Ar 19 Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru cyfnod atal byr (‘firebreak’) i atal y Coronafeirws rhag lledaenu. Parodd y cyfnod hwn o Ddydd Gwener 23 Hydref tan Ddydd Llun 9 Tachwedd.
Yn ystod y cyfnod hwn, roedd rhaid i ddysgwyr ym mlynyddoedd 9-13 yn ysgolion uwchradd a myfyrwyr yn lleoliadau addysg bellach dysgu yn y cartref ar gyfer wythnos yn ychwanegol ar ôl hanner tymor yr Hydref.
Ar 13 Tachwedd, siaradon ni gyda phlant a phobl ifanc a effeithiwyd gan y penderfyniad hwn. Rydyn ni wedi ysgrifennu adroddiad byr sy’n crynhoi beth weithiodd, beth wnaeth ddim gweithio, a pha welliannau gall cael eu gwneud.