Hawliau plant
Mae gan eich plentyn hawliau.
Yn wir, mae gan bob plentyn yn y byd sy’n iau na 18 oed ei gyfres ei hun o hawliau, ar ben yr hawliau dynol sydd gan bobl o bob oed.
Yr enw ar y rhain yw hawliau plant, ac maen nhw wedi’u hysgrifennu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Maen nhw’n amlinellu yr hyn sydd angen ar blant i dyfu’n hapus, yn iach ac yn ddiogel.
Mae gan oedolion fel rhieni, ysgolion, cynghorau a llywodraethau dyletswydd i sicrhau bod plant yn derbyn eu hawliau.
Darllenwch grynodeb llawn o hawliau eich plentyn
Hawliau plant yng Nghymru
Yng Nghymru, mae ein llywodraeth wedi cytuno y dylai pob plentyn gael yr hawliau hyn.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu:
- Bod rhaid i Lywodraeth Cymru feddwl am sut mae unrhyw ddeddfau newydd yn effeithio ar hawliau plant
- Y dylai pob corff cyhoeddus sicrhau bod eich plant yn cael eu hawliau. Mae hyn yn cynnwys:
- Yn yr ysgol
- Pan fyddant yn cael cymorth meddygol
- Yn eu clwb ieuenctid
- Eich cyngor lleol
Pam mae hawliau’n bwysig?
Diben yr hawliau yw rhoi’r cyfle gorau i blant dyfu’n hapus, yn iach, ac yn ddiogel.
Yn y canllaw hwn, rydym wedi eu rhannu’n dri phrif faes:
Mae pob maes yn esbonio mwy am hawliau eich plentyn, ac yn cynnwys adnoddau a dolenni defnyddiol i’ch helpu chi a’ch plentyn i ddeall hawliau plant.
Comisiynydd Plant Cymru
Rydym ni yma i hyrwyddo a gwarchod hawliau plant yng Nghymru.
Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gwneud y pethau hyn:
- Gallwn roi cyngor i chi os ydych yn credu nad yw hawliau eich plentyn wedi cael eu parchu wrth ddefnyddio gwasanaeth.
- Rydym yn gwrando ar filoedd o blant bob blwyddyn am eu profiadau pob dydd o’u hawliau
- Rydym yn helpu sefydliadau i ddeall pam mae hawliau mor bwysig, ac i barchu hawliau’r plant maen nhw’n gweithio gyda nhw
- Rydym yn ceisio newid deddfau – rhai newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli, fel eu bod yn well i blant, ac yn parchu eu hawliau.