Two parents with two children all holding hands on a walk outside

Tîm Cyngor a Chymorth Hawliau Plant

Manylion cyswllt

FFÔN – 01792 765600

Rhadffôn – 0808 801 1000

EBOST

Ein horiau agor: 

Dydd Llun i Ddydd Gwener o 9yb-5yh, oni bai am Wyliau Banc.

Post: Comisiynydd Plant Cymru
Tŷ Llewellyn
Parc Busnes Glan yr Harbwr
Heol yr Harbwr
Port Talbot
SA13 1SB

Mae holl alwadau ffôn ein gwasanaeth Cyngor a Chyngor yn cael ei recordio, er mwyn ein helpu gyda hyfforddi, monitro a’n helpu i ddatrys cwynion.

Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Mae hynny’n cynnwys hawl i gael addysg, hawl i’r gofal iechyd gorau posib, a hawl i fod yn ddiogel.

Rydyn ni’n gallu helpu plant a phobl ifanc hyd at 18 oed (neu 25 o dan rai amgylchiadau – *gweler yr adran Pwy y gallwn ni helpu*) y gallai fod angen cyngor neu gymorth arnyn nhw i gael mynediad at unrhyw rai o’u hawliau dynol fel plant. Gallwn ni hefyd roi cyngor a chymorth i oedolion yng Nghymru sy’n gweithio gyda phlant neu’n gofalu amdanyn nhw.

Byddwn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni yn gyfrinachol, oni bai ein bod ni’n meddwl bod beth rydyn ni’n ei glywed yn awgrymu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gael niwed – os felly, byddwn ni’n rhannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill sy’n gallu helpu i amddiffyn y plentyn.

Mae ein gwasanaeth Cyngor a Chymorth yn gyfrinachol ac ar gael am ddim.

Meysydd lle gallwn ni helpu:

Byddwn ni bob amser yn ceisio rhoi cyngor neu gefnogaeth i chi’n uniongyrchol, neu eich cyfeirio ymlaen i’r man cywir. Er ein bod yn ceisio helpu gydag unrhyw fater sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, ein meysydd arbenigedd penodol yw:

  • Hawliau ym myd addysg
  • Gwasanaethau cymdeithasol
  • Mynediad at iechyd
  • Cwynion

Bydd ein Tîm Cynghori cyfeillgar yn gwrando arnoch chi i ddeall eich sefyllfa cyn cynnig unrhyw gyngor neu gymorth. Os na allwn ni helpu, byddwn ni’n ceisio dod o hyd i rywun fydd yn gallu. Sut bynnag byddwch chi’n cysylltu â ni, ein nod fydd dod yn ôl atoch chi o fewn 3 diwrnod gwaith i’r cyswllt cychwynnol.

BSL

Os hoffech chi siarad gyda ni trwy gyfrwng BSL, plis anfonwch ebost i ni a byddwn ni’n trefnu cyfieithydd er mwyn siarad gyda chi.

Pwy y gallwn ni helpu

Mae’r deddfau wnaeth sefydlu swyddfa’r Comisiynydd yn golygu mai ond y canlynol gallwn ni eu helpu:

  • plant a phobl ifanc sydd o dan 18 mlwydd oed, neu 21 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal, neu hyd at 25 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal a dal yn astudio
  • plant a phobl ifanc sydd fel arfer yn byw yng Nghymru neu wedi’u lleoli yn Lloegr gan un o awdurdod lleol Cymru
  • plant a phobl ifanc sydd am wneud cwyn neu gynrhychiolaeth ynghylch darparwr gwasanaeth (megis unrhyw lleoliad gofal plant) neu sefydliadau penodol (megis unrhyw awdurdod lleol neu bwrdd iechyd lleol Cymru).

Mae’r deddfau yma hefyd yn golygu na allwn ni:

  • ddelio ag unrhywbeth sy’n ymwneud ag achosion cyfreithiol, gan gynnwys achosion llys a phenderfyniadau gan CAFCASS Cymru
  • gynnig gwasanaeth brys
  • gynnig gwasanaeth cwnsela ein hunain.

Rydyn ni’n sicrhau ein bod ni’n cadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu â ni yn breifat, oni bai ein bod ni’n meddwl eich bod plentyn neu person ifanc ddim yn ddiogel – wedyn byddwn ni’n rhannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill sy’n gallu helpu amddiffyn y plentyn.

Os bydd angen i ni rannu’r wybodaeth gyda phobl eraill a allai helpu, byddwn ni’n dweud wrthych chi beth rydyn ni’n ei wneud a pham rydyn ni wedi penderfynu gwneud hynny.

Mae ein swyddogion Ymchwiliadau a Chyngor yn dilyn y cyngor sydd wedi’i gynnwys yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.

Datgelu Camymarfer

Datgelu Camarfer yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio pan fydd gweithiwr yn trosglwyddo gwybodaeth ynghylch rhywbeth drwg sy’n digwydd. Yn nodweddiadol (er nad o reidrwydd) bydd hyn yn rhywbeth maen nhw wedi’i weld yn y gwaith.

I gael ei gynnwys o dan gyfraith datgelu camarfer, rhaid i’r datgeliad fod yn ‘ddatgeliad cymwys’, sef yn enghraifft o ddatgelu unrhyw wybodaeth sydd, ym marn rhesymol y gweithiwr sy’n gwneud y datgeliad, yn digwydd er lles y cyhoedd.

Os ydych chi’n pryderu oherwydd bod gennych chi amheuon ynghylch camarfer, perygl neu risg yn eich gweithle (neu eich gweithle blaenorol) sy’n effeithio ar hawliau a lles plant yng Nghymru, gallwch chi wneud datgeliad i Gomisiynydd Plant Cymru, sy’n ‘berson rhagnodedig’. Does dim rhaid i chi fod wedi sôn wrth eich cyflogwr cyn cysylltu â Chomisiynydd Plant Cymru.

Mae Gorchymyn Personau Rhagnodedig 2014 yn nodi rhestr o fwy na 60 o sefydliadau ac unigolion y gall gweithiwr droi atynt y tu allan i’w gweithle i roi gwybod am gamarfer sy’n digwydd neu amheuon ynghylch camarfer. Mae Comisiynydd Plant Cymru yn un o’r sefydliadau ar y rhestr honno.

Ewch i’n tudalen Datgelu Camymarfer

Taflen Cyngor a Chymorth

Os ydych yn gweithio gyda phlant, rhieni, neu gyda oedolion sy’n cefnogi plant, rhowch wybod iddynt am ein gwasanaeth wrth rannu’r dudalen hon neu ein taflen cyngor a chymorth gyda nhw. Mae hefyd fersiwn HTML o’n taflen ar gael ar y dudalen hon.

Taflen Cyngor a Chymorth (Agor fel PDF)

Taflen Cyngor a Chymorth – fersiwn HTML (Yn agor fel tab gwahanol)

Gwybodaeth ychwanegol

Ewch i’n tudalen ‘Sut rydyn ni’n delio gyda’ch gwybodaeth bersonol’

Darllenwch am sut mae ein gwasanaeth yn gweithio

Dysgwch fwy am ein pwerau cyfreithiol

Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth a galwadau yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a galwadau a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd cysylltu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

We welcome receiving correspondence and calls in Welsh. We will respond to correspondence and calls in Welsh, and contacting us in Welsh will not lead to delay.