Ar 5 Hydref cyhoeddon ni ein hadroddiad blynyddol 2020/21.
Mae’n trafod y cyfnod rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.
Lawrlwythwch yr adroddiad blynyddol (PDF)
Ein Blwyddyn Mewn Rhifau
- Ymgysylltu’n bersonol ag o leiaf 694 o blant a phobl ifanc ledled Cymru mewn digwyddiadau arlein, gweithdai a chyfarfodydd
- Casglu barn 44,000 o blant a phobl ifanc ledled Cymru trwy ein harolygon ‘Coronafeirws a Ni’
- Casglu barn 167 o benaethiaid ysgolion a cholegau ar gynhwysiad digidol yn ystod un wythnos ym mis Ionawr
- Cynnal gwersi hawliau plant ar-lein i 864 o blant a phobl ifanc
- Sicrhau bron 10,000 o bleidleisiau yn etholiad Senedd paralel cyntaf y wlad i bobl ifanc 11-15 oed
- Cynnal sesiynau hyfforddi ar hawliau plant i fwy nag 800 o gyfranogwyr
- Ymateb i 30 o leiaf o ymgyngoriadau’r Senedd, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, gan greu newid amlwg mewn nifer o enghreifftiau o bolisïau newydd a deddfwriaeth
- Rheoli 663 o achosion trwy ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor
Rhai o’n prif gyflawniadau
- Chwarae rôl bwysig yn casglu data gyda phlant a phobl ifanc yn ystod y pandemig: Dau arolwg Coronafeirws a Fi, adroddiad diwrnod gwrando ac arolwg ac adroddiad cynhwysiad digidol
- Dylanwadu ar ystod eang o fesurau, gan gynnwys plant yn dychwelyd i’r ysgol, newidiadau i drefniadau cymwysterau a galluogi plant mewn gofal i fod mewn cysylltiad â’u teuluoedd
- Creu a chynnal hwb gwybodaeth gyda gwybodaeth gywir, gyfredol a hygyrch ynghylch y pandemig
- Cynnal adolygiad ffurfiol cyntaf y swyddfa o sut bu Llywodraeth Cymru’n ymarfer ei swyddogaethau
- ‘Blociau Adeiladu’: Mae’r adroddiad hwn yn amlygu canfyddiadau ein hymchwiliad i waharddiadau mewn addysg Cyfnod Sylfaen (3-7 oed) ledled Cymru, a ddatgelodd fod naw plentyn, ar gyfartaledd, fesul awdurdod, wedi cael eu gwahardd fwy nag unwaith, a bod un plentyn wedi cael ei wahardd 18 gwaith mewn cyfnod o un flwyddyn
Ein hargymhellion
Dyma ein hargymhellion i’r Llywodraeth yn ein hadroddiad blynyddol.
Amgylchedd teulu a gofal amgen
1) Rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno map erbyn 1 Ebrill 2022 sy’n nodi amserlen a chamau gweithredu y byddant yn eu cymryd i ddechrau dod ag elw i ben yn y ddarpariaeth gofal cymdeithasol i blant.
2) Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ati’n gyflym i gyflwyno hawliau statudol a pholisïau ar gyfer ymadawyr gofal, ar ffurf pecyn cydlynus:
- Newid Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lleiant (Cymru) 2014 a’r canllawiau, er mwyn sicrhau bod gan bawb sy’n gadael gofal hawl i Ymgynghorydd Personol hyd at 25 oed;
- Estyn hawliau statudol cynllun trefniadau byw ôl-18 ‘Pan Fydda i’n Barod’ i bobl ifanc sy’n gadael gofal preswyl, er mwyn sicrhau bod pobl ifanc sy’n gadael gofal, beth bynnag yw eu lleoliad, yn cael yr un cyfleoedd;
- Datblygu safonau cenedlaethol i roi sylw i bryderon ynghylch ansawdd, digonolrwydd ac addasrwydd llety lled-annibynnol i bobl ifanc â phrofiad o ofal hyd at 25 oed. Cynigiwyd hyn gan Grwp Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Cyd Llywodraeth flaenorol Cymru, ond mae’r cynnydd wedi oedi.
- Gweithio gydag ymadawyr gofal ac awdurdodau lleol i gynhyrchu gwybodaeth ariannol glir sydd ar gael yn genedlaethol, i helpu pobl ifanc a’u hymgynghorwyr personol i gael mynediad i’r ystod o grantiau, budd-daliadau a phethau y dylen nhw fedru eu hawlio wrth adael gofal. Dylai hyn gynnwys meini prawf cymhwysedd/canllawiau ar gyfer Cronfa Gwˆ yl Ddewi, er mwyn rhoi sicrwydd i ymadawyr gofal ynghylch sut gallan nhw wneud y defnydd gorau o’r cynllun.
- Gan ddefnyddio data am ddefnydd presennol o ofal anrheoleiddiedig, rhaid ystyried pa welliannau fyddai angen ar Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i gryfhau archwilio a rheoleiddio gofal a darpariaeth llety i reiny sydd ddim o dan cyfrifoldeb y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd.
3) Rhaid i Lywodraeth Cymru:
- Gryfhau rôl rhianta corfforaethol Cymru trwy ddeddfwriaeth a chanllawiau, er mwyn sicrhau bod system ofal Cymru yn seiliedig ar hawliau ac yn galluogi plant i ffynnu mewn gofal. Mae’n arbennig o bwysig symud y gwaith hwn ymlaen, gan fod niferoedd uchel o bobl ifanc â phrofiad o ofal wedi ymwneud â’r broses hyd yma, a bydd ganddyn nhw ddisgwyliadau bod newidiadau pwysig i’w gwneud
- Goruchwylio a monitro’r broses o estyn yn eang y Protocol i Leihau Troseddoli Diangen Plant sy’n Derbyn Gofal, gyda chefnogaeth adnoddau a hyfforddiant i gryfhau arfer cyfredol.
4) Mae angen i Lywodraeth Cymru arddangos cynnydd tuag at weithredu’r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid ymhellach, yn arbennig yr elfennau llety diogel.
5) Dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofalu er mwyn sicrhau bod y strategaeth Gofalwyr Didâl yn adlewyrchu eu hanghenion ac yn hybu eu hawliau yn ddigonol.
Addysg, dinasyddiaeth a gweithgareddau diwylliannol
6) Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl staff addysgu a chymorth sy’n ymwneud â chyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn derbyn dysgu proffesiynol o safon uchel a chanllawiau cenedlaethol i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o CCUHP a CCUHPA.
7) Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu ac ariannu cynnig cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol o safon uchel, fel bod modd i bob lleoliad yng Nghymru, erbyn mis Medi 2022, fod wedi elwa o’r dysgu proffesiynol hwn, a bod wedi nodi ymarferydd arweiniol arbenigol ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, sy’n gallu bwrw golwg dros ddull lleoliad cyfan o ymdrin â’r pwnc hwn sydd wedi’i integreiddio â’r cwricwlwm.
8) Mae angen bod gwybodaeth eglur, hygyrch yn cael ei chyfeirio at bob person ifanc, gan gynnwys y rhai sy’n sefyll cymwysterau galwedigaethol, ynghylch sut bydd eu cymwysterau’n cael eu dyfarnu yn 2022. Mae angen i’r wybodaeth hon fod ar gael cyn gynted â phosib, a dylai pobl ifanc fod yn rhan o ddatblygu’r negeseuon hyn.
9) Dydyn ni heb weld copi o’r Adolygiad o Deithio gan Ddysgwyr gorffenedig. Er bod y cyfyngiadau cyn-etholiad o fis Mawrth 2021 wedi atal cyhoeddi o bosib, ni ellir gadael y gwaith hwn a chamau gweithredu dilynol ar ôl ym mhumed tymor y Senedd.
Rydyn ni’n disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu canfyddiadau a chyflwyno’r camau a gymerir o ganlyniad i’w hadolygiad o Deithio gan Ddysgwyr. Mae modd cyhoeddi canlyniadau interim os oes angen gwneud gwaith pellach, ond mae’n rhaid cyhoeddi gwybodaeth i sicrhau tryloywder a chynnydd ar y mater hwn.
10) Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid, ysgolion a phlant a phobl ifanc eu hunain i sicrhau bod uchelgais y dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol yn cael cyfatebiaeth o ran adnoddau, capasiti a rhwydwaith cefnogi system gyfan ar draws y gwasanaethau perthnasol sy’n diwallu anghenion penodol pob ysgol.
11) Addysgu o adref: Rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i gyflawni’n llawn eu hymrwymiadau i’r tri phrawf ar gyfer y maes polisi hwn; sef bod cyfrif am bob plentyn, eu bod yn derbyn addysg briodol a’u hawliau dynol eraill, ac er mwyn sicrhau hynny, bod pob plentyn yn cael cyfle i gael eu gweld, a gwrando ar eu barn a’u profiadau.
12) Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu mewn dau faes:
- Rhoi sylw i faterion cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) trwy ddeddfwriaeth newydd; mae hyn y tu allan i’r Rheoliadau perthnasol ac yn ddarn ar wahân o waith, y mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth iddo a’i weithredu ar frys; a
- Chynnal adolygiad llawn o’r rheoliadau cyfredol ar gyfer ysgolion annibynnol a chyflwyno rheoliadau diwygiedig a chryfach ar gyfer rhoi sylw i unrhyw fylchau neu ddiffygion.
13) Rhaid i Lywodraeth Cymru bennu nod polisi clir i atal gwaharddiadau rhag cael eu rhoi i blant o dan 8 oed. Dylid newid y canllawiau statudol ar waharddiadau fel eu bod yn cynnwys ystyriaethau penodol ynghylch oed y plentyn ac yn cyflwyno dewisiadau clir yn lle gwahardd. Dylid cefnogi hyn â chynllun gweithredu ar gyfer cymorth cynnar.
Safon ddigonol o fyw
14) Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau â’r rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP) er mwyn cefnogi rhoi dull gweithredu Dim Drws Anghywir ar waith, a model system gyfan NYTH, gan gynnwys y gwaith penodol o fewn y modelau hyn ar gyfer gwella cefnogaeth i blant niwroamrywiol.
15) (Canllaw pontio) Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau trwy’r canllawiau a gyhoeddwyd bod adnoddau digonol ar gyfer y rolau newydd arweinyddion gweithredol a gweithwyr allweddol ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.
16) Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer pob bwrdd iechyd, yn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael mynediad at eiriolaeth annibynnol cysylltiedig â iechyd os bydd angen hynny arnyn nhw. Dylai’r canllawiau hyn fod yn seiliedig ar y gwaith a wnaed hyd yma, a chael eu cyhoeddi yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22.
17) Mae’r Rhaglen Lywodraethu hyd at 2026 yn cynnwys bwriadau uchelgeisiol ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol a’i integreiddio â gofal iechyd. Rhaid i waith cynnar ar y flaenoriaeth hon roi sylw i fater hirsefydlog Gofal Parhaus, a rhaid i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd fod yn rhan o gael hyd i’r atebion hynny.
18) Rhaid i Lywodraeth Cymru gynnal ei adolygiad o’r bwyd y gellir ei hawlio mewn ysgolion heb oedi, i gynnwys cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim, a sicrhau bod brecwast ysgol yn cyrraedd cynifer o blant â phosibl, gan gynnwys y rhai sydd angen y ddarpariaeth hon fwyaf.