Darllenwch fersiwn hawdd i’w ddarllen
BSL AR WAELOD Y DUDALEN
Ym mis Mawrth 2020 cafodd cyfyngiadau symud eu cyflwyno yng Nghymru oherwydd y Coronafeirws.
Roedden ni eisiau gwybod sut roedd y cyfnod clo yma yn effeithio ar yr holl blant a phobl ifanc ar draws Cymru.
Felly fe lunion ni arolwg ar gyfer plant a phobl ifanc o’r enw Coronafeirws a Fi.
Fe wnaeth pobl eraill ein helpu i baratoi’r arolwg hefyd, a dweud wrth blant a phobl ifanc amdano fe:
- Llywodraeth Cymru
- Senedd Ieuenctid Cymru
- Plant yng Nghymru
Atebodd dros 23,000 o blant a phobl ifanc yr arolwg.
Profiadau plant anabl
Yn y wybodaeth hon, rydym yn rhannu barn plant a phobl ifanc anabl.
Rydym wedi edrych i weld a oeddent yn teimlo’n wahanol am bethau o gymharu â phlant a phobl ifanc a ddywedodd nad oed ganddynt anabledd.
Dywedodd plant a phobl ifanc anabl am pethau da a phethau drwg digwyddodd tra roedden nhw’n aros gartref. Mwynhaodd plant a phobl ifanc anabl pethau gwahanol gartref.
Wnaethon nhw fwynhau:
• Siarad â’u teulu a ffrindiau
• Ymarfer corff
• Gwneud gweithgareddau ysgol
• Chwarae a bod yn greadigol
Teimlodd plant a phobl ifanc anabl bod rhai pethau’n fwy anodd gartref. Roedden nhw eisiau:
• Mwy o gymorth i fynd ar-lein a gwneud gwaith ysgol
• Mwy o wybodaeth am bethau i wneud yn y tŷ
• Help i dderbyn y bwyd sydd angen.
Roedd plant a phobl ifanc anabl yn fwy debygol o:
• Boeni am y coronafeirws
• Teimlo’n drist ac yn poeni
• Gweld eisiau gwasanaethau arall roedden nhw’n defnyddio fel arfer
• Teimlo’n llai hyderus am eu gwaith ysgol. Beth fydd Sally yn gwneud nesaf?
Bydd Sally yn gofyn i Lywodraeth Cymru i feddwl sut y gallant gefnogi plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i wneud eu gwaith ysgol.
Bydd Sally yn parhau i ofyn i Lywodraeth Cymru i weithio ar gynllun i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y bwyd sydd ei angen arnynt.
Mae Sally eisiau i wasanaethau wneud eu gwybodaeth yn glir fel y gall plant a phobl ifanc anabl gael cefnogaeth pan fyddant yn drist neu’n bryderus.