Mae’r adroddiad yma yn trafod ein gwaith ar ddiogelu hawliau plant yng Nghymru rhwng Medi 2020 a Medi 2021.
Lawrlwythwch yr adroddiad llawn (PDF)
Lawrlwythwch fersiwn symbolau Widgit i gefnogi pobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol (PDF)
Crynodeb
Ym mis Mawrth 2020 cafodd Cymru ei rhoi mewn cyfnod clo oherwydd y Coronafeirws. Roedd hynny’n golygu bod bywyd yn newid i ni gyd. Roedd e hefyd yn golygu bod llawer o newid yn ffyrdd plant o ddysgu, chwarae, a chael mwy o help pan fydd angen hefyd.
Ein hadroddiad
Yn mis Medi 2020, fe wnaethon ni ysgrifennu adroddiad am sut wnaethon ni warchod hawliau plant yng Nghymru yn ystod pump mis cyntaf y pandemig.
Mae’r adroddiad yma yn trafod beth rydyn ni wedi gwneud ers hynny, rhwng mis Medi 2020 a Medi 2021. Mae e hefyd yn trafod sut mae plant a phobl ifanc wedi cael eu cefnogi gan eraill fel Llywodraeth Cymru a os allen nhw fod wedi gwneud mwy.
Mae’r adroddiad llawn yma a rydyn ni wedi ysgrifennu fersiwn byrach ar y dudalen hon.
Ein prif hamcanion
Pan wnaethon ni glywed gyntaf am y cyfnod clo, fe benderfynon ni wneud pedwar peth:
Gwneud yn siŵr bod gan blant, pobl ifanc a’u teuluoedd wybodaeth a chyngor clir a dibynadwy.
Ers mis Medi 2020 rydyn ni wedi:
- Paratoi i ddiweddaru ein hwb gwybodaeth am y Coronafeirws i blant a’u teulouedd, gan gynnwys gywbodaeth am arholiadau ac apelio.
- Creu ardal Haf o Hwyl ar ein gwefan sy’n cynnwys gwybodaeth am weithgareddau am-ddim led-led Cymru yn ystod gwyliau’r haf.
- Gweithio gydag eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru, i’w hannog i ysgrifennu gwybodaeth glir i blant a phobl ifanc am newidadau pwysig.
- Cefnogi plant a’u teuluoedd drwy ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor.
Gwirio bod plant y gallai fod angen mwy o gefnogaeth arnynt nag eraill yn ddiogel ac yn derbyn eu hanghenion
Ers mis Medi 2020 rydyn ni wedi:
- Gwrando ar bobl ifanc mewn lleoliadau ‘caeedig’, fel sefydliad troseddwyr ifanc, cartref diogel i blant, ac unedau iechyd meddwl i gleifion mewnol, a gwneud yn siwr bod Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Llywodraeth yn ymwybodol o’u pryderon;
- Gofyn i Lywodraeth Cymru wneud yn siwr fod y rheolau am hunan-ynysu yn deg i blant mewn gofal, anabl a rheiny heb erddi.
- Gweithio gyda Llywoodraeth i newid rheolau cwrdd fyny i blant oedd yn cael eu haddysgu o adref.
- Cyhoeddi adroddiadau ar effaith y cyfnodau clo ar blant ag anabledd a phlant o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.
- Gwneud tipyn o waith ymchwil ar fynediad plant i ddyfeisiadau digidol i wneud yn siwr bod disgyblion yn medru ymuno â gwersi ar-lein o adref.
Gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn cael gwrandawiad
Ers mis Medi 2020 rydyn ni wedi:
- Ailadrodd ein harolwg Coronafeirws a Fi a derbyn 20,000 o ymatebion mewn llai na pythefnod.
- Cynnal ‘diwrnod gwrando’ gyda phobl ifanc i ddarganfod mwy am beth roedden nhw’n feddwl am y cyfnod clo byr (firebreak).
- Parhau i gwrdd yn fisol gyda’n panel o bobl ifanc i glywed mwy am eu bywydau
- Galluogi pobl ifanc Cymru i gymryd rhan mewn prosiect Ewrop-gyfan i greu adroddiad ar sut dylai llywodraethau ymateb yn y dyfodol i unrhyw bandemig arall.
Helpu’r llywodraeth a gwasanaethau eraill i glywed am brofiadau a barn plant a phobl ifanc, ac ymateb iddyn nhw.
- Rhannu canyniadau ein harlwog Coronafeirws a Fi gyda’r Llywodraeth diwrnod yn unig wedi i’r arolgw gau ym mis Ionawr. Fe wnaethon ni hefyd greu adroddiadau i bob cyngor yng Nghymru, gan rannu barn plant a phobl ifanc o’u hardaloedd nhw gyda rhai oedd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau lleol.
- Mae Sefydliad Iechyd y Byd (World Health Organisation) wedi dweud fod ein gwaith ni ar Coronafeirws a Fi, a sut wnaeth y Llywodraeth ymateb, yn enghraifft enwedig o dda o sut mae barn plant a phobl ifanc wedi cael ei gynnwys mewn penderfyniadau yn ystod y pandemig.
- Perswadio’r Llywodraeth i ariannu Haf o Hwyl. Fe wnaethon nhw roi £5m i gynghorau ar draws Cymru.
- Trefnu sesiwn drafod gyda’r Llywodraeth i bobl ifanc i wneud yn siwr fod y Llywodraeth yn gwrando ar eu barn am arholiadau.
- Cynnig lot o gyngor, yn aml heb lawer o rybudd, i’r Llywodraeth ar reolau a rheoliadau (regulations) i wneud yn siwr eu bod nhw’n ystyried hawliau plant.
Gwaith arall y swyddfa
Yn ogystal â chynllunio a chwblhau gwaith ychwanegol fel ymateb i’r pandemig, fe wnaethon ni benderfynu parhau i gynllunio a chwblhau’r holl waith wnaethon ni addo cwblhau yn ystod y cyfnod. Fe allwch chi ddarllen mwy am y gwaith yma yn ein hadroddiad blynyddol 2020|21 ar ein gwefan, o dan ‘cyhoeddiadau’.
Beth yw’r rhai o’r pethau wnaeth y Llywodraeth ac eraill yn dda?
- Fe wnaeth sawl Gweinidog, gan gynnwys y Prif Weinidog, gwrdd gyda phobl ifanc i wrando ar eu profiadau ac ateb eu cwestiynnau.
- Fe wnaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Prif Weinidog, gwrdd yn aml gyda Chomisiynwyr ag eraill i wrando ar eu pryderon ac ateb cwestiynnau.
- Fe wnaeth y Llywodraeth warchod rhan fwyaf o hwaliau cyfreithiol plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
- Fe wnaeth y Llywodraeth ariannu Haf o Hwyl – gweithgareddau am ddim i blant fwynhau led-led Cymru yn ystod yr haf.
- Roedd pob ysgol yn medru dysgu ar-lein oherwydd y meddalwedd (software) a dyfeisiau digidol drwy Hwb.
- Fe wnaeth plant a phobl ifanc egluro bod ysgolion a cholegau wedi parhau i wella eu gwersi ar-lein a’r gefnogaeth oedd ar gael iddyn nhw.
- Roedd plant bregus a phlant a gweithwyr allweddol yn medru mynychu hybiau gofal plant yn ystod y cyfnod clo byr (firebreak) a’r cyfnod clo hir rhwng mis Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021.
- Llywodraeth Cymru oedd y Llywodraeth cyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud yn siwr fod rheiny sydd fel arfer yn derbyn cinio ysgol am ddim dal yn derbyn bwyd pan roedd ysgolion ar gau, gan gynnwys yn ystod gwyliau ysgol.
- Rydyn ni wedi gweld syniadau a dulliau creadigol i wneud yn siwr fod plant yn medru mynychu gwasanaeth nyrsys ysgol ac arbennigwyr pan roedd cyfyngiadau mewn lle.
- Doedd dim un plentyn o dan 18 wedi cael eu troseddu am dorri rheolau Covid19.
Beth allai fod wedi bod yn well?
- Dylai’r Llywodraeth fod wedi gwneud yn well drwy sicrhau eu bod nhw’n ystyried hawliau plant ym mhob penderfyniad.
- Roedd mynediad i barciau a chanolfannau hamdden yn wahanol ar draws y wlad, hyd yn oed pan oedd achsion yn isel.
- Roedd rhai plant wedi methu cymryd rhan mewn gwersi ar-lein o gwbl.
- Dim ond un rhiant/warchodwr oedd yn medru ymweld â phlentyn mewn ysbytai.
- Roedd rhai rheolau ddim yn deg ac yn bwrpasol i blant, er enghraifft, roedd pobl ifanc iach mewn cartrefi gofal yn gorfod dilyn yr un rheolau ynysu a phobl hŷn bregus mewn cartrefi gofal i’r hennaed.
- Roedd rhai plant, gan gynnwys plant anabl a rheiny o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol wedi gweld hi’n anoddach derbyn eu hawliau sylfaenol.
- Doedd dim gwybodaeth glir am benderfyniadau mawr, fel y cyfnod clo byr (firebreak) ac am y freichiad (vaccine) ar gael i blant a phobl ifanc.
Beth wnaethon ni addo gwneud
Yn ein adroddiad Coronafeirws a Ni cyntaf, fe wnaethon ni addo:
- Parhau i ddal y llywodraeth ac eraill i gyfrif, gwrando ar blant a phobl ifanc a’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw, a chodi llais lle bo angen.
- Cyhoeddi cyfres o bapurau briffio, gan edrych yn fanylach ar sut mae’r pandemig wedi effeithio ar grwpiau penodol o bobl ifanc. Bydd y papurau briffio hyn yn amlygu beth sydd angen digwydd i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag effeithiau negyddol pellach sy’n deillio o’r pandemig.
- Defnyddio ein pwerau cyfreithiol i adolygu sut mae’r Llywodraeth wedi dod i rai penderfyniadau yn ystod y pandemig. Dyma’r penderfyniadau i beidio â symud ymlaen gyda darnau allweddol o waith a gynlluniwyd: canllawiau ar ddiogelu plant sy’n cael eu haddysgu gartref ac mewn ysgolion annibynnol.
Fe wnaethon ni addo cwblhau’r tri mewn 2 fis. Fe wnaethon ni lwyddo cwblhau’r tri, ar amser.
Beth nesaf i’r Llywodraeth?
Rydyn ni wedi gofyn i’r Llywodraeth ystyried ac ymateb i’r adroddiad yma a’r rhai eraill rydyn ni wedi cyhoeddi yn ystod y pandemig. Rydyn ni hefyd wedi gofyn iddyn nhw ddilyn ein cyngor wrth iddyn nhw baratoi am argyfyngau yn y dyfodol i wneud yn siwr fod hawliau plant yn cael eu hystyried a’u gwarchod, bob amser.