Darllenwch ein Maniffesto 2021
Yr etholiad
Ym mis Mai 2021 bydd etholiad i’r Senedd. Dyma pryd bydd pobl sy’n byw yng Nghymru yn pleidleisio i ddewis pwy maen nhw eisiau gweld yn rhedeg y wlad am y 5 mlynedd nesa.
Un o’r ffyrdd mae pleidiau yn gwneud hyn yw trwy gyhoeddi rhywbeth o’r enw maniffesto.
Mae maniffesto yn esbonio wrth bobl beth fyddai plaid yn gwneud tasen nhw’n cael digon o bleidleisiau i redeg y wlad.
Beth rydyn ni eisiau gweld mewn maniffestos
Ein gwaith ni yw gwneud yn siŵr bod y Llywodraeth bob amser yn meddwl am hawliau plant wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant. Rydyn ni eisiau i’r holl bleidiau gwleidyddol sy’n gobeithio ennill yr etholiad flwyddyn nesa feddwl am hawliau plant wrth ysgrifennu eu maniffestos.
Ar y dudalen yma, rydyn ni wedi nodi’r prif bethau rydyn ni eisiau i Lywodraeth Cymru wneud ar gyfer plant a phobl ifanc.
Dyma’r pethau rydyn ni eisiau i bleidiau gwleidyddol eu rhoi yn eu maniffestos, er mwyn i ni fedru bod yn siŵr bydd y Llywodraeth nesa yn gwneud beth sydd orau i blant a phobl ifanc.
Darllenwch y maniffesto llawn trwy glicio’r linc uchod.
Y prif bethau rydyn ni eisiau i Lywodraeth Cymru wneud ar gyfer plant a phobl ifanc
- Gweithred i leihau tlodi ymysg plant a chefnogaeth ar gyfer rhai sy’n byw mewn tlodi.
- Gwrando ar syniadau plant a phobl ifanc ar gyfer taclo newid hinsawdd a gweithredu arnyn nhw.
- Pobl ifanc dan 18 yn gallu teithio am ddim ar fysus a threnau.
- Mwy o wasanaethau ieuenctid a chwarae mae unrhyw un yn gallu eu defnyddio, am ddim.
- Gwneud e’n llawer haws i blant gael help a chymorth ar gyfer iechyd meddwl. Dylai plant gallu cael yr help maen nhw ei angen yn hawdd, ac oddi wrth sawl lle gwahanol. Ni ddylai fod unrhyw ‘ddrws anghywir’ i blant sy’n edrych am help. Ble bynnag maen nhw’n edrych am help, dylen nhw ei dderbyn.
- Gwneud yn siŵr bod gan bob plentyn y dyfeisiau digidol angenrheidiol i ddysgu gartre, a mynediad i’r rhyngrwyd.
- Gwneud yn siŵr bod hawliau pob plentyn yng Nghymru yn cael eu parchu yn yr ysgol.
- Meddwl yn ofalus am brofion ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc 7-18 oed. Ydyn nhw angen cael ei newid o gwbl? Bydden nhw angen gwrando ar blant, pobl ifanc, rhieni, ysgolion, prifysgolion, a chyflogwyr i wneud y penderfyniad.
- Gwneud deddfau newydd i amddiffyn hawliau plant sy’n cael eu dysgu adre. Pan mae plant yn cael eu haddysgu adref ar hyn o bryd, does dim angen iddyn nhw ddilyn unrhyw rheolau, sy’n golygu bod ni ddim yn gwybod os ydyn nhw’n derbyn popeth maen nhw ei angen.
- Rhoi cyfle i bob plentyn ifanc fynd i feithrinfa am ddim, i’w helpu nhw i ddysgu a datblygu.
- Stopio cwmnïau preifat rhag gwneud elw mewn cartrefi plant a gofal maeth.
- Gosod y Confensiwn Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn llawn mewn cyfraith Cymru.