Darllenwch yr adroddiad
Mae ein hadroddiad blynyddol ar gael i’w ddarllen yma.
Cipolwg ar ein blwyddyn
- Gwrando ar 9443 plant a phobl ifanc ledled Cymru
- Helpu 554 plentyn unigol trwy ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor
- Asesu gwelliannau hygyrchedd cadair olwyn mewn ysgolion
- Cyhoeddi adroddiad ‘Stori Sam’, sy’n tanlinellu profiadau 2000 o blant o fwlio, datblygu adnoddau gwrthfwlio i ysgolion a chynnal arddangosfa yn y Senedd
- Cyflwyno tystiolaeth newydd ar brofiadau plant o chwarae a hamdden
- Datblygu adnoddau pwerus a senstif i ysgolion ar Daclo Islamoffobia sydd wedi newid dealltwriaeth ac agwedd plant
- Gwrando ar brofiadau plant gydag anableddau dysgu, a’u teuluoedd, wrth iddyn nhw symud i oedolaeth
- Sicrhau dyletswydd cyfriethiol newydd hawliau plant yn rhan o ddarpariaeth addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Sicrhau cyfleoedd ac arian ychwanegol i bobl ifanc sy’n gadael gofal
- Sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn gofal wedi cael cyfle i ddweud eu dweud trwy’r holiadur Bright Spots
- Gweithio gyda chyrff cyhoeddus, yn cynnwys byrddau iechyd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Carchar Parc, Amgueddfa Cymru, ac awdurdodau lleol i hybu Dull Hawliau Plant
- Cyhoeddi canllaw newydd i ysgolion ar Ddull Hawliau Plant, a chefnogi miloedd o blant a’u hathrawon i ddysgu mwy am hawliau plant a dylanwadu ar ein gwaith trwy ein cynlluniau Llysgenhadon llwyddiannus
- Creu teclun hunan-asesu gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i helpu cyrff cyhoeddus cyfuno eu gwaith ar hawliau plant gyda’u gwaith ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Ymyrryd er mwyn amddiffyn Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol
- Cefnogi ysgolion cynradd i greu clybiau newydd sy’n pontio’r cenedlaethau
- Gweithio gyda phwyllgor Eco ysgol gynradd i asesu i ba raddau rydyn ni’n ecogyfeillgar, a newid ein hymarfer o ganlyniad
- Cael ein hadnabod fel cyflogwr sy’n talu’r Cyflog Byw
- Sichrau 763 darn o sylw yn y wasg
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn gwneud 15 argymhelliad i Lywodraeth Cymru.
Dyma fideo sy’n eu crynhoi:
Os ydych chi angen yr adroddiad mewn fformat gwahanol, neu eisiau mwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 765600 neu ebostiwch post@complantcymru.org.uk