bob plentyn yng Nghymru sydd:
- Lan at 18
- Lan at 21 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal, neu 25 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal a dal mewn addysg
Beth yw pwerau’r Comisiynydd?
Mae ein tudalen pwerau yn esbonio ein pwerau, a sut rydyn ni wedi eu defnyddio i wneud newidiadau positif i blant a phobl ifanc ers cael ein sefydlu yn 2001.
Rydyn ni hefyd wedi creu fideo: