Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Mae hynny’n cynnwys hawl i gael addysg, hawl i’r gofal iechyd gorau posib, a hawl i fod yn ddiogel.
Os bydd angen help arnoch chi i gael mynediad i’ch hawliau, cysylltwch â ni ar:
Ein horiau agor yw Dydd Llun i Ddydd Gwener o 9yb-5yh, oni bai am Wyliau Banc.
Mae holl alwadau ffôn ein gwasanaeth Cyngor a Chymorth yn cael ei recordio, er mwyn ein helpu gyda hyfforddi, monitro a’n helpu i ddatrys cwynion.
Mae swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yma i hybu a diogelu hawliau a lles pob plentyn sydd fel arfer yn byw yng Nghymru.
Mae’r Tîm Cyngor a Chymorth ar Hawliau Plant yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol, ddi-dâl sydd yno i gynghori a helpu plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw os byddan nhw’n teimlo bod plentyn wedi cael eu trin yn annheg.
Rydyn ni’n gallu helpu plant a phobl ifanc hyd at 18 oed (neu 25 o dan rai amgylchiadau*) y gallai fod angen cyngor neu gymorth arnyn nhw i gael mynediad at unrhyw rai o’u hawliau dynol fel plant. Gallwn ni hefyd roi cyngor a chymorth i oedolion yng Nghymru sy’n gweithio gyda phlant neu’n gofalu amdanyn nhw.
Byddwn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni yn gyfrinachol, oni bai ein bod ni’n meddwl bod beth rydyn ni’n ei glywed yn awgrymu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gael niwed – os felly, byddwn ni’n rhannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill sy’n gallu helpu i amddiffyn y plentyn.
*Mae’r gyfraith a sefydlodd ein swyddfa yn nodi y gallwn ni roi cyngor i blentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed, neu hyd at 21 oed os oes ganddyn nhw brofiad o ofal, neu hyd at 25 oed os oes ganddyn nhw brofiad o ofal ac maen nhw’n dal ym myd addysg.
Meysydd lle gallwn ni helpu:
Byddwn ni bob amser yn ceisio rhoi cyngor neu gefnogaeth i chi’n uniongyrchol, neu eich cyfeirio ymlaen i’r man cywir. Er ein bod yn ceisio helpu gydag unrhyw fater sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, ein meysydd arbenigedd penodol yw:
- Hawliau ym myd addysg
- Gwasanaethau cymdeithasol
- Mynediad at iechyd
- Cwynion
Bydd ein Tîm Cynghori cyfeillgar yn gwrando arnoch chi i ddeall eich sefyllfa cyn cynnig unrhyw gyngor neu gymorth. Os na allwn ni helpu, byddwn ni’n ceisio dod o hyd i rywun fydd yn gallu. Sut bynnag byddwch chi’n cysylltu â ni, ein nod fydd dod yn ôl atoch chi o fewn 3 diwrnod gwaith i’r cyswllt cychwynnol.
BSL
Os hoffech chi siarad gyda ni trwy gyfrwng BSL, plis anfonwch ebost i ni a byddwn ni’n trefnu cyfieithydd er mwyn siarad gyda chi.
Datgelu Camymarfer
Datgelu Camarfer yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio pan fydd gweithiwr yn trosglwyddo gwybodaeth ynghylch rhywbeth drwg sy’n digwydd. Yn nodweddiadol (er nad o reidrwydd) bydd hyn yn rhywbeth maen nhw wedi’i weld yn y gwaith.
I gael ei gynnwys o dan gyfraith datgelu camarfer, rhaid i’r datgeliad fod yn ‘ddatgeliad cymwys’, sef yn enghraifft o ddatgelu unrhyw wybodaeth sydd, ym marn rhesymol y gweithiwr sy’n gwneud y datgeliad, yn digwydd er lles y cyhoedd.
Os ydych chi’n pryderu oherwydd bod gennych chi amheuon ynghylch camarfer, perygl neu risg yn eich gweithle (neu eich gweithle blaenorol) sy’n effeithio ar hawliau a lles plant yng Nghymru, gallwch chi wneud datgeliad i Gomisiynydd Plant Cymru, sy’n ‘berson rhagnodedig’. Does dim rhaid i chi fod wedi sôn wrth eich cyflogwr cyn cysylltu â Chomisiynydd Plant Cymru.
Mae Gorchymyn Personau Rhagnodedig 2014 yn nodi rhestr o fwy na 60 o sefydliadau ac unigolion y gall gweithiwr droi atynt y tu allan i’w gweithle i roi gwybod am gamarfer sy’n digwydd neu amheuon ynghylch camarfer. Mae Comisiynydd Plant Cymru yn un o’r sefydliadau ar y rhestr honno.
Ewch i’n tudalen Datgelu Camymarfer
Taflen Cyngor a Chymorth
Os ydych yn gweithio gyda phlant, rhieni, neu gyda oedolion sy’n cefnogi plant, rhowch wybod iddynt am ein gwasanaeth wrth rannu’r dudalen hon neu ein taflen cyngor a chymorth gyda nhw. Mae hefyd fersiwn HTML o’n taflen ar gael ar y dudalen hon.
Taflen Cyngor a Chymorth (Agor fel PDF)
Gwybodaeth ychwanegol
Ewch i’n tudalen ‘Sut rydyn ni’n delio gyda’ch gwybodaeth bersonol’
Darllenwch am sut mae ein gwasanaeth yn gweithio
Dysgwch fwy am ein pwerau cyfreithiol
Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth a galwadau yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a galwadau a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd cysylltu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
We welcome receiving correspondence and calls in Welsh. We will respond to correspondence and calls in Welsh, and contacting us in Welsh will not lead to delay.