CCUHP – Hawliau Plant
Erthygl 1
Mae gan bob un dan 18 oed yr hawliau yma.
Erthygl 2
Mae’r confensiwn yn gymwys i bob un waeth beth.
Erthygl 3
Dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant bob amser wneud yr hyn sydd orau i bob plentyn.
Erthygl 4
Dylai’r llywodraeth sicrhau bod yr holl hawliau yma ar gael i bob plentyn.
Erthygl 5
Dylai llywodraethau helpu rhieni i’ch helpu chi i wybod am eich hawliau a’u defnyddio wrth i chi dyfu.
Erthygl 6
Mae gennych yr hawl i fywyd ac i dyfu i fod yn iach.
Erthygl 7
Eich hawl i enw a chenedligrwydd.
Erthygl 8
Dylai’r llywodraeth barchu eich hawl i enw, cenedligrwydd a theulu.
Erthygl 9
Eich hawl i fod gyda’ch rhieni os mae dyna sydd orau i chi.
Erthygl 10
Eich hawl i weld eich teulu os ydynt yn byw mewn gwlad arall.
Erthygl 11
I beidio â chael eich cymryd o’r wlad yn anghyfreithlon.
Erthygl 12
Eich hawl i ddweud beth ddylai digwydd ac i rywun wrando arnoch.
Erthygl 13
Eich hawl i gael gwybodaeth.
Erthygl 14
Eich hawl i ddilyn eich crefydd eich hun.
Erthygl 15
Eich hawl i gyfarfod â ffrindiau ac ymuno â grwpiau a chlybiau.
Erthygl 16
Eich hawl i breifatrwydd.
Erthygl 17
Eich hawl i wybodaeth onest yr ydych yn ei ddeall gan bapurau newydd a’r teledu.
Erthygl 18
Mae’r ddau riant yn rhannu’r cyfrifoldeb dros fagu eu plant, a dylent bob amser feddwl am yr hyn sydd orau ar gyfer bob plentyn.
Erthygl 19
Ni ddylech gael eich niweidio a dylech gael gofal a’ch cadw’n ddiogel.
Erthygl 20
Eich hawl i dderbyn gofal os nad ydych yn gallu byw â’ch teulu eich hun.
Erthygl 21
Eich hawl i fyw yn y lle sydd orau i chi os nad ydych yn gallu byw gyda’ch rhieni.
Erthygl 22
Mae gan blant sy’n ffoaduriaid yr un hawliau â phlant a aned yng Nghymru.
Erthygl 23
Eich hawl i ofal arbennig a chymorth os ydych yn anabl er mwyn i chi fyw bywyd llawn ac annibynnol.
Erthygl 24
Eich hawl i fwyd a dŵr da ac i weld y meddyg os ydych yn sâl.
Erthygl 25
Dylid mynd i weld plant nad ydynt yn byw gyda’u teuluoedd yn gyson er mwyn sicrhau eu bod yn iawn.
Erthygl 26
Yr hawl i arian ychwanegol os nad oes gen eich teulu ddigon o arian i fyw.
Erthygl 27
Eich hawl i safon dda o fwyd.
Erthygl 28
Eich hawl i ddysgu a mynd i’r ysgol.
Erthygl 29
Eich hawl i fod y gorau gallwch fod.
Erthygl 30
Eich hawl i ddefnyddio eich iaith eich hun.
Erthygl 31
Eich hawl i ymlacio a chwarae.
Erthygl 32
Dylech gael eich diogelu rhag gwaith sy’n beryglus.
Erthygl 33
Dylech gael eich diogelu rhag cyffuriau peryglus.
Erthygl 34
Dylai’r llywodraeth ddiogelu plant rhag cam-drin rhywiol.
Erthygl 35
Mae gennych yr hawl i beidio cael eich gwerthu.
Erthygl 36
Dylech gael eich diogelu rhag gwneud pethau a allai beri newid i chi.
Erthygl 37
Eich hawl i gael eich trin yn deg.
Erthygl 38
Dylai plant gael eu diogelu yn ystod rhyfel ac ni ddylid eu caniatâu i ymladd yn y fyddin os o dan 15.
Erthygl 39
Dylai plant gael cymorth arbennig os ydynt wedi cael eu camdrin.
Erthygl 40
Mae gennych hawl i gymorth cyfreithiol os ydych wedi cael eich cyhuddo o dorri’r gyfraith.
Erthygl 41
Os yw cyfreithiau eich gwlad yn eich gwarchod yn well na’r hawliau ar y rhestr hon, dylai’r cyfreithiau hynny aros.
Erthygl 42
Rhaid i’r llywodraeth roi gwybod i blant a theuluoedd am hawliau plant