Ym mis Mai 2020, roedd Comisiynydd Plant Cymru a’i thîm am glywed gan blant a phobl ifanc am eu profiadau o fyw trwy gyfnod pandemic y Coronafeirws.
Clywodd y Comisiynydd a’i thîm gan bron i 24,000 o blant a phobl ifanc trwy gynnal arolwg ‘Coronafeirws a Fi’. Fel rhan o’r arolwg, roedd opsiwn i blant tynnu lluniau o’u profiadau o aros adre.
Derbyniodd y Comisiynydd a’i thîm 232 o ymatebion, gan gynnwys lluniau ac ymatebion ysgrifenedig megis cerddi.
Yn eu hymatebion, dywedodd blant eu bod nhw wedi mwynhau gweithgareddau yn yr awyr agored a threulio amser gyda’u rhieni a’u gofalwyr. Dywedodd plant hefyd eu bod nhw wedi gweld eisiau treulio amser gydau theulu a ffrindiau tu hwnt i’w haelwydydd, yn ogystal â mynd i’r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau arall.