CCUHP – Hawliau Plant

Gwyliwch fersiwn BSL o’r erthyglau

Erthygl 1

Mae gan bob un dan 18 oed yr hawliau yma.

Erthygl 2

Mae’r confensiwn yn gymwys i bob un waeth beth.

Erthygl 3

Dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant bob amser wneud yr hyn sydd orau i bob plentyn.

Erthygl 4

Dylai’r llywodraeth sicrhau bod yr holl hawliau yma ar gael i bob plentyn.

Erthygl 5

Dylai llywodraethau helpu rhieni i’ch helpu chi i wybod am eich hawliau a’u defnyddio wrth i chi dyfu.

Erthygl 6

Mae gennych yr hawl i fywyd ac i dyfu i fod yn iach.

Erthygl 7

Eich hawl i enw a chenedligrwydd.

Erthygl 8

Dylai’r llywodraeth barchu eich hawl i enw, cenedligrwydd a theulu.

Erthygl 9

Eich hawl i fod gyda’ch rhieni os mae dyna sydd orau i chi.

Erthygl 10

Eich hawl i weld eich teulu os ydynt yn byw mewn gwlad arall.

Erthygl 11

I beidio â chael eich cymryd o’r wlad yn anghyfreithlon.

Erthygl 12

Eich hawl i ddweud beth ddylai digwydd ac i rywun wrando arnoch.

Erthygl 13

Eich hawl i gael gwybodaeth.

Erthygl 14

Eich hawl i ddilyn eich crefydd eich hun.

Erthygl 15

Eich hawl i gyfarfod â ffrindiau ac ymuno â grwpiau a chlybiau.

Erthygl 16

Eich hawl i breifatrwydd.

Erthygl 17

Eich hawl i wybodaeth onest yr ydych yn ei ddeall gan bapurau newydd a’r teledu.

Erthygl 18

Mae’r ddau riant yn rhannu’r cyfrifoldeb dros fagu eu plant, a dylent bob amser feddwl am yr hyn sydd orau ar gyfer bob plentyn.

Erthygl 19

Ni ddylech gael eich niweidio a dylech gael gofal a’ch cadw’n ddiogel.

Erthygl 20

Eich hawl i dderbyn gofal os nad ydych yn gallu byw â’ch teulu eich hun.

Erthygl 21

Eich hawl i fyw yn y lle sydd orau i chi os nad ydych yn gallu byw gyda’ch rhieni.

Erthygl 22

Mae gan blant sy’n ffoaduriaid yr un hawliau â phlant a aned yng Nghymru.

Erthygl 23

Eich hawl i ofal arbennig a chymorth os ydych yn anabl er mwyn i chi fyw bywyd llawn ac annibynnol.

Erthygl 24

Eich hawl i fwyd a dŵr da ac i weld y meddyg os ydych yn sâl.

Erthygl 25

Dylid mynd i weld plant nad ydynt yn byw gyda’u teuluoedd yn gyson er mwyn sicrhau eu bod yn iawn.

Erthygl 26

Yr hawl i arian ychwanegol os nad oes gen eich teulu ddigon o arian i fyw.

Erthygl 27

Eich hawl i safon dda o fwyd.

Erthygl 28

Eich hawl i gael addysg.

Erthygl 29

Eich hawl i fod y gorau gallwch fod.

Erthygl 30

Eich hawl i ddefnyddio eich iaith eich hun.

Erthygl 31

Eich hawl i ymlacio a chwarae.

Erthygl 32

Dylech gael eich diogelu rhag gwaith sy’n beryglus.

Erthygl 33

Dylech gael eich diogelu rhag cyffuriau peryglus.

Erthygl 34

Dylai’r llywodraeth ddiogelu plant rhag cam-drin rhywiol.

Erthygl 35

Mae gennych yr hawl i beidio cael eich gwerthu.

Erthygl 36

Dylech gael eich diogelu rhag gwneud pethau a allai beri newid i chi.

Erthygl 37

Eich hawl i gael eich trin yn deg.

Erthygl 38

Dylai plant gael eu diogelu yn ystod rhyfel ac ni ddylid eu caniatâu i ymladd yn y fyddin os o dan 15.

Erthygl 39

Dylai plant gael cymorth arbennig os ydynt wedi cael eu camdrin.

Erthygl 40

Mae gennych hawl i gymorth cyfreithiol os ydych wedi cael eich cyhuddo o dorri’r gyfraith.

Erthygl 41

Os yw cyfreithiau eich gwlad yn eich gwarchod yn well na’r hawliau ar y rhestr hon, dylai’r cyfreithiau hynny aros.

Erthygl 42

Rhaid i’r llywodraeth roi gwybod i blant a theuluoedd am hawliau plant

Erthygl 43-54

Mae’r erthyglau hyn yn trafod sut y dylai llywodraethau, a sefydliadau fel ein un ni weithio i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn yn eu hawliau.