Coronafeirws
Ym mis Mawrth 2020 cafodd Cymru ei rhoi mewn cyfnod clo oherwydd y Coronafeirws.
Roedd hynny’n golygu bod bywyd yn newid i lawer ohonon ni.
Ac roedd yn golygu bod llawer o newid yn ffyrdd plant o ddysgu, chwarae, a chael mwy o help pan fydd angen hefyd.
Ein hadroddiad
Mae’r adroddiad yma’n dweud beth rydyn ni wedi’i wneud ers mis Mawrth 2020 i helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae hefyd yn sôn am sut mae plant a phobl ifanc wedi cael eu helpu gan eraill fel Llywodraeth Cymru, ac allen nhw fod wedi gwneud mwy.
Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w ddarllen yn y ddolen isod, ond rydyn ni hefyd wedi ysgrifennu fersiwn sy’n llawer byrrach ar y dudalen yma ar y we.
-
Pan oedden ni’n gwybod am y cyfnod clo roedden ni eisiau gwneud pedwar prif beth:
Gwneud yn siŵr bod gan blant, pobl ifanc a theuluoedd wybodaeth a help gallen nhw drystio.
I wneud hynny fe lunion ni Hwb Gwybodaeth Coronafeirws.
Roedd yn cynnwys llawer o wybodaeth i helpu teuluoedd i gadw’n hapus, iach a diogel yn ystod y cyfnod clo.
Mae’n cynnwys llwyth o fideos i helpu plant a theuluoedd i chwarae yn eu cartrefi a’u gerddi.
Mae wedi cael ei ddefnyddio dros 45,000 o weithiau ers mis Awst 2020.
Mae ysgolion, Llywodraeth Cymru, a Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’n helpu i ddweud wrth eraill amdano fe.
Gwirio bod y plant oedd angen help ychwanegol yn ddiogel ac yn cael yr help roedden nhw angen.
Fe wnaethon ni’n siŵr bod gan leoedd sy’n gofalu am blant sydd angen llawer o ofal ychwanegol, fel unedau iechyd meddwl, bopeth roedden nhw angen.
Fe wnaethon ni wirio bod ysgolion yn siarad â phlant roedden nhw’n pryderu amdanyn nhw.
Fe wnaethon ni wirio bod gwasanaethau cymdeithasol, sy’n rhoi help ychwanegol i deuluoedd pan fydd angen, yn gallu siarad â nhw a rhoi help iddyn nhw.
Ac fe fuon ni’n siarad â Llywodraeth Cymru fel bod nhw’n gwybod beth i’w wneud os doedd plant ddim yn cael yr help roedden nhw angen.
Gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn cael eu gwrando
Dywedodd bron 24,000 o blant a phobl ifanc wrthyn ni sut roedden nhw’n teimlo am y cyfnod clo trwy arolwg, o’r enw Coronafeirws a Fi.
Fe wnaeth beth ddywedodd plant a phobl ifanc yn yr arolwg helpu Llywodraeth Cymru, cynghorau, ac ysgolion i helpu plant.
Helpu Llywodraeth Cymru i glywed sut roedd plant yn teimlo a beth roedden nhw eisiau gweld yn digwydd
Roedden ni’n siarad bob dydd â gwahanol bobl yn y Llywodraeth i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gwybod beth i’w wneud dros blant.
Fe ddwedson ni wrthyn nhw am y problemau oedd gan deuluoedd, a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael canlyniadau ein harolwg ar unwaith, fel bod nhw’n gallu defnyddio hynny i helpu plant.
Beth am ein gwaith arall?
Rydyn ni wedi dal ati i wneud yr holl bethau roedden ni’n gwneud cyn y cyfnod clo.
- Rydyn ni wedi dal i helpu plant a theuluoedd gyda’u problemau
- Rydyn ni wedi dal i wrando ar blant am wahanol faterion, ond trwy ddefnyddio cyfarfodydd fideo
- Rydyn ni wedi dal i ddweud wrth y Llywodraeth beth rydyn ni’n meddwl bod angen iddyn nhw newid o ran cyfreithiau a rheolau newydd, fel bod nhw’n gwneud beth sydd orau i blant
Mae llawer mwy o fanylion yn ein hadroddiad llawn.
-
Prydau ysgol am ddim
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru yn siŵr bod plant sy’n cael prydau ysgol am ddim yn cael eu bwydo yn ystod gwyliau’r Pasg a’r haf hefyd. Rydyn ni eisiau gweld hynny’n dal i ddigwydd ar hyd y flwyddyn.
Chwarae ac ymarfer corff
Fe wnaeth pobl sy’n gweithio gyda phlant a sefydliadau fel yr Urdd, Chwarae Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru feddwl am ffyrdd newydd o helpu plant i chwarae a chadw’n actif.
Ysgolion
Trwy ein harolwg ‘Coronafeirws a Fi‘ fe glywson ni fod bron pob plentyn a pherson ifanc wedi cael peth cyswllt â’r ysgol neu’r coleg ar ôl i’r adeilad gau.
Cadw plant yn ddiogel
Arhosodd timau gwasanaethau cymdeithasol ar agor a newid sut roedden nhw’n gweithio i wneud yn siŵr eu bod nhw’n dal i fedru siarad â phlant a theuluoedd.
Arhosodd wasanaethau iechyd meddwl ar agor ar gyfer llawer o blant a chynigodd rhai cefnogaeth a therapy mewn ffyrdd newydd. Nid oedd angen i bobl ifanc mynd at eu meddyg teulu er mwyn gweld arbenigwr.
Plant a theuluoedd sydd angen rhagor o help
Bu Cynghorau a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i wneud yn siŵr bod plant sydd fel arfer yn cael help ychwanegol gan ysgol, coleg, meithrinfa neu grŵp cymunedol yn cael yr help roedden nhw angen gartre.
Mae llawer rhagor o fanylion yn ein hadroddiad llawn.
-
Hawliau plant
Pryd bynnag mae Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad sy’n effeithio ar blant, rhaid iddyn nhw dangos sut maen nhw wedi meddwl am ei heffaith ar hawliau plan.
Ni wnaeth Llywodraeth Cymru nodi sut bydd ei gweithredoedd yn effeithio ar hawliau plant pob tro ar ddechrau’r pandemig.
Ac fe wnaethon nhw stopio rhai darnau pwysig o waith roedden nhw’n gwneud i helpu plant sydd fel arfer yn dysgu gartre, ac yn mynd i ysgolion preifat.
Pan ddwedon nhw eu bod nhw’n stopio’r gwaith yma, wnaethon nhw ddim dangos sut bydd hyn yn effeithio ar hawliau plant.
Dysgu Ar-lein
Wnaeth Llywodraeth Cymru ddim dweud wrth blant nac ysgolion beth ddylen nhw ddisgwyl ei weld yn digwydd o ran dysgu ar-lein, a chafodd plant ar draws Cymru brofiadau gwahanol iawn.
Roedd llawer o blant yn cael trafferth deall y gwaith oedd yn cael ei anfon atyn nhw.
Arholiadau
Roedd llawer o bobl ifanc yn anhapus gyda’r canlyniadau derbynion nhw ym mis Awst a oedd yn teimlo’n annheg.
Ar 17 Awst, penderfynodd y Gweinidog Addysg rhoi’r graddau i fyfyrwyr TGAU a Lefel A roedd athrawon yn meddwl bydden nhw’n derbyn pe bai nhw’n sefyll arholiad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i dîm o arbenigwyr edrych ar sut cafodd y graddau eu rhoi. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘adolygiad’.
Parciau a llyfrgelloedd
Arhosodd rhai parciau a llyfrgelloedd ar gau hyd yn oed ar ôl i’r Llywodraeth ddweud eu bod nhw’n gallu agor eto.
Mae’r ddau le yma’n bwysig iawn i blant.
Gwybodaeth i blant
Gallai peth o’r wybodaeth gafodd ei rhoi i blant a phobl ifanc yn ystod y pandemig fod yn fwy clir.
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am arholiadau a sut gallai pobl ifanc gwyno am eu canlyniadau.
Mae llawer mwy o fanylion yn ein hadroddiad llawn.
-
- Byddwn ni’n dal i wrando ar brofiadau plant a dweud wrth y Llywodraeth ac eraill beth mae angen iddyn nhw neud i helpu plant
- Byddwn ni’n cyhoeddi adroddiadau newydd yn dangos sut mae’r pandemig wedi effeithio ar rhai grwpiau o bobl ifanc.
- Byddwn ni’n edrych ar pam mae’r Llywodraeth wedi penderfynu peidio â newid y gyfraith i helpu plant sy’n dysgu gartre, ac i wneud yn siŵr bod rhaid i ysgolion preifat ddilyn rheolau tebyg i gadw plant yn ddiogel, fel sy’n digwydd mewn ysgolion gwladol. Darllenwch mwy am yr adolygiad yma.