Ein Panel – Cefndir
Sefydlwyd y panel hwn yn 2016, ac mae’n cynnwys 45 o aelodau, sy’n blant a phobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed. Maen nhw’n cynnal tri chyfarfod diwrnod llawn bob blwyddyn, ac mae’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd hefyd yn aelodau o’n panel ymgynghorol.
Mae’r panel ymgynghorol hwn yn ein galw i gyfrif ynghylch y gwaith o gyflawni ein cynlluniau gwaith tair blynedd a blynyddol.
Dyma’r aelodau presennol, sydd wedi’u recriwtio o wahanol rannau o Gymru…
Milton
Fy enw i yw Milton, dwi’n fachgen Salvadorean. Mae gen i ddiddordeb i fod yn feddyg plant a helpu’r holl blant sydd angen cymorth. Dwi’n unigolyn sydd yn meddwl am safbwyntiau eraill a dwi’n hoffi gwrando ar bawb a dysgu pethau newydd am bawb o’m cwmpas.
Beca
Rwy’n byw yn Abertawe ac yn mwynhau gwario fy amser ar draethau Penrhyn Gwyr. Rwy’n hoffi chwarae pob math o chwaraeon yn enwedig nofio a phêl rwyd. Rwy’n hoff iawn o gerddoriaeth ac yn mwynhau canu’r delyn a’r piano.
Hannah
Dwi’n 13 mlwydd oed ac yn byw gyda fy rhieni a fy mrawd mawr. Dwi’n dwli ar fadminton ac yn teimlo anrhydedd i gael fy newis i gynrychioli Cymru. Dwi hefyd yn mwynhau’r clarinét ac yn chware yng ngrŵp fy ysgol a’n gweithio tuag at radd 7. Dwi’n gwneud gwobr Dug Caeredin Efydd a’n gobeithio gweld y sgiliau datrys problemau dwi’n dysgu yn helpu’r gymuned ehangach o fy nghwmpas. Dwi’n frwdfrydig i geisio tynnu sylw at rhai o’r materion mae pobl ifanc yng Nghymru yn wynebu a chefnogi’r Comisiynydd Plant i wneud newid yn ystod amser heriol i nifer.
Holly
Helo, fy enw i yw Holly. Dwi’n 14 oed a’n byw ym Mhen y Bont. Dwi ar y cyngor ysgol a’r pwyllgor eco, ynghyd â Chyngor Ieuenctid Pen y Bont a Theatr Ieuenctid Pen y Bont. Dwi’n teimlo’n anrhydeddus i gael fy newis i fod ar banel ymgynghorol pobl ifanc. Dwi’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r panel a gobeithio sicrhau bod bob plentyn yn cael eu clywed a’n tyfu fyny yn hapus.
Imogen
Helo, fy enw i yw Imogen a dwi’n dod o Gaerdydd. Dwi’n 14 oed. Dwi’n edrych ymlaen dechrau ar fy newisiadau eleni a dysgu nifer o bethau newydd. Dwi’n freintiedig i gael y cyfle i fod yn rhan o’r panel ymgynghorol a rhannu fy safbwyntiau, a gweithio gyda phobl eraill. Yn fy amser hamdden dwi’n hoffi chwarae pêl rhwyd a hoci, adeiladu cyfeillgarwch gyda chwaraewyr hefyd, ynghyd a dysgu ieithoedd yn yr ysgol ac ysgrifennu creadigol. Fel plentyn, mae fy mhrofiad o siarad allan, cynrychioli fy ysgol fel llysgennad a bod ar y cyngor ysgol ar gyfer siarad gydag athrawon a llywodraethwyr. Dwi’n falch i gefnogi eraill sydd yr un oedran, a chymdeithasu er mwyn rhoi llais i’r bobl sydd ei angen fwyaf.
Mari
Helo Mari ydw i, rwy’n 14 ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin. Rwy’n mwynhau Scouts, hoci, rhedeg a gwyddbwyll yn fy amser rhydd. Rwy’n gobeithio helpu llais pob person ifanc gael ei glywed, yn enweding rhai sydd yn byw yn ardaloedd fwy gwledig.
Noura
Helo, fy enw i yw Noura. Ar hyn o bryd dwi’n disgybl Lefel A mewn Mathemateg, Bioleg a Chemeg. Dwi wedi gweithio ar y cyngor ysgol nifer o weithiau, ond dyma fy mhrofiad cyntaf ar banel allanol ac rydw i’n edrych ymlaen at gyfrannu ynghyd a datblygu ac addysgu fy hun. Yn bennaf fy niddordebau allgyrsiol yw celf a darllen, ac rwyf eisiau safon well ar gyfer elfennau o fywydau pobl ifanc sydd ddim yn cael sylw neu sylw’n aml.
Rowan
Hei, Fi yw Rowan, dwi’n 14 oed a’n byw yng Nghaerdydd. Dwi wir yn gyffrous i fod yn rhan o’r panel gan fy mod gwastad eisiau gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc. Fel person ifanc sydd yn huniaethu gyda chymuned LHDTC+, credaf yn gryf dylai bob plentyn teimlo fel maent yn cael eu cynnwys yng nghymdeithas heddiw, a dwi wir yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Comisiynydd Plant er mwyn galluogi hyn i ddigwydd. Dwi hefyd yn dwli ar fyd natur ac yn wir mwynhau mynd allan i gerdded yng nghefn gwlad brydferth Cymru, dwi’n angerddol am ei warchod.
Erin
Fy enw i yw Erin, dwi’n 15 oed a’n byw yn Sir Fflint, Gogledd Cymru. Dwi’n canu’r piano a’r ffliwt gan hefyd mwynhau gwylio ffilmiau, darllen ac action. Dwi’n caru anifeiliaid hefyd, yn enwedig cŵn. Dwi’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r panel gan fy mod yn angerddol am newid y ffordd mae pobl yn ymateb i broblemau mae plant yn wynebu ar draws Cymru ac eisiau gweld gwellhad mewn sut mae’r gwahanol faterion yn cael eu taclo.
Zjackaria
Helo, Zjackaria ydw i. Dwi’n 11 oed ac yn mwynhau dysgu am wleidyddiaeth a newid hinsawdd. Ceisiaf ddewis yr opsiwn cynaliadwy a dwi’n mwynhau dysgu am wahanol ddiwylliannau. Dwi’n mwynhau chwarae’r ffidil a dysgu ieithoedd newydd. Gobeithiaf ymuno a Senedd Ieuenctid Cymru yn y dyfodol a’n ddiolchgar iawn am gael gweithio gyda Chomisiynydd Plant Cymru.
Sienna
Helo! Fy enw i yw Sienna a dwi’n 11 mlwydd oed, dwi hefyd yn aelod o banel ymgynghorol comisiynydd plant Cymru. Fy mhrif ddiddordeb yw celf ond mae gen i hefyd ddiddordeb mewn mycoleg, gobeithiaf all fy llais cael ei chlywed; dwi hefyd yn gobeithio i eraill fel fi gallu defnyddio eu llais nhw dros Gymru a’r byd ehangach! Gobeithiaf wneud gwahaniaeth yn ein hinsawdd ac achub ein byd! Dwi’n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn.